Atwrneiaeth barhaus: gweithredu fel atwrnai

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch helpu i wneud, neu wneud penderfyniadau eich hun am eiddo ac arian rhywun os ydynt wedi eich penodi drwy ddefnyddio atwrneiaeth barhaus (EPA).

Gelwir y person wnaeth eich penodi yn ‘rhoddwr� � chi yw ei ‘atwrnai�.

Rhaid i unrhyw benderfyniad a wnewch ar ran y rhoddwr fod ar sail eu lles gorau.

Bydd angen i chi wirio os yw’r rhoddwr wedi rhoi cyfarwyddiadau neu ganllawiau penodol i chi yn y ddogfen EPA fydd yn effeithio ar eich cyfrifoldebau.

Dim ond atwrniaethau parhaus a wnaed ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 y gellir parhau i’w defnyddio. Ar ôl y dyddiad hwnnw roedd rhaid i roddwyr wneud atwrneiaeth arhosol (LPA).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Defnyddio’r atwrneiaeth barhaus

Gallwch ddechrau defnyddio EPA ar unrhyw adeg os yw’r EPA yn gyfreithiol ac mae’r rhoddwr yn rhoi caniatâd i chi.

Byddwch yn gyfrifol am helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau am faterion ariannol. Gan ddibynnu ar eu cyfarwyddiadau, byddwch yn helpu gyda phethau fel:

  • arian a biliau
  • cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau

Gallai fod atwrneiod eraill � os oes, dylech gadarnhau sut y mae’r rhoddwr eisiau i chi wneud penderfyniadau.

Rhaid i chi ²µ´Ç´Ú°ù±ð²õ³Ù°ù³Ü’r EPA pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu eisoes wedi colli ei alluedd meddyliol. Mae hyn yn golygu na all wneud penderfyniad pan fo angen ei wneud oherwydd diffyg meddyliol.

Er hynny, mae’n rhaid i chi barhau i gynnwys y rhoddwr pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau lle bynnag y bo hynny’n bosib, a dim ond gwneud penderfyniadau drostynt sydd er eu lles gorau.

Rhoi’r gorau i fod yn atwrnai

Bydd yr EPA yn dod i ben os bydd y rhoddwr yn ei ganslo neu’n marw.

Gallwch ddewis rhoi’r gorau i fod yn atwrnai.

Efallai y bydd rhaid cynnal ymchwiliad os gwneir cwyn yn eich erbyn. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud cais i’r Llys Gwarchod i’ch atal.

2. Cofrestru atwrneiaeth barhaus

Rhaid i chi ²µ´Ç´Ú°ù±ð²õ³Ù°ù³Ü’r atwrneiaeth barhaus (EPA) cyn gynted ag y bo’r rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol.

  1. Dywedwch wrth y rhoddwr, ei deulu ac atwrneiod eraill eich bod yn bwriadu cofrestru’r EPA.

  2. Gwnewch gais i ²µ´Ç´Ú°ù±ð²õ³Ù°ù³Ü’r EPA.

  3. Talwch y ffi.

Dweud wrth bobl eich bod am gofrestru

Dylech lawrlwytho a llenwi ffurflen EP1PG, a’i hanfon at:

  • y rhoddwr
  • o leiaf tri aelod o deulu’r rhoddwr sy’n gymwys â€� rhaid iddyn nhw fod yn 18+ oed a gyda galluedd meddyliol
  • unrhyw atwrneiod a benodwyd ‘ar y cyd ac yn unigolâ€� ond nad ydynt yn gwneud cais i ²µ´Ç´Ú°ù±ð²õ³Ù°ù³Ü’r EPA

Rhaid ichi ddweud wrth y tri aelod teulu cyntaf sy’n gymwys, o’r rhestr ganlynol. Os nad oes aelod o’r teulu yn y categori, dylech symud ymlaen i’r nesaf. Rhaid i chi geisio dweud wrth aelodau’r teulu yn y drefn hon:

  • gŵr, gwraig neu bartner sifil y rhoddwr
  • plant y rhoddwr (gan gynnwys plant wedi eu mabwysiadu ond nid llys-blant)
  • rhieni’r rhoddwr
  • brodyr a chwiorydd y rhoddwr (gan gynnwys hanner brodyr a chwiorydd)
  • gŵr neu wraig weddw neu bartner sifil sy’n goroesi plentyn y rhoddwr
  • wyrion ac wyresau’r rhoddwr
  • neiaint a nithoedd y rhoddwr (plant brodyr a chwiorydd llawn y rhoddwr)
  • neiaint a nithoedd y rhoddwr (plant hanner brodyr a chwiorydd y rhoddwr)
  • modrybedd ac ewythrod y rhoddwr (brodyr a chwiorydd llawn rhiant y rhoddwr)
  • cefndryd neu gyfnitherod cyntaf y rhoddwr (plant modrybedd ac ewythrod y rhoddwr sy’n frodyr a chwiorydd llawn i riant y rhoddwr)

Rhaid i chi ddweud wrth yr holl bobl mewn categori os ydych yn dweud wrth un, er enghraifft, os yw 1 o’r 3 perthynas yr ydych yn dweud wrthynt yn ŵyr neu wyres ac mae gan y rhoddwr 15 o wyrion / wyresau eraill, rhaid i chi ddweud wrth y 16 ohonynt.

