Cofrestru dyluniad
Paratoi eich cais
Rhaid i chi baratoi darluniadau manwl o鈥檆h dyluniad.聽
Gallwch gynnwys hyd at 12 darluniad os ydych yn gwneud cais ar-lein. Os oes angen i chi gynnwys mwy na 12 darluniad, rhaid i chi wneud cais drwy鈥檙 post yn lle hynny.聽
Os oes angen i chi gynnwys mwy nag un olwg o鈥檙 dyluniad, er enghraifft golwg o鈥檙 brig i lawr ac o鈥檙 ochr, rhaid i chi ddangos hyn fel darluniadau ar wah芒n.聽
Os ydych yn gwneud cais drwy鈥檙 post, rhaid i鈥檆h darluniadau fod ar bapur A4 plaen.
Rheolau ar gyfer darluniadau聽
Dylai eich darluniadau:
- dangos y dyluniad fel y mae鈥檔 ymddangos i鈥檙 llygad, gan ddefnyddio ffotograffau, lluniadau llinell, dylunio 芒 chymorth cyfrifiadur (CAD) neu CAD wedi鈥檌 rendro聽
- bod yr un math o ddelwedd (er enghraifft, i gyd yn lluniadau llinell neu i gyd yn ffotograffau)聽
- dangos y dyluniad yn erbyn cefndir plaen聽
- cynnwys y patrwm cyflawn a dangos sut mae鈥檔 ailadrodd, os ydych chi am gofrestru patrwm arwyneb聽
- dylech gynnwys gwrthrychau sydd eu hangen i arddangos eich dyluniad yn unig (er enghraifft, peidiwch 芒 chynnwys eich llaw, neu wrthrych nad yw鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h dyluniad)聽
- bod yn glir (er enghraifft, os ydych yn defnyddio ffotograffau mae鈥檔 rhaid iddynt fod yn eglur)聽
- heb unrhyw fanylion wedi鈥檜 cuddio gan gysgodion neu adlewyrchiadau聽
- heb gynnwys testun, mesuriadau na gwybodaeth dechnegol arall
Os yw eich darluniadau鈥檔 cynnwys cyferbyniadau lliw neu arlliw, bydd y rhain yn cael eu hystyried yn elfennau o鈥檆h dyluniad oni bai eich bod yn dweud yn wahanol.
Os yw eich darluniadau鈥檔 cynnwys pethau nad ydych am eu cofrestru
Rhaid i chi ddangos neu esbonio:
-
pa rannau o ddarluniad rydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn 鈥榞yfyngiad鈥櫬�
-
y rhannau o ddarluniad nad ydych am eu cofrestru fel dyluniad - gelwir hyn yn 鈥榶mwadiad鈥櫬�
Gallwch wneud hyn drwy 鈥榣wydo allan鈥� neu gylchu rhannau o鈥檙 darluniad, neu drwy ychwanegu llinell o destun.
Enghraifft 1
Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer rhai coesau bwrdd. Mae eich darluniadau鈥檔 dangos y bwrdd cyfan. Amlygwch y coesau (er enghraifft, trwy eu hamlinellu) i鈥檞 gwneud yn glir mai dyma鈥檙 unig ran o鈥檙 bwrdd rydych chi am ei chofrestru.
Enghraifft 2
Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer beic. Mae鈥檙 beic yn eich darluniadau鈥檔 binc. Ychwanegwch nodyn eich bod yn cofrestru si芒p y beic, nid y lliw, i amddiffyn eich hawl i ddefnyddio unrhyw liw.
Enghraifft 3
Rydych chi am gofrestru dyluniad ar gyfer tebot. Mae鈥檙 darluniadau鈥檔 dangos patrwm ond mae eich dyluniad yn ymwneud 芒 si芒p y tebot. Ychwanegwch nodyn yn egluro nad yw鈥檙 patrwm yn rhan o鈥檙 dyluniad.