Cyflwyno Ffurflen TAW
Printable version
1. Pryd i lenwi Ffurflen TAW
Mae Ffurflen TAW yn ffurflen rydych yn ei llenwi er mwyn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) faint o TAW rydych wedi ei chodi a faint o TAW rydych wedi ei thalu i fusnesau eraill.
Fel arfer, mae angen i chi anfon Ffurflen TAW i CThEF bob 3 mis. Gelwir hyn eich ‘cyfnod cyfrifyddu�.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen TAW hyd yn oed os nad oes gennych TAW i’w thalu neu ei hadennill.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Dyddiadau cau
Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen TAW ar-lein yw un mis calendr a 7 diwrnod ar ôl diwedd cyfnod cyfrifyddu. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer talu CThEF hefyd. Dylech ganiatáu digon o amser i’r taliad gyrraedd cyfrif CThEF.
Defnyddiwch eich cyfrif TAW ar-lein er mwyn:
-
cael gwybod pryd mae dyddiadau cau eich Ffurflenni TAW
-
cael gwybod pryd mae’n rhaid i’r taliad glirio cyfrif CThEF
-
gwirio ac apelio yn erbyn cosbau
-
gwirio a yw CThEF wedi cael eich Ffurflen TAW
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn agor tudalen Saesneg), gallwch drefnu e-bost atgoffa bob tro y bydd angen cyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy eich cyfrif TAW ar-lein.
2. Beth i’w gynnwys yn eich Ffurflen TAW
Bydd angen i chi gynnwys:
-
cyfanswm eich gwerthiannau a phryniannau
-
swm y TAW sydd arnoch
-
swm y TAW y gallwch ei adhawlio
-
swm y TAW sy’n ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) (os ydych yn adennill TAW ar dreuliau busnes)
Mae’n rhaid i chi gynnwys y TAW ar werth llawn yr hyn a werthwch, hyd yn oed os:
-
ydych yn cael nwyddau neu wasanaethau yn lle arian - er enghraifft os ydych yn cael rhywbeth mewn rhan-gyfnewid
-
nad ydych wedi codi unrhyw TAW ar y cwsmer - caiff pa bynnag bris y codwch ei drin fel pe bai’n cynnwys TAW
Darllenwch yr arweiniad am lenwi eich Ffurflen TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yng Ngogledd Iwerddon, mae’n rhaid i chi gynnwys gwerthiannau yn yr UE ar eich Ffurflen TAW a llenwi Rhestr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd CThEF yn gallu codi cosb hyd at 100% o unrhyw dreth a danddatganwyd neu a or-hawliwyd os ydych yn anfon Ffurflen TAW anghywir.
Rhoi cyfrif am TAW mewnforio
Gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW drwy ddefnyddio ‘c²â´Ú°ù¾±´Ú²â»å»å³Ü TAW ²µ´Ç³ó¾±°ù¾±±ð»å¾±²µâ€�. Mae hyn yn eich galluogi i ddatgan TAW mewnforio a’i hadennill fel traul busnes ar yr un Ffurflen TAW.
Defnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif
Gofynnwch i CThEF am ganiatâd i ddefnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif. Bydd angen rheswm da arnoch pam na allwch roi ffigurau cywir ar eich Ffurflen TAW.
Os oes caniatâd gennych, ni chodir cosb arnoch oni bai eich bod yn methu’r dyddiad cau neu’n gwneud gwall esgeulus neu fwriadol. Fel arfer, bydd angen i chi roi’r ffigurau cywir yn eich Ffurflen TAW nesaf.
Hawlio rhyddhad ar ddrwgddyledion
Os nad yw cwsmer yn eich talu ar gyfer nwyddau neu wasanaethau, gallwch ddileu’r anfoneb fel ‘drwgddyled�. Os ydych yn y sefyllfa hon, mae’n bosibl y bydd modd i chi hawlio rhyddhad rhag TAW.
Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad:
-
rhaid bod y ddyled yn hÅ·n na 6 mis
-
rhaid i chi gyflwyno’ch hawliad cyn pen 4 blynedd a 6 mis o ddyddiad yr oedd y taliad yn ddyledus neu’r dyddiad cyflenwi (p’un bynnag oedd yn hwyrach)
-
rhaid eich bod heb werthu’r ddyled yn ei blaen
-
rhaid eich bod heb godi mwy na’r pris arferol am yr eitem
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r ddyled. Cyflwynwch eich hawliad am ad-daliad yn eich Ffurflen TAW.
3. Sut i anfon eich Ffurflen TAW
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol.