Os ydych yn aelod o’r teulu ac yn atwrnai, byddwch yn cyfrif fel un o’r bobl y mae’n rhaid dweud wrtho, ond rhaid i chi hefyd ddweud wrth bobl eraill yn eich categori.

Rhaid i chi wneud eich gorau i ddod o hyd i’r bobl y mae’n rhaid dweud wrthyn nhw. Os na allwch ddod o hyd i’w cyfeiriad neu os nad oes tri pherthynas yn fyw, rhaid dweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan wnewch gais i gofrestru.

Gall y bobl y dywedwch wrthynt wrthwynebu i’r cofrestru. Mae ganddynt 35 diwrnod i wrthwynebu o’r dyddiad y maent yn cael y ffurflen.

Gwneud cais i gofrestru

Dylech lawrlwytho a llenwi ffurflen gais EP2PG.

Cyn gynted ag y dywedwch yn swyddogol wrth bobl am eich bwriad i gofrestru, rhaid anfon y ffurflen i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Defnyddiwch gyfeiriad gwahanol os ydych yn aelod o wasanaeth cludo DX Exchange.

Office of the Public Guardian
DX 744240
Birmingham 79

Dylech gynnwys y ffurflen EPA wreiddiol neu gopi ardystiedig os collwyd yr un wreiddiol.

Bydd hefyd angen i chi dalu’r ffi.

Ffioedd

Mae’n costio £82 i gofrestru EPA, oni bai eich bod yn gwneud cais am help i dalu ffioedd (LPA120).

Anfonwch siec am y ffi berthnasol a’i gwneud yn daladwy i ‘Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus�. Cofiwch roi enw’r rhoddwr ar gefn y siec.

Pa mor hir y mae cofrestru’n ei gymryd

Fel arfer, bydd yr EPA yn cael ei chofrestru rhwng 8 a 10 wythnos ar ôl i chi anfon y ffurflen gais a dweud wrth y teulu. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhywun o’r teulu’n gwrthwynebu.

3. Gwirio bod atwrneiaeth barhaus yn gyfreithiol

Gallwch ond defnyddio atwrneiaeth barhaus (EPA) os cafodd ei gwneud yn gywir.

Dylech wirio bod y ffurflen EPA:

  • wedi ei llenwi pan oedd y rhoddwr yn 18 oed o leiaf ac yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun (heb golli ‘galluedd meddyliolâ€�)
  • wedi ei llofnodi gan y rhoddwr a thyst nad yw’n un o atwrneiod yr EPA
  • wedi ei llofnodi gan yr atwrneiod i gyd

Pan wnaed yr EPA, roedd yn rhaid i chi ac unrhyw atwrnai arall fod:

  • yn 18+ oed
  • heb fod yn fethdalwr â€� a heb fod yn fethdalwr ers hynny

Dim ond atwrneiaeth barhaus (EPA) a wnaed ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 y gellir parhau i’w defnyddio. Ar ôl y dyddiad hwnnw roedd yn rhaid i roddwyr wneud atwrneiaeth arhosol (LPA).

4. Pan fydd mwy nag un atwrnai

Darllenwch y ffurflen atwrneiaeth barhaus (EPA) i weld faint o atwrneiod a benodwyd.

Os oes mwy nag un atwrnai, dylech gadarnhau a oes rhaid i chi wneud penderfyniadau:

  • ar wahân neu gyda’ch gilydd (‘ar-y-cyd neu’n unigolâ€�) sy’n golygu y gallwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu gydag atwrneiod eraill
  • gyda’ch gilydd (‘ar-y-cydâ€�) sy’n golygu bod rhaid i chi a’r holl atwrneiod eraill gytuno ar benderfyniad

Gall y rhoddwr eich cyfarwyddo i wneud rhai penderfyniadau ‘ar-y-cyd� a rhai ‘ar-y-cyd ac yn unigol�.

Rhaid i atwrneiod a benodir ar y cyd i gyd gytuno, neu ni allent wneud y penderfyniad.

Atwrneiod ar y cyd

Os penodir chi ar y cyd ag atwrnai neu atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai, bydd yr atwrneiaeth barhaus yn dod i ben yn awtomatig.

Bydd angen i chi ganfod ffordd arall o helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.

