Canlyniad yr ymgynghoriad

Y Comisiwn Elusennau: diwygiadau i'r Ffurflen Flynyddol 2023-25

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Yn seiliedig ar adborth yr ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen 芒 newidiadau i鈥檙 Datganiad Blynyddol. Mae adborth yr ymgynghoriad wedi ein galluogi i wneud diwygiadau sylweddol i gwestiynau terfynol y Datganiad Blynyddol. I grynhoi, y prif newidiadau yw:

  • na fyddwn yn cyflwyno 5 o鈥檙 cwestiynau a gynigir yn yr ymgynghoriad

  • y byddwn yn diwygio geiriad 13 cwestiwn i wella eu heglurder, ac mewn rhai achosion yn lleihau鈥檙 casglu data neu鈥檙 mewnbwn sydd ei angen

  • y byddwn yn creu trothwyon incwm ar gyfer 4 o鈥檙 cwestiynau newydd rydym yn eu cyflwyno, er mwyn sicrhau bod y baich rheoleiddio ar yr elusennau lleiaf yn gymesur

  • y byddwn yn dileu 6 chwestiwn yn 2024 lle rydym wedi nodi ei fod yn hanfodol casglu鈥檙 data yn AR23, ond bod dulliau amgen wedi cael eu nodi i gasglu data tebyg yn y tymor hir. Byddwn yn parhau i asesu鈥檙 cyfle i ddileu cwestiynau pellach lle bod datblygiadau arall yn caniat谩u

  • y byddwn wedi adolygu鈥檙 holl nodiadau esboniadol a鈥檙 eirfa ar gyfer y cwestiynau presennol a newydd er mwyn hyrwyddo cysondeb ac eglurder

Mae Atodiad 8 yn cynnwys rhestr lawn o gwestiynau diwygiedig y Datganiad Blynyddol a fydd yn cael eu nodi yn Rheoliadau Elusennau (Datganiad Blynyddol) 2022] (/government/publications/charity-commission-annual-returns-regulations-2022) a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2023.

Bydd y newidiadau i鈥檙 Datganiad Blynyddol yn gymwys i flynyddoedd ariannol elusennau sy鈥檔 dod i ben ar neu ar 么l 1 Ionawr 2023. Yn gynnar yn 2023 bydd canllaw i鈥檙 set newydd o gwestiynau yn cael ei ryddhau i roi manylion ychwanegol am yr hyn rydym yn ei ofyn, pam rydym yn ei ofyn a sut y bydd y data a gasglwn o fudd i鈥檙 sector. Bydd y gwasanaeth digidol diwygiedig y bydd elusennau yn ei ddefnyddio i gyflwyno eu Datganiad Blynyddol yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yn 2023.

Manylion am yr adborth a gafwyd

Gwnaethom dderbyn 456 o ymatebion. Darparodd 52% (262) o ymatebwyr adborth ar ran elusen gyda 37% (155) pellach wedi鈥檌 dderbyn gan ymddiriedolwyr yn rhannu eu barn personol. Y prif is-grwpiau eraill oedd:

  • person arall sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 sector elusennol (e.e., cynghorydd proffesiynol)

