Cofrestru ar gyfer TAW
Cofrestru ar gyfer TAW yng ngwledydd yr UE
Mae鈥檙 hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu a ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ac o ble rydych yn gwerthu.
Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i鈥檙 UE
Os ydych wedi gwerthu dros gyfanswm o 拢8,818 mewn nwyddau i gwsmeriaid yn yr UE (y 鈥榯rothwy ar gyfer gwerthu o bell鈥�), mae鈥檔 rhaid i chi dalu TAW yn y gwledydd y mae鈥檙 nwyddau鈥檔 cael eu hanfon iddynt.
Dylech gofrestru ar gyfer TAW naill ai:
-
诲谤飞测鈥檙 cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg)
-
ym mhob gwlad lle rydych yn cyflenwi nwyddau
Os ydych yn gwerthu nwyddau o鈥檙 DU i鈥檙 UE
Fel arfer nid oes angen i chi godi TAW ar nwyddau rydych yn eu gwerthu i unrhyw gwsmeriaid y tu allan i鈥檙 DU. Dim ond gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) y mae angen i chi fod wedi鈥檆h cofrestru ar gyfer TAW. Gallwch godi TAW ar gyfradd sero am y gwerthiannau hyn.
Dysgwch ragor am godi TAW ar nwyddau rydych yn eu hallforio (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o鈥檙 DU i鈥檙 UE
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o鈥檙 DU i gwsmeriaid yn yr UE, gallwch gofrestru ar gyfer cynllun di-undeb y GUC TAW.
Dysgwch ragor am gynllun di-undeb y ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Dysgwch beth i wneud os ydych yn cyflenwi gwasanaethau digidol i gwsmeriaid yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg).