Datganiad i'r wasg

Bydd peidio cyhoeddi gwrthddalen y drwydded yrru cerdyn llun yn arbed miliynau i鈥檙 trethdalwr pob blwyddyn

O heddiw (8 Mehefin 2015) ymlaen, mae gwrthddalen bapur y drwydded yrru cerdyn llun yn cael ei gyfnewid gyda gwasanaeth ar-lein.

Bydd hyn yn arbed miliynau o bunnoedd i fodurwyr ac yn newid sut maent yn rhannu eu gwybodaeth gyda chyflogwyr neu gwmn茂au llogi ceir.

Y llynedd roedd yn rhaid i鈥檙 DVLA ddarparu cop茂au newydd o tua 445,000 o gwrthddalennau wedi i yrwyr eu colli, gan godi 拢20 yr un atynt i dalu鈥檙 gost.

Meddai鈥檙 Gweinidog Trafnidiaeth yr Arglwydd Ahmad o Wimbledon:

Bydd cyfnewid y gwrthddalen gyda gwasanaeth ar-lein yn arbed arian i fodurwyr ac yn lleihau biwrocratiaeth ddiangen.

Bydd hefyd yn fanteisiol i gyflogwyr a chwmn茂au llogi cerbydau. Roedd dibynnu ar y gwrthddalen yn golygu dibynnu ar ddarn o bapur a allai fod wedi dyddio. Nawr, pan fydd y gyrrwr yn dewis ei rannu, bydd y sefydliadu hynny yn gallu gweld gwybodaeth hollol gywir yn syth o gofnodion y DVLA. Bydd hyn yn lleihau eu risg ac yn gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Mae鈥檙 gwrthddalen bapur yn cynnwys gwybodaeth ar bwyntiau cosb y gyrrwr ynghyd 芒 manylion pa gerbydau y gall yrru. Mae gyrwyr dal angen cadw eu trwydded yrru, p鈥檜n a yw鈥檔 drwydded cerdyn llun plastig neu鈥檔 drwydded bapur draddodiadol a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2000.

Wrth esbonio鈥檙 system newydd, dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr y DVLA:

Mae鈥檔 hawdd iawn gweld a rhannu eich cofnod gyrru. Ewch i 188体育 a chwilio am 鈥榞weld trwydded yrru鈥�. Gallwch weld eich gwybodaeth yn electronig a chreu cod gwirio y gallwch ei rannu gyda phobl sydd angen gweld eich manylion (fel cyflogwr neu gwmni llogi ceir). Os ydych chi eisiau, gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu crynodeb.

Ceir rhagor o wybodaeth ar yr holl newidiadau ar 188体育 鈥� chwiliwch am 鈥榥o more counterpart鈥�.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae dros 46.4 miliwn o ddeiliaid trwyddedau ym Mhrydain Fawr.
  2. Mae gan 37.7 miliwn o ddeiliaid trwyddedau drwydded yrru cerdyn llun.
  3. Mae gan 8.7 miliwn o ddeiliaid trwyddedau drwydded bapur draddodiadol a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2000 鈥� mae鈥檙 trwyddedau hyn yn dal yn ddilys.
  4. Gall gyrwyr weld gwybodaeth eu trwydded yrru ar-lein a chreu cod gwirio i rannu manylion gyda thrydydd part茂on ar www.gov.uk/gweld-neu-rannu-eich-gwybodaeth-trwydded-yrru.
  5. Gall trydydd part茂on ddefnyddio鈥檙 cod gwirio ar www.gov.uk/gwirio-gwybodaeth-trwydded-yrru-rhywun.
  6. Mae鈥檙 newidiadau hyn yn berthnasol i drwyddedau gyrru Prydain Fawr yn unig. Mae trwyddedau gyrru yn fater sydd wedi ei ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2015