Cymhorthdal Incwm
Os ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm
Byddwch yn parhau i gael Cymhorthdal Incwm os yw pob un o鈥檙 canlynol yn dal yn berthnasol i chi (a鈥檆h partner, os oes gennych un):
- nid oes gennych incwm neu incwm isel, a dim mwy na 拢16,000 mewn cynilion
- nid ydych mewn gwaith llawn amser 芒 th芒l (gallwch weithio llai nag 16 awr yr wythnos, a gall eich partner weithio llai na 24 awr yr wythnos)
- rydych rhwng 16 oed ac oedran cymhwyso Credyd Pensiwn
- rydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban - mae yna reolau gwahanol ar gyfer
Rhaid i chi hefyd fod yn o leiaf un o鈥檙 canlynol:
- yn feichiog
- rhiant unigol (gan gynnwys rhiant mabwysiadol unigol) gyda phlentyn sydd o dan 5 oed
- rhiant maeth unigol gyda phlentyn sydd o dan 16 oed
- person sengl sy鈥檔 gofalu am blentyn o dan 16 oed cyn iddo gael ei fabwysiadu
- gofalwr
- ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb rhiant
- yn methu 芒 gweithio ac rydych yn cael T芒l Salwch Statudol, Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol
- mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed ac yn rhiant
- mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed, a ddim yn byw gyda rhiant neu rywun sy鈥檔 gweithredu fel rhiant
- ffoadur sy鈥檔 dysgu Saesneg - mae angen i鈥檆h cwrs fod o leiaf 15 awr yr wythnos, ac mae鈥檔 rhaid eich bod wedi ei ddechrau o fewn 12 mis ar 么l dod i mewn i鈥檙 DU
- yn y ddalfa neu i fod i fynychu鈥檙 llys neu tribiwnlys
Nid oes angen cyfeiriad parhaol arnoch - er enghraifft, gallwch ddal i wneud cais os ydych yn:
- cysgu allan
- byw mewn hostel neu gartref gofal
Mae鈥檔 rhaid i chi barhau i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall oni bai bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu 芒 chi.
Os yw鈥檆h cais Cymorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn awtomatig yn parhau i gael swm y Cymorthdal Incwm rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd, cyn belled 芒鈥檆h bod chi鈥檔 dal i fod gymwys. Fel rheol, byddwch chi鈥檔 cael hwn am bythefnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.
Nid oes angen i chi dalu鈥檙 arian hwn yn 么l, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.