Cymuned yn Sweden yn pleidleisio o blaid Cyfleuster Gwaredu Daearegol
Cwmni Rheoli Tanwydd a Gwastraff Niwclear o Sweden, SKB, yn pasio carreg filltir hanesyddol

Ar 13 Hydref, pleidleisiodd Cyngor Dinesig 脰sthammar yn Sweden o blaid derbyn yn ffurfiol yr ystorfa danddaearol derfynol ar gyfer tanwydd niwclear sydd wedi cael ei ddefnyddio.
Mae鈥檙 gymuned wedi dangos cefnogaeth gref i鈥檙 cyfleuster drwy gydol y broses ddatblygu. Yn gynharach eleni, nododd 82 y cant o鈥檙 ymatebwyr cymunedol i鈥檙 p么l blynyddol ym Mwrdeistref 脰sthammar eu bod o blaid cynlluniau SKB i adeiladu鈥檙 ystorfa derfynol yn Forsmark.
Mae鈥檙 penderfyniad terfynol bellach yn nwylo Llywodraeth Sweden, a dyma鈥檙 pwynt penderfynu olaf sy鈥檔 weddill cyn i SKB gael y drwydded adeiladu ar gyfer eu hystorfa.
Dywedodd Johan Dasht, Prif Swyddog Gweithredol SKB, 鈥淢ae鈥檔 braf iawn yn wir bod Cyngor Dinesig 脰sthammar wedi gwneud y penderfyniad hanesyddol hwn. Mae hyn yn gwbl hanfodol er mwyn ei gwneud hi鈥檔 bosibl i Sweden gymryd y cyfrifoldeb terfynol am y gwastraff ymbelydrol a gynhyrchwyd gan ein cenhedlaeth.鈥�
Cydnabyddir yn rhyngwladol mai cyfleuster gwaredu dwfn parhaol yw鈥檙 ffordd fwyaf diogel a sicr o reoli gwastraff gweithgaredd uwch yn y tymor hir. Mae gwledydd ledled y byd yn bwriadu cael gwared ar eu gwastraff gweithgaredd uwch fel hyn. Yn ogystal 芒 Sweden, mae Canada, y Ffindir, Ffrainc a鈥檙 Swistir ymhell ar y blaen i鈥檙 Deyrnas Unedig o ran gweithredu.
Yn y Deyrnas Unedig, mae RWM yn bwriadu gweithio mewn partneriaeth 芒 nifer o gymunedau o bob cwr o鈥檙 wlad i archwilio sut gall Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn eu hardal ddarparu buddion economaidd a chyflogaeth hirdymor a chwarae rhan fawr yn eu cynlluniau datblygu.
Mae鈥檙 gwaith chwilio am gymuned letyol yn broses ledled y Deyrnas Unedig, yn seiliedig ar gydsyniad, ac mae鈥檔 cynnwys ymchwiliadau manwl i sicrhau bod safle addas ar gyfer adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol diogel.