Beth i鈥檞 gynnwys yn eich Ffurflen TAW

Bydd angen i chi gynnwys:

  • cyfanswm eich gwerthiannau a phryniannau

  • swm y TAW sydd arnoch

  • swm y TAW y gallwch ei adhawlio

  • swm y TAW sy鈥檔 ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) (os ydych yn adennill TAW ar dreuliau busnes)

Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y TAW ar werth llawn yr hyn a werthwch, hyd yn oed os:

  • ydych yn cael nwyddau neu wasanaethau yn lle arian - er enghraifft os ydych yn cael rhywbeth mewn rhan-gyfnewid

  • nad ydych wedi codi unrhyw TAW ar y cwsmer - caiff pa bynnag bris y codwch ei drin fel pe bai鈥檔 cynnwys TAW

Darllenwch yr arweiniad am lenwi eich Ffurflen TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yng Ngogledd Iwerddon, mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys gwerthiannau yn yr UE ar eich Ffurflen TAW a llenwi Rhestr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd CThEF yn gallu codi cosb hyd at 100% o unrhyw dreth a danddatganwyd neu a or-hawliwyd os ydych yn anfon Ffurflen TAW anghywir.

Rhoi cyfrif am TAW mewnforio

Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW drwy ddefnyddio 鈥榗测蹿谤颈蹿测诲诲耻 TAW 驳辞丑颈谤颈别诲颈驳鈥�. Mae hyn yn eich galluogi i ddatgan TAW mewnforio a鈥檌 hadennill fel traul busnes ar yr un Ffurflen TAW.

Defnyddio ffigurau wedi鈥檜 hamcangyfrif

Gofynnwch i CThEF am ganiat芒d i ddefnyddio ffigurau wedi鈥檜 hamcangyfrif. Bydd angen rheswm da arnoch pam na allwch roi ffigurau cywir ar eich Ffurflen TAW.

Os oes caniat芒d gennych, ni chodir cosb arnoch oni bai eich bod yn methu鈥檙 dyddiad cau neu鈥檔 gwneud gwall esgeulus neu fwriadol. Fel arfer, bydd angen i chi roi鈥檙 ffigurau cywir yn eich Ffurflen TAW nesaf.

Hawlio rhyddhad ar ddrwgddyledion

Os nad yw cwsmer yn eich talu ar gyfer nwyddau neu wasanaethau, gallwch ddileu鈥檙 anfoneb fel 鈥榙rwgddyled鈥�. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae鈥檔 bosibl y bydd modd i chi hawlio rhyddhad rhag TAW.

Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad:

  • rhaid bod y ddyled yn h欧n na 6 mis

  • rhaid i chi gyflwyno鈥檆h hawliad cyn pen 4 blynedd a 6 mis o ddyddiad yr oedd y taliad yn ddyledus neu鈥檙 dyddiad cyflenwi (p鈥檜n bynnag oedd yn hwyrach)

  • rhaid eich bod heb werthu鈥檙 ddyled yn ei blaen

  • rhaid eich bod heb godi mwy na鈥檙 pris arferol am yr eitem

Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion o鈥檙 ddyled. Cyflwynwch eich hawliad am ad-daliad yn eich Ffurflen TAW.