Trosolwg

Mae cofrestriad dyluniad yn helpu i ddiogelu ymddangosiad cynnyrch, fel ei si芒p neu batrwm.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae cofrestru鈥檆h dyluniad yn ei gwneud hi鈥檔 haws profi:

  • eich bod yn berchen ar y dyluniad yn gyfreithiol
  • pryd y gwnaethoch ei greu

Bydd hyn yn helpu os bydd unrhyw un yn ceisio cop茂o neu ddefnyddio鈥檆h dyluniad heb eich caniat芒d.

Mae cofrestriad dyluniad yn parhau am bum mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu鈥檆h cofrestriad dyluniad bob pum mlynedd i鈥檞 gadw鈥檔 ddiogel - hyd at uchafswm o 25 mlynedd.

Beth y gallwch ei gofrestru

Rhaid i鈥檆h dyluniad fod yn newydd.

Gall dyluniad rhywbeth gynnwys un neu fwy o鈥檙 canlynol:

  • si芒p corfforol
  • ffurfweddiad (neu sut mae gwahanol rannau o ddyluniad yn cael eu trefnu gyda鈥檌 gilydd)
  • addurniad neu liw
  • patrwm

Beth na allwch ei gofrestru

Ni allwch gofrestru:

  • deunydd annymunol, er enghraifft geiriau rhegi neu ddelweddau pornograffig
  • dyluniadau sy鈥檔 defnyddio baneri cenedlaethol nad oes gennych ganiat芒d i鈥檞 defnyddio
  • dyluniadau sy鈥檔 defnyddio arwyddluniau neu nodweddion swyddogol, er enghraifft y cylchoedd Olympaidd neu arfbeisiau
  • ymarferoldeb dyluniad, er enghraifft cadair sy鈥檔 plygu i lawr yn gyflymach nag eraill o鈥檙 un math

Beth mae鈥檔 ei gostio

Mae cofrestru dyluniad yn costio o 拢50 am un dyluniad i 拢150 am hyd at 50.

Y broses ymgeisio

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy鈥檙 post.

Rhaid i chi anfon darluniadau manwl o鈥檆h dyluniadau i鈥檙 Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), gan gynnwys unrhyw nodiadau i ddisgrifio鈥檔 union beth rydych yn ei gofrestru.

Byddwch yn cael penderfyniad ar eich cais o fewn tair wythnos.

Gweld llinell amser o鈥檙 broses.