Taliadau Hunanasesiad drwy ap CThEF yn treblu i £121 miliwn
Mae mwy o gwsmeriaid nag erioed yn defnyddio ap CThEF i dalu eu bil treth Hunanasesiad.

Mae bron i 100,000 o gwsmeriaid wedi talu £121 miliwn gan ddefnyddio ap Cyllid a Thollau EF (CThEF) ers mis Ebrill 2023. Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf i dalu eu bil treth Hunanasesiad.
Mae’r ffigurau diweddaraf gan CThEF yn dangos bod 97,365 o gwsmeriaid, rhwng mis Ebrill a mis Medi 2023, wedi defnyddi´Ç’r ap i setlo eu bil treth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023. Mae hyn dros 3 gwaith yn fwy na’r £34.6 miliwn a dalwyd gan 36,467 o gwsmeriaid yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Â
Mae cwsmeriaid wedi gallu talu eu bil treth Hunanasesiad drwy ap CThEF, sy’n ddiogel ac am ddim ers mis Chwefror 2022 ac mae fideo YouTube yn dangos sut i wneud taliad.Â
Yn ogystal â gwneud taliadau, yr ap yw’r ffordd symlaf i gwsmeriaid Hunanasesiad gael mynediad at fanylion personol gan gynnwys eu Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwyr (UTR), rhif Yswiriant Gwladol ac unrhyw wybodaeth TWE y gallai fod ei hangen arnynt i lenwi eu Ffurflen Dreth.Â
Mae gan yr ap lu o nodweddion ac mae ar gael i bawb, nid dim ond y rhai sydd angen defnyddi´Ç’r system Hunanasesiad.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:Â
Mae gan bob un ohonon ni fywydau prysur, felly mae’n gwneud synnwyr bod mwy a mwy o gwsmeriaid yn dewis cael gafael ar eu gwybodaeth dreth bersonol a thalu eu bil treth drwy ap CThEF. Mae’n hyblyg ac yn gyfleus â€� ac mae’n rhoi tawelwch meddwl bod eu Hunanasesiad wedi’i sortio. Ewch i 188ÌåÓý a chwilio am ‘HMRC Appâ€� i ddysgu mwy.
Y dyddiad cau i gwsmeriaid lenwi eu Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, ac i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus, yw 31 Ionawr 2024.Â
Gall cwsmeriaid dalu eu bil drwy’r ap a chael ad-daliad o unrhyw dreth sy’n ddyledus. Atgoffir cwsmeriaid i gynnwys manylion eu cyfrif banc ar eu Ffurflen Dreth i sicrhau bod unrhyw ad-daliad yn eu cyrraedd yn gyflym ac yn ddiogel.
Gall cwsmeriaid drefnu negeseuon i’w hatgoffa am daliadau sydd i ddod â€� does dim angen poeni am fethu dyddiad cau neu am gael cosb.  I osod nodynnau hatgoffa, dylent ddewis yr adran ‘Hunanasesiadâ€� yn yr ap, lle b´Ç’r opsiwn i osod nodyn atgoffa ar gael. Bydd modd dewis nodynnau atgoffa ar gyfer dyddiadau cau. Â
Dangosodd data ap CThEF y canlynol hefyd:Â
- Ionawr 2023 oedd y mis prysuraf ar gyfer taliadau drwy’r ap gyda 56,738 o gwsmeriaid yn talu £125,819,051 mewn treth
- Gorffennaf 2023 oedd yr ail fis prysuraf gyda 29,774 o gwsmeriaid yn defnyddi´Ç’r ap i dalu £54 miliwn
Bydd angen ID defnyddiwr a chyfrinair ar ddefnyddwyr yr ap i gael mynediad at eu gwybodaeth bersonol. Bydd modd sefydlu’r rhain wrth iddyn nhw ddefnyddi´Ç’r ap. Â
Mae swyddogaeth Hunanasesiad yr ap hefyd ar gael yn Gymraeg. Gall cwsmeriaid alluogi opsiynau Cymraeg ´Ç’r sgrin gosodiadau.Â
Os na all cwsmeriaid dalu’n llawn, mae CThEF am eu helpu i ddod o hyd i ffordd fforddiadwy o dalu’r dreth sydd arnynt. Os yw dyled cwsmer yn llai na £30,000, mae’n bosibl y bydd yn gallu trefnu trefniant Amser i Dalu a gall wneud hyn ar-lein heb siarad â CThEF. I gael rhestr lawn ´Ç’r dulliau o dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus, ewch i 188ÌåÓý. Â
Mae asesiad fforddiadwyedd newydd ar gael ar-lein drwy’r gwasanaeth Amser i Dalu drwy Hunanwasanaeth. Gofynnir i gwsmeriaid am eu hincwm a’u gwariant i gyfrifo eu hincwm gwario a sefydlu cynllun talu fforddiadwy ar eu cyfer.Â
