Dod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Cysylltwch 芒 darparwr eich Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn uniongyrchol os ydych chi鈥檔 gwybod gyda phwy mae鈥檙 cyfrif.

Os nad ydych yn gwybod enw鈥檙 darparwr, gallwch ofyn i鈥檆h rhiant neu鈥檆h gwarcheidwad.

Gallwch hefyd ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gall CThEF roi gwybod i chi ble agorwyd y cyfrif yn wreiddiol.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch. Bydd hefyd angen eich manylion mabwysiadu arnoch, os yw鈥檔 berthnasol.

Os ydych yn rhiant neu鈥檔 warcheidwad sy鈥檔 chwilio am gronfa ymddiriedolaeth plentyn, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw llawn, cyfeiriad, a dyddiad geni鈥檙 plentyn
  • unrhyw enwau blaenorol a ddefnyddiwyd gennych chi neu鈥檙 plentyn

Gallwch gynnwys rhif Yswiriant Gwladol y plentyn, os yw hwnnw gennych.

Bydd angen i chi lenwi鈥檙 ffurflen ar un tro 鈥� ni allwch ei chadw er mwyn dod yn 么l ati yn nes ymlaen.

Gofyn i CThEF ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ofyn i CThEF ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Ni fydd yn rhoi gwybod i chi faint o arian sydd yn y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Gallwch ofyn i CThEF os ydych:

  • yn 16 oed, neu鈥檔 h欧n, ac yn chwilio am eich cronfa ymddiriedolaeth
  • yn rhiant neu鈥檔 warcheidwad i blentyn sydd o dan 18 oed

Ni allwch ddefnyddio鈥檙 offeryn hwn i ddod o hyd i ISA ar gyfer Plant Iau.

Mae gwasanaethau eraill ar gael sy鈥檔 rhad ac am ddim y gallwch eu defnyddio i ddod o hyd i ddarparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, megis y .

Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf

Byddwch yn cael llythyr oddi wrth CThEF yn nodi manylion y darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Byddwch fel arfer yn cael hwn cyn pen 3 wythnos i鈥檆h cais ddod i law CThEF, os byddwch yn gwneud cais ar-lein. Bydd ceisiadau drwy鈥檙 post yn cymryd mwy o amser.

Os na fyddwch yn cael ymateb cyn pen 6 wythnos, gallwch ysgrifennu at CThEF. Cofiwch gynnwys eich cyfeirnod, os oes gennych un.

Ysgrifennwch at y cyfeiriad isod:

Elusennau, Cynilion a Rhyngwladol 1
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST