Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Printable version

1. Trosolwg

Cynllun i helpu i ddiogelu Pensiwn y Wladwriaeth rhieni a gofalwyr oedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP). Fe wnaeth credydau Yswiriant Gwladol ddisodli HRP yn 2010.

Byddwch wedi cael HRP yn awtomatig os oeddech yn hawlio un o鈥檙 canlynol rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2010:

  • Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
  • Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am berson s芒l neu anabl ac nad oeddech ar gael i weithio

Bydd angen i chi wneud cais ar gyfer HRP os credwch ei fod ar goll o鈥檆h cofnod Yswiriant Gwladol (YG).

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pwy all wneud cais

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am HRP os oeddech, am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, naill ai:

  • yn rhannu gofal plentyn o dan 16 oed gyda phartner yr oeddech yn byw gydag ef a鈥檌 fod yn hawlio Budd-dal Plant yn lle chi - mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo ei HRP
  • yn gofalu am berson s芒l neu anabl

Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:

  • yn ofalwr maeth
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu (鈥榞ofalwr sy鈥檔 berthynas鈥�) yn yr Alban

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 06 Ebrill 2010

Cafodd unrhyw HRP a gawsoch am flynyddoedd treth llawn cyn 6 Ebrill 2010 ei drosi鈥檔 gredydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig, os oes eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.

2. Yr hyn a gewch

Mae swm Pensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a nifer y 鈥榖lynyddoedd cymhwysol鈥� sydd gennych.

Blwyddyn gymhwysol yw blwyddyn lle:

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Mae Diogelu Cyfrifoldebau Cartref (HRP) wedi lleihau nifer y blynyddoedd cymhwysol sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth hyd at 22 mlynedd.

I gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, roedd angen 39 o flynyddoedd cymhwysol ar fenyw a 44 o flynyddoedd cymhwysol ar ddyn.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 06 Ebrill 2010

Cafodd HRP ei droi鈥檔 gredydau Yswiriant Gwladol, os oedd eu hangen arnoch, hyd at uchafswm o 22 o flynyddoedd cymhwysol.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2010 a 5 Ebrill 2016

Roedd angen 30 o flynyddoedd cymhwysol arnoch ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Mae鈥檔 bosibl eich bod wedi bod yn gymwys i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn gymwys i gael HRP oherwydd bod y canlynol yn wir:

  • cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 6 oed
  • roeddech yn gofalu am berson s芒l neu anabl (gan gynnwys plentyn dros 6 oed) a oedd yn cael budd-daliadau penodol

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 么l 6 Ebrill 2016

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gymwys i gael Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

3. Cymhwystra

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn dal i allu gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), am flynyddoedd treth llawn (6 Ebrill i 5 Ebrill) rhwng 1978 a 2010, os oedd unrhyw un o鈥檙 canlynol yn wir:

  • roeddech yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 16 oed
  • roeddech yn gofalu am blentyn gyda鈥檆h partner a hawliodd Fudd-dal Plant yn eich lle
  • roeddech yn cael Cymhorthdal Incwm oherwydd eich bod yn gofalu am rywun a oedd yn s芒l neu鈥檔 anabl
  • roeddech yn gofalu am berson s芒l neu anabl a oedd yn hawlio budd-daliadau penodol

Gallwch hefyd wneud cais os oeddech, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, naill ai:

  • yn ofalwr maeth
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu (鈥榞ofalwr sy鈥檔 berthynas鈥�) yn yr Alban

Gwnaeth credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer rhieni a gofalwyr ddisodli HRP o 6 Ebrill 2010 ymlaen.

Pwy oedd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer HRP

Cafodd y rhan fwyaf o bobl HRP yn awtomatig os oeddent:

  • yn cael Budd-dal Plant yn eu henw ar gyfer plentyn o dan 16 oed a鈥檜 bod wedi rhoi eu rhif Yswiriant Gwladol i鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant
  • yn cael Cymhorthdal Incwm ac nid oedd angen iddynt gofrestru ar gyfer gwaith oherwydd eu bod yn gofalu am rywun a oedd yn s芒l neu鈥檔 anabl

Os oedd eich partner yn hawlio Budd-dal Plant yn eich lle

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu trosglwyddo HRP oddi wrth bartner y buoch yn byw gydag ef pe bai鈥檔 hawlio Budd-dal Plant tra bo鈥檙 ddau ohonoch yn gofalu am blentyn o dan 16 oed ac nid oes angen yr聽HRP听补谤苍辞肠丑.

