Canlyniad yr ymgynghoriad

Canllaw drafft: defnydd elusennau o'r cyfryngau cymdeithasol

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben

Llwytho'r canlyniad llawn i lawr

Manylion am y canlyniad

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar elusennau a chyfryngau cymdeithasol

Manylion o鈥檙 adborth a gawsom

Fe gawsom 396 o ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad hwn ac rydym yn falch o gyhoeddi crynodeb o鈥檙 adborth yn y ddogfen uchod. Rydym wedi defnyddio鈥檙 adborth eang a manwl a gawsom i wneud y canllawiau yn gliriach. Diolch i bawb a ddarparodd adborth i ni.


Ymgynghoriad gwreiddiol

Crynodeb

Ymgynghoriad y Comisiwn Elusennau ar ganllawiau drafft i elusennau am eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft i elusennau ar eu defnydd o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol.

Mae鈥檙 cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn arf bwerus i lawer o elusennau hyrwyddo eu gwaith, ymgysylltu 芒鈥檜 cefnogwyr ac ymgyrchu dros newid. Mae鈥檙 cyhoedd hefyd yn defnyddio鈥檙 cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu ag elusennau neu i drafod gwaith elusennau.

Mae ein hymchwil yn awgrymu mai goruchwyliaeth gyfyngedig sydd gan rai ymddiriedolwyr o ddefnydd eu helusennau o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol o gymharu ag agweddau eraill o鈥檜 strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu. Gallai hyn fod oherwydd diffyg hyder neu ddealltwriaeth, neu oherwydd bod staff neu wirfoddolwyr wedi datblygu鈥檙 defnydd o鈥檙 cyfryngau cymdeithasol.

Er ei bod yn rhesymol i ymddiriedolwyr ddirprwyo gweithrediadau cyfryngau cymdeithasol o ddydd i ddydd, mae鈥檔 bwysig bod cyd-ddealltwriaeth briodol o ddefnydd yr elusen o gyfryngau cymdeithasol a鈥檙 risgiau a all ddod yn sg卯l y defnydd hwn.

Nod y canllaw hwn yw helpu ymddiriedolwyr i wella鈥檙 ddealltwriaeth hon, ac annog elusennau i fabwysiadu polisi ar gyfryngau cymdeithasol sy鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檜 helusen. Bwriadwn i鈥檙 canllaw hwn alluogi a chefnogi ymddiriedolwyr, nad ydym yn disgwyl iddynt fod yn arbenigwyr yn y maes hwn. Nid yw鈥檙 canllaw yn cyflwyno dyletswyddau ymddiriedolwyr newydd ond mae鈥檔 ceisio egluro sut mae dyletswyddau presennol yn berthnasol i ddefnydd elusen o gyfryngau cymdeithasol.

Mae鈥檙 canllaw yn nodi y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol godi materion a risgiau i elusennau, yn ymwneud 芒 chynnwys problemus fel:

  • postio neu rannu cynnwys ar sianeli cyfryngau cymdeithasol
  • postiadau gan y cyhoedd neu drydydd part茂on ar sianel cyfryngau cymdeithasol elusen
  • postio ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol personol y gellir ei gysylltu 芒鈥檙 elusen

Mae鈥檙 canllaw hefyd yn pwysleisio bod y rhai sy鈥檔 cael eu cyflogi gan elusennau, neu鈥檔 gweithio gyda nhw, yn rhydd i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ond weithiau bod yna perygl bod postiadau personol yn cael eu dehongli fel rhai sy鈥檔 adlewyrchu barn yr elusen. Felly, mae鈥檙 canllawiau drafft yn dweud y dylai ymddiriedolwyr ystyried nodi beth yw eu rheolau a sut y byddent yn ymateb os yw gweithgaredd o鈥檙 fath yn dod 芒 sylw negyddol i鈥檙 elusen.

Nid yw hyn wedi鈥檌 fwriadu i atal defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol ond i helpu i egluro鈥檙 meysydd hynny lle gallai fod gan yr elusen bryder cyfreithlon, er enghraifft, fel y cyflogwr.

Hoffem gael adborth yn ystod y cyfnod ymgynghori ar sut y mae鈥檙 canllawiau鈥檔 sefyll ar hyn o bryd a sut y gallwn eu gwella. Byddem yn croesawu eich barn ar gwestiynau鈥檙 ymgynghoriad.

Cwmpas

Mae鈥檙 canllaw yn berthnasol i elusennau yng Nghymru a Lloegr, p鈥檜n a ydynt wedi鈥檜 cofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ai peidio.

Gan bwy rydyn ni eisiau clywed?

Byddem yn croesawu ymatebion gan; elusennau, eu hymddiriedolwyr a chyrff cynrychioliadol a鈥檙 cyhpedd.

Sut i ymateb

Ymatebwch ar e-bost at [email protected]

Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf

Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a gawn yn ystod y cyfnod ymgynghori, a bydd y rhain yn ein helpu i ddatblygu鈥檙 canllawiau i鈥檞 cyhoeddi. Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad o鈥檙 ymatebion a鈥檙 canllawiau terfynol yn yr Haf.

Dogfennau

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Ionawr 2023

Argraffu'r dudalen hon