Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Trosolwg
Cynllun i helpu i ddiogelu Pensiwn y Wladwriaeth rhieni a gofalwyr oedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP). Fe wnaeth credydau Yswiriant Gwladol ddisodli HRP yn 2010.
Byddwch wedi cael HRP yn awtomatig os oeddech yn hawlio un o鈥檙 canlynol rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010:
- Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
- Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am berson s芒l neu anabl ac nad oeddech ar gael i weithio
Bydd angen i chi wneud cais ar gyfer HRP os credwch ei fod ar goll o鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol (YG).
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pwy all wneud cais
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am HRP os oeddech, am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, naill ai:
- yn rhannu gofal plentyn o dan 16 oed gyda phartner yr oeddech yn byw gydag ef a鈥檌 fod yn hawlio Budd-dal Plant yn lle chi - mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo ei HRP
- yn gofalu am berson s芒l neu anabl
Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:
- yn ofalwr maeth
- yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu (鈥榞ofalwr sy鈥檔 berthynas鈥�) yn yr Alban
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 06 Ebrill 2010
Cafodd unrhyw HRP a gawsoch am flynyddoedd treth llawn cyn 6 Ebrill 2010 ei drosi鈥檔 gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig, os oes eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.