Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai
Atwrneiod iechyd a lles
Fel atwrnai iechyd a lles, byddwch yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:
- trefn ddyddiol y rhoddwr, er enghraifft ymolchi, gwisgo a bwyta
- gofal meddygol
- lle mae’r rhoddwr yn byw
Dim ond pan nad yw’r rhoddwr yn meddu ar alluedd meddyliol y gallwch wneud penderfyniadau ar ei ran.
Rhaid i chi ddweud wrth bobl sy’n ymwneud â gofal y rhoddwr pan fyddwch yn dechrau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys:
-
ffrindiau a theulu’r rhoddwr
-
meddyg a staff gofal iechyd eraill y rhoddwr
-
gweithwyr gofal, gweithiwr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill y rhoddwr
Efallai y byddwch angen defnyddio eich atwrneiaeth arhosol i brofi i staff y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.
Defnyddio arian y rhoddwr
Efallai y bydd angen i chi wario arian y rhoddwr ar bethau sy’n cynnal neu’n gwella ansawdd ei fywyd. Gall hyn gynnwys:
- dillad newydd neu drin gwallt
- addurno ei gartref neu ei ystafell mewn cartref gofal
- talu am gymorth ychwanegol fel y gall y rhoddwr fynd allan yn amlach, er enghraifft, i ymweld â ffrindiau neu berthnasau neu i fynd ar wyliau
Mae’n rhaid i chi ofyn am arian gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.
Gwrthod neu gydsynio i driniaeth
Gwiriwch yr atwrneiaeth arhosol (LPA) am gyfarwyddiadau ynghylch gwrthod neu gydsynio i driniaeth.
Bydd angen i chi:
- ddangos yr LPA i’r staff gofal
- llofnodi ffurflenni caniatâd meddygol
- gwneud penderfyniadau er lles gorau’r rhoddwr
Ni allwch wneud penderfyniadau am driniaeth feddygol y rhoddwr bob amser, er enghraifft os yw’r rhoddwr wedi gwneud ewyllys byw neu wedi’i gadw mewn ysbyty am resymau iechyd meddwl.
Ewyllysiau byw (‘penderfyniadau ymlaen llaw�)
Mae hwn yn ddatganiad cyfreithiol gan y rhoddwr ynghylch pa driniaethau meddygol nad oes arno eu heisiau. Bydd angen i chi roi hwn i’r staff gofal ynghyd â’r LPA.
Mae gan NHS Choices .
Gwneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniad am driniaeth feddygol:
- os yw’r ewyllys byw a’r LPA yn rhoi cyfarwyddiadau gwahanol
- mae’r staff meddygol neu ffrindiau a theulu’r rhoddwr yn anghytuno ynghylch a ddylid parhau â’r driniaeth