Cymhorthdal Incwm

Printable version

1. Trosolwg

Ni allwch wneud cais newydd am Gymorthdal Incwm mwyach. Os ydych ar incwm isel ac angen help i dalu鈥檆h costau byw, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

惭补别鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

2. Os ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm

Byddwch yn parhau i gael Cymhorthdal Incwm os yw pob un o鈥檙 canlynol yn dal yn berthnasol i chi (a鈥檆h partner, os oes gennych un):

  • nid oes gennych incwm neu incwm isel, a dim mwy na 拢16,000 mewn cynilion
  • nid ydych mewn gwaith llawn amser 芒 th芒l (gallwch weithio llai nag 16 awr yr wythnos, a gall eich partner weithio llai na 24 awr yr wythnos)
  • rydych rhwng 16 oed ac oedran cymhwyso Credyd Pensiwn
  • rydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban - mae yna reolau gwahanol ar gyfer

Rhaid i chi hefyd fod yn o leiaf un o鈥檙 canlynol:

  • yn feichiog
  • rhiant unigol (gan gynnwys rhiant mabwysiadol unigol) gyda phlentyn sydd o dan 5 oed
  • rhiant maeth unigol gyda phlentyn sydd o dan 16 oed
  • person sengl sy鈥檔 gofalu am blentyn o dan 16 oed cyn iddo gael ei fabwysiadu
  • gofalwr
  • ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb rhiant
  • yn methu 芒 gweithio ac rydych yn cael T芒l Salwch Statudol, Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol
  • mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed ac yn rhiant
  • mewn addysg llawn amser (nid prifysgol), rhwng 16 ac 20 oed, a ddim yn byw gyda rhiant neu rywun sy鈥檔 gweithredu fel rhiant
  • ffoadur sy鈥檔 dysgu Saesneg - mae angen i鈥檆h cwrs fod o leiaf 15 awr yr wythnos, ac mae鈥檔 rhaid eich bod wedi ei ddechrau o fewn 12 mis ar 么l dod i mewn i鈥檙 DU
  • yn y ddalfa neu i fod i fynychu鈥檙 llys neu tribiwnlys

Nid oes angen cyfeiriad parhaol arnoch - er enghraifft, gallwch ddal i wneud cais os ydych yn:

  • cysgu allan
  • byw mewn hostel neu gartref gofal

Mae鈥檔 rhaid i chi barhau i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall oni bai bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu 芒 chi.

Os yw鈥檆h cais Cymorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn awtomatig yn parhau i gael swm y Cymorthdal Incwm rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd, cyn belled 芒鈥檆h bod chi鈥檔 dal i fod gymwys. Fel rheol, byddwch chi鈥檔 cael hwn am bythefnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.

Nid oes angen i chi dalu鈥檙 arian hwn yn 么l, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

3. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i鈥檆h amgylchiadau er mwyn i chi ddal i gael y swm cywir o Gymhorthdal Incwm.

Efallai y bydd eich hawliad yn cael ei stopio neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.

Os ydych yn cael mwy nag un budd-dal, bydd angen i chi roi gwybod am eich newid i bob swyddfa budd-daliadau.

Efallai y cewch eich erlyn neu y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o 拢50 os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, neu os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau ar unwaith.

Beth y mae angen i chi roi gwybod amdano

Nid yw鈥檙 rhestr hon yn cynnwys pob newid y mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod amdano. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydych yn si诺r a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Newidiadau i fanylion personol

Rhaid i chi roi gwybod os:

  • ydych yn newid manylion eich cyfrif banc
  • rydych yn newid eich rhif ff么n
  • mae unrhyw un yn dechrau neu鈥檔 stopio byw gyda chi
  • mae eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw yn marw
  • rydych chi neu rywun sydd wedi鈥檜 cynnwys ar eich cais yn newid eu statws mewnfudo
  • rydych chi neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda chi yn gadael Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban) am unrhyw gyfnod o amser

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod os ydych chi, eich partner, neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda chi yn:

  • newid enw
  • newid cyfeiriad
  • priodi neu ffurfio partneriaeth sifil
  • ysgaru neu鈥檔 dod 芒 phartneriaeth sifil i ben
  • cael babi neu鈥檔 beichiogi
  • mynd i garchar neu ddalfa gyfreithiol

Newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd

Mae angen i chi roi gwybod os ydych chi neu rywun sydd wedi鈥檜 cynnwys ar eich cais:

  • ag unrhyw newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd
  • yn mynd i ysbyty, cartref gofal neu lety gwarchod
  • yn dechrau neu鈥檔 stopio gofalu am rywun

Dylech hefyd roi gwybod os bydd unrhyw un yn dechrau neu鈥檔 stopio cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth Gofalwr neu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer gofalu amdanoch.

