30 mlynedd yn ddiweddarach: 6 miliwn o gofrestriadau personol wedi'u gwerthu
Mae 30 mlynedd o ddarparu cofrestriadau personol i fodurwyr wedi gweld DVLA yn gwerthu bron i 6 miliwn ohonynt i fodurwyr, gan gynhyrchu tua £2 biliwn i'r Trysorlys.

²Ñ²¹±ð’r asiantaeth, sy’n dathlu 3 degawd o werthu cofrestriadau personol eleni, wedi cyhoeddi’r 12 rhif cofrestru drutaf y mae wedi’u gwerthu, cyn ocsiwn fyw 3 diwrnod.
Rhif cofrestru | Pris | Dyddiad |
---|---|---|
25 O | £400,000 | Tachwedd 2014 |
1 D | £285,000 | Mawrth 2009 |
51 NGH | £201,000 | Ebrill 2006 |
1 RH | £196,000 | Tachwedd 2008 |
K1 NGS | £185,000 | Rhagfyr 1993 |
KR15 HNA | £180,000 | Mai 2015 |
1 O | £170,000 | Ionawr 2009 |
1 A | £160,000 | Rhagfyr 1989 |
1 OO | £156,000 | Ebrill 2006 |
2 O | £115,000 | Mawrth 2009 |
6B | £101,700 | Medi 2008 |
250L | £100,500 | Tachwedd 2014 |
²Ñ²¹±ð’r asiantaeth yn cynnal nifer o ocsiynau byw ledled y DU bob blwyddyn, ac mae ganddi bron i 60 miliwn o rifau cofrestru ar werth ar ei gwefan.
Mae cofrestriadau personol wedi bod yn llwyddiant mawr gyda modurwyr, gyda 5.9 miliwn wedi’u gwerthu ers i’r asiantaeth ddechrau eu gwerthu gyntaf ym 1989.
Yn ystod yr ocsiwn gyntaf erioed ym 1989, dim ond 74 lot a gynigiwyd i’w gwerthu yn Christie’s London, gyda’r lot gyntaf a gynigiwyd gan DVLA, 99 MG, yn gwerthu am £8,000. Y pris uchaf y diwrnod hwnnw oedd 1 A, a werthodd am £160,000.
Y llynedd, fe wnaeth gwerthiant cofrestriadau personol gan y DVLA godi £116 miliwn ar gyfer y Trysorlys, gyda’r rhan fwyaf o hynny’n dod o’r miloedd o rifau cofrestru mwy fforddiadwy sy’n cael eu prisio o £250.
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:
Dechreuodd DVLA werthu cofrestriadau personol yn y dyddiau pan mai’r unig ffordd i wneud cynnig yn yr ocsiwn fyw oedd mynychu’n bersonol.
Rydym bellach yn darlledu pob ocsiwn yn fyw, gan roi cyfle i gynigwyr wneud cynnig am rif cofrestru eu breuddwydion ar-lein o’n hocsiynau byw, yn ogystal â’r miliynau lawer sydd ar werth ar ein gwefan.
6 ffaith am ein cofrestriadau personol
- Gwerthodd DVLA 658 o rifau cofrestru ym mlwyddyn ariannol 1989/90, gan gynyddu i 26,161 y flwyddyn ganlynol. Yn y flwyddyn ariannol 2018/19 gwerthwyd bron i 404,000 o rifau cofrestru.
- Ar hyn o bryd, y pris cyfartalog ar gyfer marciau cofrestru a werthwyd mewn ocsiwn wedi’i hamseru yw £877 a £3,225 ar gyfer y rhai a werthwyd mewn ocsiynau byw, tra bod y pris cyfartalog ar gyfer y rhai a werthwyd yn uniongyrchol drwy wefan DVLA yn £342.
- Dangosodd arolwg diweddar gan DVLA y byddai 69% o ymatebwyr yn prynu rhif cofrestru preifat oherwydd cysylltiad personol, enw neu lythyren enw, 6% ar gyfer eu busnes, tra dywedodd 17% eu bod yn eu gweld fel buddsoddiad.
- Mae ymchwil gan DVLA yn dangos bod 28% o fodurwyr y DU wedi enwi eu car, gyda ‘Doris�, ‘Dave�, ‘Henry�, ‘Betsy� a ‘Bumble� i gyd yn boblogaidd. O’r rheini, dywedodd 87% eu bod wedi prynu cofrestriad personol i gyfateb â’r enw a roddwyd i’w car.
- Gyda’r mwyafrif helaeth o rifau cofrestru dwy lythyren ac un rhif unigol eisoes wedi’u cyhoeddi neu eu gwerthu, mae ‘IG 1� yn sicr o dynnu sylw’r rheini sydd am brynu darganfyddiad prin yn yr ocsiwn yn y Vale Resort yn Hensol, Bro Morgannwg.
- Cynhaliwyd ocsiynau mewn lleoliadau gan gynnwys Legoland, Old Trafford, cartref Manchester United, yr Amgueddfa Treftadaeth Moduron, Stiwdios Ffilm Granada, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol a Chanolfan Gynadledda ac Amgueddfa F1 Williams.
Nodiadau i olygyddion
-
Cynhaliwyd yr ocsiwn gyntaf yn Christie’s yn South Kensington, Llundain, ym mis Rhagfyr 1989.
-
²Ñ²¹±ð’r gwerthiant dathlu 30 mlynedd yn cynnwys 1,250 lot yn mynd o dan y morthwyl yn yr ocsiwn fyw nesaf ar 16, 17 a 18 Gorffennaf yn y Vale Resort yn Hensol, Bro Morgannwg.
-
²Ñ²¹±ð’r rhifau cofrestru sydd ar werth yn y Vale yn cynnwys 311 A (pris cadw £2,500), 2019 A (£2,500), AN15 TON (£700), AN66 ELA (£400), BYE 805S (£250), B41 KER (£250), C47 THY (£250), DAN 2E (£350), DRE 5W (£350), ELV 21S (£300), E114 NOR (£250), FL16 HTS (£700), FR11 ANK (£400), F110 OYD (£250), GA11 RRY (£400), 919 GS (£2,200), HUG 60S (£300), IG 1 (£2,400), JA66 UAR (£400).
-
Gall cynigwyr ocsiwn wneud hynny yn bersonol, dros y ffôn, ar-lein, drwy’r post a thrwy neges destun.
-
²Ñ²¹±ð’r yn caniatáu i fodurwyr weld sut y bydd eu plât newydd yn edrych ar eu car. Mae mwy na 60 miliwn o rifau cofrestru ar gael ar y wefan gyda chyfuniadau sy’n addas i bob chwaeth a chyllideb.
-
Bydd DVLA yn cynnal mwy o ocsiynau eleni � ym Mharc Wychwood, Weston Crewe, Swydd Gaer, 18 i 20 Medi; ocsiwn wedi’i hamseru, 14 i 23 Hydref; a Stratford Manor, Warwick Road, Stratford-upon-Avon, 20 i 22 Tachwedd.
-
Mae prisiau cadw ocsiwn, lle bydd y cynigion yn dechrau, yn amrywio o £250 i £2,500.
-
Y refeniw o £1.95 biliwn o werthu cofrestriadau personol yw’r pris ‘morthwyl� ac nid yw’n cynnwys unrhyw ffioedd TAW neu ocsiwn amrywiol a fyddai wedi’u hychwanegu dros y 30 mlynedd diwethaf. Trosglwyddir y refeniw a godir i Drysorlys EM.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407