Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Sgipio cynnwys

Sut a phryd i dalu

Os ydych yn byw yn y DU, dysgwch sut i wneud y canlynol:

Os ydych yn byw neu鈥檔 gweithio y tu allan i鈥檙 DU

Os ydych chi鈥檔 byw neu鈥檔 gweithio dramor (neu os ydych chi wedi gwneud yn flaenorol), dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Dyddiadau cau

Fel arfer, gallwch ond talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2030 i lenwi鈥檙 bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Talu bylchau henach yn eich cofnod (dyddiad cau 5 Ebrill 2025)

Mae gennych hyd at 5 Ebrill 2025 i dalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol o fwy na 6 blynedd yn 么l.

Os ydych yn ddyn a aned ar 么l 5 Ebrill 1951 neu鈥檔 fenyw a aned ar 么l 5 Ebrill 1953, yna gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi鈥檙 bylchau rhwng 2006 a 2018.

Os cawsoch eich geni cyn y dyddiadau hyn, gallwch lenwi鈥檙 bylchau rhwng 2006 a 2018.

Ar 么l 5 Ebrill 2025, byddwch ond yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig.

Gallwch ddarllen yr arweiniad neu gael help i benderfynu os ddylai chi dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.

Cael help

Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg) (CThEF) os oes gennych gwestiynau am Yswiriant Gwladol gwirfoddol.