Newidiadau i waith ac addysg

Rhowch wybod os ydych chi, eich partner, neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda chi yn:

  • dechrau neu stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • dod o hyd i swydd neu鈥檔 ei gorffen, neu鈥檔 dechrau gweithio oriau gwahanol
  • rhan o anghydfod masnach, neu鈥檔 methu gweithio oherwydd anghydfod masnach (er enghraifft, os oes streic)

Newidiadau i incwm a budd-daliadau

Mae angen i chi roi gwybod os bydd incwm eich cartref yn cynyddu neu鈥檔 gostwng. Rhowch wybod os ydych chi neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda chi:

  • yn cael newid i enillion
  • yn cael 么l-daliad (a elwir weithiau yn 鈥樏磍-ddyledion鈥�) ar gyfer enillion o鈥檙 gwaith
  • yn cael swm gwahanol o fudd-dal
  • yn cael newid i swm y pensiwn maent yn ei gael
  • yn cael newid i swm unrhyw arian arall sy鈥檔 dod i mewn (er enghraifft benthyciadau neu grantiau myfyrwyr, t芒l salwch neu arian gan elusen)

Newidiadau i gynilion neu asedau

Mae angen i chi roi gywbod os yw cyfanswm y cynilion ac asedau yn eich cartref yn fwy na 拢6,000. Rhowch wybod os ydych chi neu unrhyw un sy鈥檔 byw gyda chi:

  • wedi newid faint o gynilion neu fuddsoddiadau y maent yn berchen arnynt
  • yn dod yn berchennog unrhyw dir, adeiladau neu eiddo
  • yn gwerthu unrhyw dir, adeiladau neu eiddo
  • yn cael taliad untro fel etifeddiaeth neu gyfandaliad

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:

  • ffonio llinell gymorth y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer hawliadau budd-dal presennol
  • ysgrifennu at swyddfa鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith sy鈥檔 talu eich Cymhorthdal Incwm - mae鈥檙 cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich Cymhorthdal Incwm

Os yw eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw wedi marw, gallwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau eraill y llywodraeth ar yr un pryd gan ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith

Canolfan Byd Gwaith 鈥� hawliadau budd-dal presennol Ff么n: 0800 328 1744
Ff么n Testun: 0800 169 0314
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych wedi cael eich gordalu

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, efallai y cewch eich gordalu. Os ydych, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o鈥檙 arian yn 么l..

4. Cyfraddau Cymhorthdal Incwm

Ni allwch wneud cais newydd am Gymorth Incwm mwyach. Os ydych chi ar incwm isel ac angen help i dalu鈥檆h costau, gallwch wneud cais am Credyd Cynhwysol yn lle.

Mae Cymhorthdal Incwm yn cynnwys:

  • taliad sylfaenol (lwfans personol)
  • taliadau ychwanegol (premiymau)

Gall eich incwm ac unrhyw gynilion (dros 拢5,999) effeithio ar faint rydych chi鈥檔 ei gael.

Lwfans personol

Eich sefyllfa Taliad wythnosol聽
Sengl - 16 i 24 oed 拢72.90
Sengl - 25 oed neu鈥檔 h欧n 拢92.05
Rhiant unig - 16 i 17 oed 拢72.90
Rhiant sengl - 18 oed neu鈥檔 h欧n 拢92.05
Cyplau 鈥� o dan 18 oed 拢72.90
Cyplau - y ddau o dan 18 oed yn cael 鈥榗yfradd uwch鈥� 拢110.15
Cyplau 鈥� un o dan 18 oed, a鈥檙 llall 18 i 24 oed 拢72.90
Cyplau 鈥� un o dan 18 oed, y llall 25 oed neu drosodd 拢92.05
Cyplau 鈥� un o dan 18 oed, un dros gael 鈥榗yfradd uwch鈥� 拢144.65
Cyplau - y ddau yn 18 oed neu鈥檔 h欧n 拢144.65

Cyfradd uwch

惭补别鈥檙 gyfradd uwch yn berthnasol os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall ohonoch yn gyfrifol am blentyn, neu pe bai pob un ohonoch yn gymwys i gael un o鈥檙 canlynol pe na baech yn gwpl:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Premiymau

Mae 鈥榩remiwm鈥� Cymohrthdal Incwm yn arian ychwanegol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft:

  • mae eich partner yn bensiynwr
  • rydych yn anabl neu鈥檔 ofalwr

Y cap ar fudd-daliadau

惭补别鈥檙 cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae鈥檔 berthnasol i鈥檙 mwyafrif o bobl 16 oed neu drosodd nad ydyn nhw wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond gallai effeithio ar gyfanswm y budd-daliadau a gewch.

Sut rydych yn cael eich talu

Gwneir taliadau fel arfer bob pythefnos.

惭补别鈥檙 holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i鈥檆h cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.