5. Eich dyletswyddau

Byddwch chi’n gyfrifol am helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau am bethau fel:

  • arian a biliau
  • cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau

Dylech ddarllen y ffurflen atwrneiaeth barhaus (EPA) i weld a yw’r rhoddwr wedi rhoi:

  • cyfyngiadau ar beth allwch ei wneud
  • canllawiau ar sut y maent eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud

Sut i ofalu am faterion ariannol y rhoddwr

Rhaid i chi ofalu am faterion ariannol y rhoddwr ar sail eu lles gorau.

Dylech gadw materion ariannol y rhoddwr ar wahân i’ch rhai chi, oni bai fod gennych gyfrif banc ar y cyd neu’n gyd-berchen ar gartref. Os ydych, rhaid i chi ddweud wrth y banc neu’r cwmni morgais eich bod yn gweithredu fel atwrnai’r person arall.

Rhaid i chi gadw cyfrifon o asedau, incwm, gwariant ac all-daliadau’r rhoddwr. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a’r Llys Gwarchod ofyn am gael gwirio’r pethau hyn.

Gallwch gael eich erlyn os byddwch yn camddefnyddio arian y rhoddwr.

Rhoddion

Gallwch brynu anrhegion neu roi rhoddion ariannol ar ran y rhoddwr, gan gynnwys gwneud rhoddion i elusennau. Dylech wneud rhoddion dim ond:

  • i bobl a fyddai fel arfer yn cael rhoddion gan y rhoddwr
  • ar achlysuron addas - er enghraifft, pen-blwydd, priodas
  • i elusennau sydd fel arfer yn cael rhoddion gan y rhoddwr

Rhaid i’r rhoddion fod yn rhesymol � dylech ddarllen y canllawiau ar roddion addas.

Prynu neu werthu eiddo

Gallwch brynu neu werthu eiddo ar ran y rhoddwr os yw hynny ar sail ei les gorau.

Dylech gysylltu â’r OPG:

  • os yw’r gwerthiant o dan werth y farchnad
  • os ydych chi neu eich teulu eisiau prynu’r eiddo
  • os ydych yn ei roi i rywun arall

Gallant roi cyngor i chi a fydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod ar y mater neu beidio.

Os ydych yn gwerthu cartref y rhoddwr ac mae gan y rhoddwr atwrneiaeth arhosol (LPA) iechyd a lles, efallai y bydd angen i chi drafod ble bydd y rhoddwr yn mynd i fyw gyda’r atwrnai perthnasol.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Ewyllysiau

Ni allwch wneud ewyllys ar ran y rhoddwr.

Gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod am ‘ewyllys statudol� os oes angen i’r rhoddwr wneud ewyllys, ond nid oes galluedd meddyliol ganddynt i wneud hyn.

6. Taliadau a chostau

Oni bai eich yn atwrnai proffesiynol, ni fyddwch fel arfer yn cael eich talu am fod yn atwrnai i rywun.

Costau

Gallwch hawlio costau am bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich dyletswyddau fel atwrnai, er enghraifft:

  • costau teithio
  • deunydd ysgrifennu
  • costau postio
  • galwadau ffôn

Cadwch eich derbynebau ac anfonebwch y rhoddwr am eich costau.

7. Rhoi'r gorau i weithredu fel atwrnai

Byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai i’r rhoddwr:

  • os bydd y rhoddwr yn marw â€� bydd yr atwrneiaeth barhaus (EPA) yn dod i ben yn awtomatig
  • os dewiswch roi’r gorau i fod yn atwrnai â€� a elwir weithiau’n ‘diddymuâ€� neu ‘ymwrthodâ€� atwrneiaeth
  • os byddwch yn datgan eich hun yn fethdalwr

Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai rhaid i chi lenwi’r ffurflenni perthnasol a chyflwyno’r dogfennau perthnasol.

Os oedd rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd ag atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi’r gorau iddi, daw’r atwrneiaeth barhaus i ben yn awtomatig. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall i helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.

Os yw’r rhoddwr neu atwrnai arall yn marw

Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ac anfon yr EPA wreiddiol a phob copi ardystiedig.

Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r Atwrneiaeth Barhaus (EPA) gyfredol

Bydd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn canslo’r EPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw a naill ai:

  • roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd â€� gelwir hyn yn gweithredu ‘ar y cydâ€�

  • roedd dim ond un atwrnai

Bydd EPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os byddwch yn dymuno i’r OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn iddi gael ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.

Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol�), bydd yr OPG yn diweddaru’r EPA yn lle ei dinistrio. Bydd rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr EPA.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Os ydych am roi’r gorau i fod yn atwrnai

Os penderfynwch roi’r gorau i fod yn atwrnai, dylech lenwi ac anfon ffurflen hysbysu a’i hanfon at:

  • y rhoddwr â€� os nad yw’r EPA wedi cael ei chofrestru
  • y rhoddwr a’r OPG â€� os yw’r EPA wedi cael ei chofrestru

Dylech hefyd ddweud wrth unrhyw atwrneiod eraill a enwir ar yr EPA.

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH