Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch wneud penderfyniadau ar ran rhywun os byddant yn eich penodi gan ddefnyddio atwrneiaeth arhosol (LPA).
Gallwch gysylltu â 188ÌåÓý i wneud cais am yr arweiniad hwn mewn fformat arall, er enghraifft mewn print bras neu braille.
Enw’r sawl sy’n eich penodi yw’r ‘rhoddwr�. Chi yw ei ‘atwrnai�.
Nid oes angen unrhyw brofiad cyfreithiol arnoch i weithredu fel atwrnai.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn y byddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai
Paratowch drwy siarad â’r rhoddwr fel eich bod yn barod i wneud penderfyniadau er eu lles gorau. Er enghraifft, gofynnwch am eu cynlluniau ar gyfer eu harian neu sut y maent am gael gofal os ydynt yn mynd yn ddifrifol wael.
Gwnewch yn siŵr bod yr atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru � ni allwch ddechrau gweithredu hyd nes y bydd wedi’i chofrestru. Gall gymryd hyd at 16 wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Bydd atwrneiaeth arhosol gofrestredig yn cael ei stampio gyda ‘wedi’i dilysu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus�.
Edrychwch ar y mathau o benderfyniadau y gallwch eu gwneud a phryd y gallwch ddechrau gweithredu fel:
Ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai
Mae’n rhaid i chi:
- ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwyswyd gan y rhoddwr yn yr LPA
- ystyried unrhyw ddewisiadau a gynhwyswyd gan y rhoddwr yn yr LPA
- helpu’r rhoddwr i wneud ei benderfyniadau eu hun gymaint ag y gall wneud hynny
- gwneud unrhyw benderfyniadau er lles gorau’r rhoddwr
- parchu ei hawliau dynol a’i hawliau sifil
Rhaid i chi wneud y penderfyniadau eich hun - ni allwch ofyn i rywun eu gwneud ar eich rhan.
Darllenwch fwy am sut i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall gan gynnwys sut i gael help i wneud penderfyniadau anodd. Mae modd gwirio eich penderfyniadau.
Os nad chi yw’r unig atwrnai
Gwiriwch yr LPA. Bydd yn dweud wrthych a oes rhaid i chi wneud penderfyniadau:
-
‘ar y cyd� - mae hyn yn golygu bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno
-
‘ar y cyd ac yn unigol� - mae hyn yn golygu y gallwch wneud penderfyniadau gyda’ch gilydd neu ar eich liwt eich hun
Efallai y bydd yr LPA yn dweud wrthych am wneud rhai penderfyniadau ‘ar y cyd� a phenderfyniadau eraill ‘ar y cyd ac yn unigol�.
Darllenwch fwy am beth i’w wneud os byddwch yn gwneud penderfyniadau ar y cyd â rhywun sy’n rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai.
2. Atwrneiod ar gyfer eiddo a materion ariannol
Fel atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol, rydych yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:
- arian, treth a biliau
- cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu
- eiddo a buddsoddiadau
- pensiynau a budd-daliadau
Gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau tra bo’r rhoddwr yn dal i fod â galluedd meddyliol os yw’r:
-
atwrneiaeth arhosol yn dweud y cewch wneud hynny
-
mae’r rhoddwr yn rhoi caniatâd i chi
Fel arall, dim ond pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol y gallwch ddechrau gwneud penderfyniadau.
Gallwch ddefnyddio arian y rhoddwr i edrych ar ôl ei gartref a phrynu unrhyw beth y mae arno ei angen o ddydd i ddydd (er enghraifft, bwyd).
Trafodwch benderfyniadau sy’n effeithio ar drefniadau byw’r rhoddwr, ei ofal meddygol neu ei drefn ddyddiol gyda’i atwrnai iechyd a lles, os oes ganddo un.
Enghraifft
Os byddwch yn penderfynu gwerthu cartref y rhoddwr, trafodwch ble y bydd y rhoddwr yn byw gyda’i atwrnai iechyd a lles.
Edrych ar ôl arian ac eiddo
Mae’n rhaid i chi gadw arian y rhoddwr ar wahân i’ch arian chi, oni bai bod gennych rywbeth gyda’ch gilydd fel cyfrif banc ar y cyd neu eich bod yn berchen ar gartref gyda’ch gilydd.
Rheoli arian a chyfrifon y rhoddwr
Bydd banciau a sefydliadau eraill (fel cwmnïau cyfleustodau a darparwyr pensiynau) yn gofyn am brawf eich bod yn atwrnai. Defnyddiwch eich atwrneiaeth arhosol i brofi y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.
Efallai y bydd angen i chi brofi manylion eraill, megis:
-
eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
-
enw neu gyfeiriad y rhoddwr
Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth arall hefyd, fel rhif cyfrif.
Gwario arian ar anrhegion a rhoddion
Oni bai bod yr LPA yn dweud fel arall, gallwch wario arian ar:
- anrhegion i ffrind, aelod o deulu neu rai a fo’n adnabod y rhoddwr ar adeg pan fyddech fel arfer yn rhoi anrhegion (fel pen-blwyddi neu unrhyw ddathliad arall)
- rhoi rhoddion i elusen na fyddai’r rhoddwr yn ei gwrthwynebu, er enghraifft elusen y maent wedi rhoi rhoddion iddi o’r blaen
Mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am unrhyw fath arall o rodd, hyd yn oed os yw’r rhoddwr wedi eu rhoi o’r blaen. Mae’r rhain yn cynnwys:
- talu ffioedd ysgol neu brifysgol rhywun
- gadael i rywun fyw yn eiddo’r rhoddwr heb dalu rhent y farchnad (mae unrhyw beth y maent yn ei dalu islaw rhent y farchnad yn cyfrif fel rhodd)
- benthyciadau di-log
Mae’n rhaid i chi wirio bod y rhoddwr yn gallu fforddio rhoi’r anrheg neu rodd, hyd yn oed os yw wedi gwario arian ar y mathau hyn o bethau o’r blaen. Er enghraifft, ni allwch roi ei arian i ffwrdd pe bai hynny’n golygu na allai fforddio talu ei gostau gofal.
Darllenwch y canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am roi anrhegion neu roddion.
Prynu a gwerthu eiddo
Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol:
- os yw’r gwerthiant yn is na gwerth y farchnad
- os ydych am brynu’r eiddo eich hun
- os ydych yn ei roi i rywun arall
Gwneud ewyllys
Gallwch wneud cais am ewyllys statudol os oes angen i’r rhoddwr wneud ewyllys ond na all ei wneud ei hun.
Ni chewch newid ewyllys y rhoddwr.
Gellir eich gorchymyn i ad-dalu arian y rhoddwr os ydych yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun.
3. Atwrneiod iechyd a lles
Fel atwrnai iechyd a lles, byddwch yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:
- trefn ddyddiol y rhoddwr, er enghraifft ymolchi, gwisgo a bwyta
- gofal meddygol
- lle mae’r rhoddwr yn byw
Dim ond pan nad yw’r rhoddwr yn meddu ar alluedd meddyliol y gallwch wneud penderfyniadau ar ei ran.
Rhaid i chi ddweud wrth bobl sy’n ymwneud â gofal y rhoddwr pan fyddwch yn dechrau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys:
-
ffrindiau a theulu’r rhoddwr
-
meddyg a staff gofal iechyd eraill y rhoddwr
-
gweithwyr gofal, gweithiwr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill y rhoddwr
Efallai y byddwch angen defnyddio eich atwrneiaeth arhosol i brofi i staff y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.
Defnyddio arian y rhoddwr
Efallai y bydd angen i chi wario arian y rhoddwr ar bethau sy’n cynnal neu’n gwella ansawdd ei fywyd. Gall hyn gynnwys:
- dillad newydd neu drin gwallt
- addurno ei gartref neu ei ystafell mewn cartref gofal
- talu am gymorth ychwanegol fel y gall y rhoddwr fynd allan yn amlach, er enghraifft, i ymweld â ffrindiau neu berthnasau neu i fynd ar wyliau
Mae’n rhaid i chi ofyn am arian gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.
Gwrthod neu gydsynio i driniaeth
Gwiriwch yr atwrneiaeth arhosol (LPA) am gyfarwyddiadau ynghylch gwrthod neu gydsynio i driniaeth.
Bydd angen i chi:
- ddangos yr LPA i’r staff gofal
- llofnodi ffurflenni caniatâd meddygol
- gwneud penderfyniadau er lles gorau’r rhoddwr
Ni allwch wneud penderfyniadau am driniaeth feddygol y rhoddwr bob amser, er enghraifft os yw’r rhoddwr wedi gwneud ewyllys byw neu wedi’i gadw mewn ysbyty am resymau iechyd meddwl.
Ewyllysiau byw (‘penderfyniadau ymlaen llaw�)
Mae hwn yn ddatganiad cyfreithiol gan y rhoddwr ynghylch pa driniaethau meddygol nad oes arno eu heisiau. Bydd angen i chi roi hwn i’r staff gofal ynghyd â’r LPA.
Mae gan NHS Choices .
Gwneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniad am driniaeth feddygol:
- os yw’r ewyllys byw a’r LPA yn rhoi cyfarwyddiadau gwahanol
- mae’r staff meddygol neu ffrindiau a theulu’r rhoddwr yn anghytuno ynghylch a ddylid parhau â’r driniaeth
4. Defnyddio eich atwrneiaeth arhosol
Rhaid cofrestru’r atwrneiaeth arhosol cyn i chi allu dechrau gweithredu fel atwrnai.
Gall unrhyw sefydliad yr ydych yn delio ag ef ar ran y rhoddwr ofyn i chi brofi mai chi yw’r atwrnai. Gallwch wneud y canlynol:
-
dangos yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol iddynt
-
dangos copi ardystiedig o’r atwrneiaeth arhosol iddynt
-
rhoi mynediad iddynt weld crynodeb o’r atwrneiaeth arhosol ar-lein
Efallai y bydd angen i chi brofi manylion eraill, megis:
-
eich enw, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
-
enw neu gyfeiriad y rhoddwr
Efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth arall hefyd, fel rhif cyfrif.
Gwiriwch pa brawf sydd arnynt ei angen a sut y dylech rannu’r manylion hyn â nhw, cyn anfon unrhyw ddogfennau.
Cael copi ardystiedig o’r atwrneiaeth arhosol
Gall y rhoddwr ardystio copïau o’r atwrneiaeth arhosol os yw’n dal i allu gwneud ei benderfyniadau ei hun.
Gall cyfreithiwr neu notari hefyd ardystio copïau o’r atwrneiaeth arhosol - maent yn codi ffi am hyn.
Defnyddio’r atwrneiaeth arhosol ar-lein
Gallwch greu cyfrif i ddefnyddio crynodeb o’r atwrneiaeth arhosol ar-lein os cafodd eich atwrneiaeth arhosol ei gwneud ar ôl 1 Ionawr 2016.
Os cafodd yr atwrneiaeth arhosol ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016, bydd angen i chi ddangos copi papur yr atwrneiaeth arhosol yn lle i bobl neu sefydliadau.
​​Byddwch yn gallu cynhyrchu cod mynediad ar gyfer pob sefydliad sydd angen gweld yr atwrneiaeth arhosol.
Nid yw crynodeb o atwrneiaeth arhosol ar-lein yn dangos dewisiadau a chyfarwyddiadau’r rhoddwr. Os yw’r manylion hyn ar eich atwrneiaeth arhosol, mae’n bosib y bydd sefydliad yn dal i ofyn am gael gweld copi gwreiddiol neu gopi ardystiedig.
Gwnewch yn siŵr y bydd y sefydliad yn derbyn crynodeb o’r atwrneiaeth arhosol ar-lein.
5. Cofnodion a threuliau
Cadwch gofnod o:
- benderfyniadau pwysig a wnewch a phryd y byddwch yn eu gwneud nhw, er enghraifft, gwerthu cartref y rhoddwr neu gytuno i driniaeth feddygol
- asedau’r rhoddwr, incwm a sut rydych yn gwario eu harian - os mai chi yw ei atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol
Dylech gynnwys manylion am bwy y gwnaethoch ofyn am gyngor ganddo ac unrhyw anghytundebau a gafwyd.
Peidiwch â chynnwys penderfyniadau bach, cyffredin.
Treuliau
Dim ond treuliau am bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich rôl fel atwrnai y gallwch eu hawlio, er enghraifft:
- talu gweithiwr proffesiynol i wneud pethau fel llenwi ffurflen dreth y rhoddwr
- costau teithio
- deunydd ysgrifennu
- stampiau
- galwadau ffôn
Gellir eich gorchymyn i ad-dalu arian y rhoddwr os byddwch yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun.
Cadwch eich derbynebau ac anfonebwch y rhoddwr am eich treuliau. Bydd yr arian yn cael ei dalu gan bwy bynnag sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.
6. Gwiriadau ac ymweliadau
Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Llys Gwarchod wirio eich penderfyniadau. Gallant:
- drefnu ymweliad gyda chi a’r rhoddwr, neu gyda’r rhoddwr yn unig
- cysylltu â phobl eraill fel teulu, banc neu weithwyr gofal y rhoddwr
Gallant ymchwilio a’ch atal rhag gweithredu fel atwrnai os, er enghraifft:
- eich bod wedi gwneud rhywbeth mae’r atwrneiaeth arhosol (LPA) yn dweud na allwch ei wneud
- nid ydych wedi gwneud rhywbeth y mae’r LPA wedi eich cyfarwyddo i’w wneud
- nid ydych wedi bod yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr
- rydych yn camddefnyddio arian y rhoddwr neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun
- rydych yn gwneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i hawliau dynol neu hawliau sifil y rhoddwr
- nid yw’r rhoddwr yn cael ei drin yn dda
- gwnaeth y rhoddwr yr LPA dan bwysau neu fe’i twyllwyd i wneud hynny
7. Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
Mae’n rhaid ichi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):
-
os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad
-
os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw
-
os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn
-
os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai
Gall y rhoddwr hefyd roi gwybod am newidiadau i atwrneiaeth arhosol os oes ganddo alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.
Os ydych chi neu’r rhoddwr yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.
Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’r rhoddwr yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.
Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen atwrneiaeth arhosol ei hun, oherwydd gallai hynny achosi iddi fod yn annilys.
Os yw’r rhoddwr, neu atwrnai arall, yn marw
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon atynt yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol (LPA) a phob copi ardystiedig.
Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.
Beth fydd yn digwydd i’r atwrneiaeth arhosol gyfredol
Bydd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn canslo’r LPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw ac naill ai:
-
roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd � gelwir hyn yn gweithredu ‘ar-y-cyd�
-
roedd dim ond un atwrnai
Bydd LPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os hoffech i’r OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.
Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol�), bydd yr OPG yn diweddaru’r LPA yn lle ei dinistrio. Dylech gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr LPA.
Os ydych chi’n dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fyddwch yn dechrau gweithredu fel atwrnai wrth gefn. Bydd angen i chi hefyd anfon y canlynol iddynt:
-
yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol
-
pob copi ardystiedig o’r atwrneiaeth arhosol
-
cyfeiriad dychwelyd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus anfon eich dogfennau yn ôl atoch
Byddwch yn gallu dechrau helpu rhoddwr i wneud penderfyniadau cyn gynted ag y bydd yr atwrnai yr ydych chi’n cymryd ei le yn rhoi gorau i weithredu.
Edrychwch ar yr atwrneiaeth arhosol i weld a oes angen i chi wneud penderfyniadau gydag atwrneiod eraill ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai.
Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:
-
eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
-
nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
-
enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
-
y cyfeirnod ar eich atwrneiaeth arhosol
8. Rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai
Daw’r atwrneiaeth arhosol i ben pan fydd y rhoddwr yn marw. Rhaid i chi roi gwybod am farwolaeth rhoddwr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Rhoi’r gorau i weithredu cyn i’r rhoddwr farw
Gallwch ddewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai � gelwir hyn weithiau yn ‘ildio� atwrneiaeth.
Hefyd, ceir rhai achosion lle mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai.
Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai, bydd unrhyw atwrneiod wrth gefn a restrir yn yr LPA yn cymryd eich lle.
Os nad oes rhai wrth gefn ar gael, gall fod ffyrdd eraill o helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.
Os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu
Llenwch ac anfonwch ffurflen hysbysu at:
- y rhoddwr - os nad yw’r LPA wedi’i chofrestru
- y rhoddwr a’r OPG (yn y cyfeiriad ar y ffurflen) - os yw’r LPA wedi’i chofrestru
- unrhyw atwrneiod eraill a benodir ar yr LPA
Pan fydd yn rhaid i chi roi’r gorau i weithredu
Rhaid i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai:
- os bydd y rhoddwr yn tynnu eich enw oddi ar eu LPA - a elwir weithiau yn ‘dirymu� atwrnai
- os byddwch yn colli galluedd meddyliol ac yn methu â gwneud penderfyniadau mwyach
- rydych yn atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol a’ch bod yn mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyledion
- rydych yn briod â’r rhoddwr neu mewn partneriaeth sifil ag ef/â hi a’ch bod yn cael ysgariad neu ddirymiad (oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i weithredu fel atwrnai)
- rydych yn atwrnai ar y cyd ac mae’r atwrnai arall yn rhoi’r gorau i weithredu, oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i wneud penderfyniadau