Gall drosglwyddo鈥檙 HRP i chi am unrhyw 鈥榝lynyddoedd cymhwysol鈥� sydd ganddo ar ei gofnod Yswiriant Gwladol rhwng Ebrill 1978 ac Ebrill 2010. Bydd hyn yn cael ei drosi鈥檔 gredydau Yswiriant Gwladol.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2008, ni allwch drosglwyddo HRP.

Os oeddech yn gofalu am berson s芒l neu anabl

Dim ond am y blynyddoedd y buoch yn gofalu am rywun ag anabledd neu salwch hirdymor rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2002 y gallwch hawlio HRP.

Mae鈥檔 rhaid i chi fod wedi treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu amdano ac mae鈥檔 rhaid iddo fod wedi cael un o鈥檙 budd-daliadau canlynol:

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 budd-dal fod wedi ei dalu am 48 wythnos o bob blwyddyn dreth ar neu ar 么l 6 Ebrill 1988 neu bob wythnos o bob blwyddyn dreth cyn 6 Ebrill 1988.

Gallwch wneud cais o hyd os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg). Fel arfer, ni fyddwch yn cael unrhyw gynnydd mewn Pensiwn y Wladwriaeth a allai fod wedi bod yn ddyledus am flynyddoedd blaenorol.

Os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr

Nid oes angen i chi wneud cais am HRP os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr. Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig ac ni fyddai fel arfer wedi bod angen HRP arnoch.

Os oeddech yn ofalwr maeth neu鈥檔 gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais am HRP os, am flwyddyn dreth lawn rhwng 2003 a 2010, roeddech naill ai:

  • yn ofalwr maeth
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu (鈥榞ofalwr sy鈥檔 berthynas鈥�) yn yr Alban

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 canlynol i gyd fod yn wir hefyd:

  • nad oeddech yn cael Budd-dal Plant
  • nad oeddech mewn gwaith am d芒l
  • ni wnaethoch ennill digon mewn blwyddyn dreth iddo gyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth

Gwragedd priod neu weddwon

Ni allwch gael HRP am unrhyw flwyddyn dreth gyflawn os oeddech yn wraig briod neu鈥檔 weddw a bod y canlynol yn wir:

  • roeddech wedi dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg) fel cyflogai (a elwir yn gyffredin fel y stamp bach)
  • roeddech wedi dewis peidio 芒 thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan oeddech yn hunangyflogedig

Gwirio a ydych yn gymwys

Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwiriwr cymhwystra Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref i weld a ydych yn gymwys.

4. Sut i hawlio

I wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), gallwch wneud cais ar-lein neu drwy鈥檙 post. Gallwch hefyd wneud cais i drosglwyddo HRP oddi wrth rywun arall.

Gallwch hefyd gysylltu 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am ffurflen gais.

Os oeddech yn ofalwr maeth neu鈥檔 gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu

Ar 么l i chi wneud cais, bydd angen i chi ddarparu llythyr gan eich cyngor lleol neu鈥檙 asiantaeth roeddech yn gweithio iddi.

Mae hyn er mwyn cadarnhau eich bod, drwy gydol y flwyddyn dreth lawn, naill ai:

  • yn ofalwr maeth cymeradwy
  • yn gofalu am blentyn ffrind neu aelod o鈥檙 teulu (鈥榞ofalwr sy鈥檔 berthynas鈥�) yn yr Alban

Os oeddech yn gofalu am berson s芒l neu anabl

Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys tystiolaeth sy鈥檔 dangos faint o fudd-dal a dalwyd i鈥檙 person tra oeddech yn gofalu amdano, er enghraifft sy鈥檔 dangos tystiolaeth o fudd-dal. Gwiriwch pa fudd-daliadau sy鈥檔 gymwy.

Mae鈥檔 rhaid iddo fod wedi bod yn cael y budd-dal ar gyfer naill ai:

  • 48 wythnos o bob blwyddyn dreth ar neu ar 么l 6 Ebrill 1988
  • bob wythnos o bob blwyddyn dreth cyn 6 Ebrill 1988