Gwiriwch pa feddalwedd y gallwch ei defnyddio i gyflwyno’ch Ffurflen TAW.
Mae gwahanol ffyrdd o anfon eich Ffurflen TAW os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW
- rydych wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
- mae’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
Os ydych wedi canslo’ch cofrestriad TAW
Ni allwch anfon Ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol os nad ydych bellach wedi cofrestru ar gyfer TAW. Bydd angen i chi anfon unrhyw ffurflenni gan ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein.
Os ydych wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen TAW drwy’r post neu drwy ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein dim ond os ydych wedi’ch esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg).
Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiaduron oherwydd rhesymau crefyddol
- nid oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd
Dysgwch sut i anfon Ffurflenni TAW os ydych wedi’ch esemptio (yn agor tudalen Saesneg).
Gall Cyllid a Thollau EF godi cosb o hyd at £400 arnoch os byddwch yn cyflwyno Ffurflen TAW ar bapur ac nad ydych wedi’ch esemptio.
Os yw’ch busnes yn destun gweithdrefn ansolfedd
Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TAW ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) oni bai bod gennych y naill neu’r llall o’r canlynol:
- Trefniant Cwmni Gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg)
- Trefniant Unigol Gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg)
Os oes gennych y naill drefniant neu’r llall, gallwch ddewis anfon Ffurflen TAW ar bapur neu lenwi’r ffurflen gan ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein.
Ar ôl i chi anfon eich Ffurflen TAW
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TAW erbyn y dyddiad dyledus a ddangosir ar eich Ffurflen TAW.
Gallwch ddefnyddio eich cyfrif TAW ar-lein er mwyn gwirio a yw CThEF wedi cael eich Ffurflen TAW.
4. Cywiro camgymeriadau yn eich Ffurflen TAW
Gallwch gywiro camgymeriadau mewn Ffurflenni TAW am y 4 blynedd blaenorol, cyn belled â bod gwerth net y gwallau:
- yn £10,000 neu lai
- rhwng £10,000 a £50,000 ond yn llai nag 1% o gyfanswm gwerth eich gwerthiannau
Ar gyfer camgymeriadau fel hyn, gwnewch addasiad neu gywiriad yn eich Ffurflen TAW nesaf.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar wahân am unrhyw gamgymeriadau net sydd:
- dros £50,000
- dros £10,000, os ydynt yn fwy nag 1% o gyfanswm gwerth y gwerthiannau
- yn gamgymeriadau bwriadol
Gwirio sut i roi gwybod i CThEF am wallau yn eich Ffurflen TAW.
Cyfrifo gwerth net y camgymeriadau
I gyfrifo gwerth net y camgymeriadau:
- adiwch at ei gilydd y dreth ychwanegol sy’n ddyledus i CThEF
- tynnwch y dreth sy’n ddyledus i chi
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am gamgymeriadau bwriadol ar wahân - ni allwch gynnwys y rhain yn y cyfrifiad hwn.
Sut i wneud yr addasiad yn eich Ffurflen TAW nesaf
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW nesaf, ychwanegwch y gwerth net at flwch 1 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i CThEF, neu at flwch 4 ar gyfer y dreth sy’n ddyledus i chi.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
cadw manylion am y camgymeriad (er enghraifft, y dyddiad y’i canfuwyd, sut y digwyddodd a swm y TAW sydd dan sylw)
-
cynnwys gwerth y camgymeriad yn eich cyfrif TAW
Cysylltwch â’r Tîm Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os oes angen help arnoch wrth wneud cywiriadau.
5. Ffurflenni TAW a thaliadau hwyr
Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen TAW, bydd CThEF yn anfon ‘hysbysiad TAW o asesiad treth� atoch yn rhoi gwybod i chi faint o TAW y maent yn credu sydd arnoch.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu gordal neu gosb am gyflwyno’ch Ffurflen TAW ar ôl y dyddiad cau, neu os ydych yn ei thalu’n hwyr.
Bydd y swm sydd arnoch yn cael ei gyfrifo’n wahanol, gan ddibynnu ar ba gyfnod cyfrifyddu y mae ar ei gyfer.
Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os ydych yn ei chael hi’n anodd talu erbyn y dyddiad cau.
Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023
Byddwch yn cael cosbau ar wahân am gyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr ac am dalu’n hwyr.
Os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr
Am bob Ffurflen TAW yr ydych yn ei chyflwyno’n hwyr, byddwch yn cael pwynt cosb. Mae hyn yn cynnwys Ffurflenni TAW sy’n dangos ‘dim� (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan).
Unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich trothwy pwyntiau cosb, cewch gosb o £200. Pennir y trothwy gan eich cyfnod cyfrifyddu (os ydych yn talu bob mis, yn chwarterol neu’n flynyddol).
Byddwch yn cael cosb bellach o £200 am bob cyflwyniad hwyr dilynol tra byddwch ar y trothwy.
Gallwch weld faint o bwyntiau sydd gennych yn eich cyfrif TAW ar-lein.
Cyflwynwch Ffurflenni TAW mewn pryd yn y dyfodol i ddileu pwyntiau cosb o’ch cyfrif.
Os ydych yn talu’n hwyr
Mae’n bosibl y codir cosb arnoch os byddwch yn talu’n hwyr:
-
ar eich Ffurflen TAW
-
yn dilyn diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW
-
o asesiad TAW a anfonwyd gan CThEF pan na wnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen TAW
-
o asesiad TAW a anfonwyd gan CThEF am reswm arall
Bydd swm y gosb a godir arnoch yn dibynnu ar ba mor hwyr y byddwch yn talu (yn agor tudalen Saesneg).
Mae cyfanswm y gosb yn codi ar ôl 16 diwrnod, ac yn codi eto ar ôl 31 diwrnod.
Codir llog am dalu’n hwyr arnoch o’r diwrnod cyntaf y bydd eich taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch yn talu’r swm llawn. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn talu mewn rhandaliadau.
Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022
Bydd CThEF yn cofnodi ‘diffyg� ar eich cyfrif os bydd eich Ffurflen TAW neu’ch taliad yn hwyr.
Mae’n bosibl y bydd diffygdalu yn eich rhoi mewn ‘cyfnod gordal� o 12 mis. Os ydych yn diffygdalu eto yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 mis, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu swm ychwanegol (‘gordal�) ar ben y TAW sydd arnoch.
Nid ydych yn talu gordal y tro cyntaf eich bod yn diffygdalu.
Dechrau cyfnod gordal
Byddwch yn dechrau cyfnod gordal o 12 mis os byddwch yn talu’n hwyr, ac os yw’ch trosiant yn £150,000 neu’n fwy.
Os yw’ch trosiant yn llai na £150,000, byddwch yn dechrau cyfnod gordal o 12 mis os byddwch yn talu’n hwyr dwywaith o fewn 12 mis.
Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW neu’ch taliad yn hwyr yn ystod cyfnod gordal
Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr, bydd eich cyfnod gordal o 12 mis yn ailddechrau.
Os byddwch yn talu’n hwyr, bydd eich cyfnod gordal o 12 mis yn ailddechrau ac efallai y bydd angen i chi dalu gordal.
Faint rydych yn ei dalu
Mae’r gordal yn ganran o’r TAW heb ei thalu ar gyfer y cyfnod dan ddifygdaliad. Mae’n cael ei gyfrifo ar y dyddiad cau.
Mae’r tabl hwn yn dangos faint a godir arnoch os byddwch yn diffygdalu yn ystod cyfnod gordal. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i esbonio unrhyw ordaliadau sydd arnoch.
Diffygdaliadau cyn pen 12 mis | Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn llai na £150,000 | Gordal os yw’r trosiant blynyddol yn £150,000 neu’n fwy |
---|---|---|
2il | Dim gordal | 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) |
3ydd | 2% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) | 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) |
4ydd | 5% (dim gordal os yw hwn yn llai na £400) | 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) |
5ed | 10% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) | 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) |
6 neu fwy | 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) | 15% neu £30 (p’un bynnag sydd fwyaf) |
Does dim cosb am gyflwyno Ffurflen TAW sy’n dangos dim (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan) yn hwyr.
Os yw eich hysbysiad TAW o asesiad treth yn anghywir
Os yw’r asesiad yn rhy uchel, anfonwch Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir.
Os yw’r asesiad yn rhy isel, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:
-
rhoi gwybod i CThEF cyn pen 30 diwrnod
-
anfon Ffurflen TAW gywir a thaliad TAW cywir
Fel arall, mae’n bosibl y codir cosb arnoch (hyd at 30% o’r asesiad).
Sut i dalu gordal neu gosb
Mae sawl ffordd y gallwch dalu eich bil TAW, gan gynnwys unrhyw ordaliadau a chosbau.
6. Llog ar TAW wedi’i thandalu neu ei gordalu
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch os na fyddwch yn talu’r swm cywir o TAW erbyn y dyddiad cau. Os oes arnoch ad-daliad TAW gan CThEF, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael llog.
Mae CThEF ond yn codi neu’n talu llog syml (llog ar y swm gwreiddiol, nid llog ar log).