  • sefydliad cynrychioliadol y sector elusennol neu gorff mantell

  • aelod o鈥檙 cyhoedd

Roedd yr ymatebion yn gyffredinol yn cefnogi bwriadau鈥檙 Comisiwn i adolygu鈥檙 Datganiad Blynyddol. Roedd y mwyafrif yn teimlo bod y cwestiynau a gynigiwyd wedi鈥檜 cyfiawnhau gyda鈥檙 nodau hyn mewn golwg. Roedd y rhan fwyaf yn deall pam y byddai鈥檙 Comisiwn yn casglu鈥檙 data roeddem yn ei gynnig a beth y byddem yn ei wneud ag ef. Roedd rhai eithriadau i hyn, yn enwedig ar gyfer elusennau llai. Roedd y rhain naill ai鈥檔 ymwneud 芒 chymesuredd cyffredinol (h.y. yr amser a gymerwyd i ymateb i鈥檙 nifer cynyddol o gwestiynau), neu ansicrwydd ynghylch pa ddata yr oeddem ei eisiau oherwydd pryderon yn ymwneud 芒 strwythur, geiriad neu gymhwysedd penodol y cwestiynau i amgylchiadau pob ymatebydd. Roedd yr adborth hwn yn ein galluogi i nodi ble a sut y gellid gwella鈥檙 cynigion, a gweithredwyd arno yn unol 芒鈥檙 adran Canlyniadau uchod.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Ymgynghoriad ar ein hymagwedd at y Ffurflen Flynyddol (AR) a chyfres o gwestiynau newydd arfaethedig. Byddai hyn yn gymwys i flynyddoedd ariannol elusennau sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2023.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ddull newydd o ymdrin 芒鈥檙 AF ac ar ddiweddaru鈥檙 cwestiynau a ofynnwn i elusennau yn yr AB.

Rydym wedi datblygu cwestiynau newydd a fyddai鈥檔 darparu data ychwanegol, gan ein galluogi i reoleiddio elusennau yn fwy effeithiol. Ni allwn gael y data hwn rhywle arall. Byddai鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 cwestiynau a gynigir yma yn cael eu gofyn bob blwyddyn. Fodd bynnag, rydym yn ymgynghori ar hyblygrwydd y Comisiwn i gynnwys neu hepgor rhai cwestiynau yn yr AB ym mhob blwyddyn benodol, yn seiliedig ar y rhesymeg a nodir yn yr ymgynghoriad hwn.

Rydym yn ceisio sicrhau bod y baich cyffredinol ar elusennau yn gymesur ac rydym wedi gwrthbwyso effaith y cwestiynau newydd drwy ddileu cwestiynau diangen a symleiddio鈥檙 cwestiynau hynny yr ydym yn eu cadw lle bod modd, er mwyn eu gwneud yn gliriach ac yn haws i gwblhau.

Rydyn ni eisiau gwybod os ydych:

  • yn cytuno bod y set o gwestiynau a gynigir yn berthnasol ac yn gymesur, gan ystyried ein dyletswyddau, ein hamcanion a鈥檔 swyddogaethau statudol
  • yn hyderus y byddai elusennau o bob math a maint yn gallu deall yr holl gwestiynau a gynigir, a choladu鈥檙 data cywir

Bydd newidiadau yn gymwys i flynyddoedd ariannol elusennau sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2023.

Cwmpas

Mae hyn yn berthnasol i elusennau cofrestredig yn Lloegr ac yng Nghymru sydd ag incwm o fwy na 拢10,000 a phob Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIOs).

Nid yw鈥檙 ymgynghoriad hwn yn berthnasol i enillion blynyddol a baratoir gan elusen gofrestredig sy鈥檔 gronfa fuddsoddi gyffredin neu鈥檔 CAIF (cronfa fuddsoddi awdurdodedig elusen). Nid yw鈥檔 ofynnol i elusen gofrestredig sy鈥檔 gronfa adnau gyffredin a sefydlwyd gan gynllun adnau cyffredin a wnaed neu sy鈥檔 cael effaith fel pe bai wedi鈥檌 gwneud o dan adran 100 o Ddeddf Elusennau 2011 baratoi adroddiad flynyddol.

Gan bwy rydyn ni eisiau clywed?

Byddem yn croesawu ymatebion gan y cyhoedd; elusennau, eu hymddiriedolwyr a chyrff cynrychioliadol; llunwyr polisi; a chyllidwyr.

Sut i ymateb

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 1 Medi 2022.

.

Os oes angen i chi ychwanegu rhagor o fanylion neu ddeunydd at eich ymatebion, anfonwch ef drwy e-bost i [email protected].

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mawrth 2023 show all updates
  1. Fersiwn Gymraeg o'r ymateb i'r ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon