Astudiaeth achos

Adfywiad gwerth 拢10.95 miliwn yn Rhuthun

Dyfarnwyd 拢10.95m i Gyngor Sir Ddinbych gan y Gronfa Ffyniant Bro i gefnogi datblygu 10 prosiect yng Ngorllewin Clwyd.

Mae dau prif ran i raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Diogelu Treftadaeth a Lles Unigryw Rhuthun聽

Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth a lles unigryw Rhuthun trwy welliannau i dir cyhoeddus ac adfywio adeiladau hanesyddol a thirnodau.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at welliannau:

  • Sgw芒r San Pedr
  • Clasordai ac Eglwys San Pedr
  • T诺r Cloc Rhuthun
  • Carchar Rhuthun/46 Stryd Clwyd
  • T欧 Tref Nant Clwyd-y-Dre
  • Parc Cae Ddol

Bydd y gwelliannau鈥檔 cynnwys:

  • Llwybrau a ffyrdd gwell i draffig a cherddwyr
  • gwelliannau i hygyrchedd
  • atgyweirio ac adfer deialau鈥檙 cloc
  • mynediad newydd i Garchar Rhuthun rhestredig gradd 2*
  • cysylltedd gwell rhwng y parc a chanol y dref

Diogelu cymunedau gwledig Rhuthun a鈥檙 ardal gyfagos

Bydd yr ail linyn yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau gwledig a lles Rhuthun trwy welliannau i鈥檙 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau) a hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig Bryneglwys a Gwyddelwern.

Bydd cyllid Ffyniant Bro yn cefnogi:

  • toiledau a chyfleusterau lluniaeth newydd ym Moel Famau
  • estyniad i lwybrau beicio ym Moel Famau
  • trosi hen adeilad ysgol yn ganolfan gymunedol newydd ym Mryneglwys
  • gwell rheolaeth llifogydd a gwelliannau i鈥檙 adeilad presennol yn Loggerheads
  • hwb cymunedol ynni-effeithlon newydd yng Ngwyddelwern

Darganfyddwch fwy am gynlluniau Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer

Darganfyddwch fwy am

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2023