Mae cwsmeriaid hunanasesiad yn wynebu risg uwch o gael eu twyllo ac ni ddylent rannu eu manylion mewngofnodi gydag unrhyw un ar unrhyw adeg, gan gynnwys asiantau treth. Ewch ati i ddysgu am gyngor CThEF ar sgamiau ar 188ÌåÓý.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad
Data’r ap rhwng mis Chwefror 2022 a mis Medi 2023Â
Mis | Swm a dalwyd | Nifer y cwsmeriaid |
---|---|---|
Chwefror 2022 | £1,771,533 | 2605 |
Mawrth 2022 | £4,039,112 | 4920 |
Ebrill 2022 | £3,686,893 | 6517 |
Mai 2022 | £3,048,778 | 4605 |
Mehefin 2022 | £5,243,962 | 5386 |
Gorffennaf 2022 | £14,426,735 | 9655 |
Awst 2022 | £4,359,364 | 5066 |
Medi 2022 | £3,886,830 | 5238 |
Hydref 2022 | £5,701,261 | 6573 |
Tachwedd 2022 | £8,172,008 | 8615 |
Rhagfyr 2022 | £18,981,500 | 14333 |
Ionawr 2023 | £125,819,051 | 56738 |
Chwefror 2023 | £13,934,228 | 12026 |
Mawrth 2023 | £10,258,421 | 13301 |
Ebrill 2023 | £8,776,640 | 11756 |
Mai 2023 | £10,055,969 | 11417 |
Mehefin 2023 | £15,437,787 | 14844 |
Gorffennaf 2023 | £54,842,874 | 29774 |
Awst 2023 | £16,504,463 | 14355 |
Medi 2023 | £15,433,397 | 15219 |
Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap CThEF ´Ç’r neu o . Ar hyn o bryd, mae gan yr ap sgôr o 4.8 seren ar yr App Store, a 4.3 ar Google Play.Â
Ar ôl i gwsmer fewngofnodi i’r ap am y tro cyntaf, gall ddefnyddio dull adnabod yr wyneb, ôl ei fys neu bin 6 digid i gael mynediad cyflym a diogel.Â
Bydd angen dau fath o dystiolaeth ar gwsmeriaid nad oes ganddynt Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth i brofi pwy ydynt. Gall hyn gynnwys pasbort y DU a thrwydded yrru’r DU. Rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â rhannu eu ID na chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar unrhyw adeg. Gallai rhywun sy’n defnyddi´Ç’r manylion hyn ddwyn oddi wrthynt neu wneud hawliad twyllodrus yn eu henw.Â
Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau. Gall cwsmeriaid ddefnyddi´Ç’r ap i ddiweddaru eu manylion gan gynnwys cyfeiriad neu enw newydd. Mae angen i gwsmeriaid hefyd roi gwybod i ni os ydynt wedi rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig neu os oes angen iddynt newid eu manylion busnes. Gallwch wneud hyn ar-lein yn 188ÌåÓý.Â
Mae CThEF am eich helpu i gael eich treth yn gywir. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael ar-lein, sy’n cynnwys:Â
- � bydd y cynorthwyydd yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, ac os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, gallwch ofyn am gael siarad ag ymgynghorydd
- mae nodiadau arweiniad a thaflenni cymorth a yn rhoi gwybodaeth helaeth i chi os ydych yn cael anawsterau
- gweminarau byw lle gallwch ofyn cwestiynau neu, os na allwch ymuno, gallwch wylio gweminarau wedi’u recordio ar alw
- cymorth technegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF am help i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein
- Y diweddaraf drwy e-bost - , fel na fyddwch chi’n colli’r wybodaeth ddiweddaraf am Hunanasesiad
- cael y diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol � dilynwch CThEF ar Twitter @HMRCcustomers i gael y diweddaraf am wasanaethau Hunanasesiad ac i gael nodynnau atgoffa defnyddiol
- os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i’ch helpu gyda Hunanasesiad, gallwch gysylltu â sefydliad yn y sector gwirfoddol neu gymunedol sy’n gallu rhoi help a chyngor i chi, neu gallwch gael cymorth yn uniongyrchol gan CThEF
Os yw unrhyw un ´Ç’r farn nad oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, dylent roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw gosbau.