Rheoli鈥檙 cyfrif

Os mai chi yw鈥檙 prif gyswllt ar gyfer cyfrif y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, chi yw鈥檙 鈥榗yswllt cofrestredig鈥�. Mae gennych rai cyfrifoldebau tan fydd y plentyn yn 18 oed, neu tan fydd y plentyn yn cymryd rheolaeth dros ei gyfrif ei hun.

Eich cyfrifoldebau fel y cyswllt cofrestredig

Chi yw鈥檙 unig berson sy鈥檔 gallu:

  • rhoi gwybod i ddarparwr y cyfrif sut mae buddsoddi鈥檙 gronfa a rhedeg y cyfrif
  • newid y cyfeiriad a manylion personol eraill
  • newid y math o gyfrif, er enghraifft o arian i stociau a chyfranddaliadau
  • symud y cyfrif i ddarparwr arall

Cysylltwch 芒 darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i wneud hyn.

Symud i gyfrif gwahanol

Gallwch drosglwyddo cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ISA ar gyfer Plant Iau. Cysylltwch 芒 darparwr ISA ar gyfer Plant Iau i wneud hyn.

Cofnodion y mae angen i chi eu cadw

Cadwch y gwaith papur canlynol:

  • Cyfeirnod Unigryw eich plentyn (mae hwn i鈥檞 weld ar eich cyfriflen Cronfa Ymddiriedolaeth Plant flynyddol)
  • cyfriflenni鈥檙 cyfrif
  • manylion y math o gyfrif a鈥檙 darparwr

Newid cyswllt cofrestredig

Gallwch newid y cyswllt cofrestredig i rywun sydd 芒 chyfrifoldeb rhiant (yn agor tudalen Saesneg) dros y plentyn, fel rhiant, llys-riant neu warcheidwad cyfreithiol os yw鈥檙 ddau barti鈥檔 cytuno i hyn.

Gall darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant roi gwybod i chi sut mae newid y cyswllt cofrestredig ar gyfer cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Pan fydd eich plentyn yn troi鈥檔 16

Pan fydd eich plentyn yn troi鈥檔 16 oed, gall naill ai:

  • bod yn gyfrifol am y cyfrif drwy gysylltu 芒 darparwr y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • eich gadael chi i fod yn gyfrifol am y cyfrif