Mae cyfraddau llog gwahanol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer treth a dandalwyd neu a ordalwyd cyn 25 Chwefror 2025.
Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023
Os nad ydych yn talu digon o TAW
Bydd CThEF yn codi llog am dalu’n hwyr arnoch o’r diwrnod cyntaf y mae’ch taliad yn ddyledus nes i chi dalu’n llawn.Ìý
Mae hyn yn cynnwys symiau sy’n hwyr ar ôl:
- Ffurflen TAW
- diwygiad neu gywiriad i Ffurflen TAW
- asesiad TAW a wnaed gan CThEFÌý
- taliad ar gyfrif TAW sydd wedi’i fethu
Darllenwch ragor am log am dalu’n hwyr os nad ydych yn talu TAW neu gosbau mewn pryd.
Os ydych yn talu gormod o TAW
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i log ar ad-daliadau ar unrhyw TAW sy’n ddyledus i chi.
Nid oes angen i chi gyflwyno cais am log ar ad-daliadau. Os bydd CThEF yn canfod bod gennych hawl i gael llog ar ad-daliadau, byddwch yn ei gael yn awtomatig.Ìý
Darllenwch ragor am log ar ad-daliadau ar gredydau TAW neu ordaliadau.
Os dechreuodd eich cyfnod cyfrifyddu ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022
Os nad ydych yn talu digon o TAW
Mae’n bosibl y codir llog o 7.00% arnoch os ydych yn gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod am lai o TAW na’r hyn a godoch, neu’n adhawlio mwy na’r hyn rydych yn ei thalu
- talu asesiad y gwnaeth CThEF ei ganfod yn rhy isel wedi hynny
- mae arnoch TAW i CThEF oherwydd camgymeriad ar eich Ffurflen TAW
¶Ù±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’c³ó i wirio’r swm sydd arnoch.
Bydd CThEF hefyd yn anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch a sut y caiff ei gyfrifo.
Os nad ydych yn talu cyn pen 30 diwrnod, codir llog pellach ar y TAW sy’n ddyledus o ddyddiad yr hysbysiad. Codir llog arnoch am yr holl amser nad ydych yn ei dalu, hyd at uchafswm o 2 flynedd.
Ni allwch ddidynnu’r llog y mae CThEF yn ei godi arnoch wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.
Os ydych yn talu gormod o TAW
Mae’n bosibl y gallwch hawlio llog o 3.50% os yw camgymeriad CThEF yn golygu’r canlynol:
- rydych yn talu gormod o TAW
- nid ydych yn adennill digon o TAW
- cafodd eich taliad gan CThEF ei oedi
Fel arfer, ni fydd CThEF yn ad-dalu llog os ydych wedi talu gormod o TAW o ganlyniad i gamgymeriad a wnaethoch.
Fel arfer, caiff llog ei dalu am y cyfnod llawn, o’r cyfnod pan ordalwyd neu adenillwyd y TAW hyd at y dyddiad y caiff yr ad-daliad ei awdurdodi.
Os gwnaethoch achosi oedi i unrhyw daliadau (er enghraifft, drwy beidio â hawlio ar unwaith), efallai y bydd CThEF yn hepgor yr amser hwn.
Mae’n rhaid i chi hawlio’r llog ar wahân i’r ad-daliad ei hunan.
Ysgrifennwch at CThEF gyda manylion yr ad-daliad, gan egluro pam bod llog yn ddyledus i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 4 blynedd i’r dyddiad a awdurdododd CThEF yr ad-daliad yn wreiddiol. Defnyddiwch y cyfeiriad post ar y llythyr a gawsoch gan CThEF am eich TAW.
Mae unrhyw log a gewch gan CThEF yn cyfrif fel incwm trethadwy.
Talu llog i’ch cwsmeriaid
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw log cysylltiedig i’ch cwsmeriaid os oes gennych gytundebau ad-dalu gyda nhw i ad-dalu unrhyw TAW iddynt.
Cysylltwch â’r person yn CThEF a ddeliodd â’ch hawliad os oes angen i chi gael gwybod sut y cafodd y llog ei gyfrifo. Gall hyn eich helpu i gyfrifo faint sydd angen i chi ei ad-dalu i bob cwsmer.
Mae’n rhaid i chi roi’r arian yn ôl i CThEF cyn pen 14 diwrnod os na allwch gysylltu â chwsmer i’w ad-dalu.
Herio penderfyniad gan CThEF
Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i godi llog arnoch ond gallwch herio’r swm o log a godir arnoch.