Sgrapio eich cerbyd a cherbydau sydd wedi鈥檜 diddymu gan gwmni yswiriant
Printable version
1. Sut i sgrapio eich cerbyd
Pan fydd eich cerbyd wedi cyrraedd diwedd ei ddefnyddioldeb, rhaid ichi ei sgrapio mewn cyfleuster trin awdurdodedig (ATF). Gelwir y rhain weithiau yn iard sgrap neu iard dorri.
Mae yna broses wahanol os yw eich cwmni yswiriant wedi datgan bod eich cerbyd yn anadferadwy (wedi鈥檌 ddiddymu).
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sgrapio eich cerbyd heb gadw unrhyw rannau
-
Gwneud cais i dynnu鈥檙 rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.
-
Sgrapio eich cerbyd mewn ATF. Mae hyn fel arfer am ddim.
-
Rhoi llyfr log y cerbyd (V5C) i鈥檙 ATF, ond cadwch yr adran felen 鈥榞werthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd yn rhannol i鈥檙 fasnach foduro鈥� ohono.
Gallwch gael dirwy o 拢1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA.
Sgrapio eich cerbyd a chadw rhannau ohono
Gallwch gymryd rhannau o鈥檆h cerbyd cyn ichi ei sgrapio fel y gallwch eu defnyddio i atgyweirio cerbyd arall.
-
Dweud wrth DVLA bod y cerbyd oddi ar y ffordd tra鈥檆h bod yn cymryd rhannau ohono. Rhaid ei gadw oddi ar y ffordd, er enghraifft mewn garej, ar l么n y t欧 neu ar dir preifat.
-
Gwneud cais i dynnu鈥檙 rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.
-
Sgrapio eich cerbyd mewn ATF pan fyddwch wedi gorffen cymryd rhannau ohono. Gall yr ATF godi ffi os ydych chi wedi tynnu rhannau hanfodol, fel yr injan, blwch g锚r, corff neu olwynion.
-
Rhoi llyfr log y cerbyd (V5CW) i鈥檙 ATF, ond cadwch yr adran felen 鈥榞werthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid鈥� ohono.
Sgrapio cerbyd sydd wedi鈥檌 gofrestru dramor
Os oes gennych gerbyd sydd wedi鈥檌 gofrestru y tu allan i鈥檙 DU sydd wedi鈥檌 ddosbarthu fel 鈥榳edi鈥檌 ddifrodi鈥檔 ddifrifol鈥�, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru na鈥檌 drethu yn y DU. Mae difrod difrifol yn golygu nad oes modd atgyweirio鈥檙 cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel 鈥榗erbyd wedi鈥檌 ddiddymu鈥檔 statudol鈥� (鈥榮tatutory write-off鈥�), 鈥榳edi鈥檌 sgrapio鈥� neu 鈥榓nadferadwy鈥� ar y dystysgrif gofrestru.
Os yw鈥檙 cerbyd wedi鈥檌 ddifrodi, gwiriwch a yw 鈥榳edi鈥檌 ddifrodi鈥檔 ddifrifol鈥� gyda鈥檙 awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae鈥檙 cerbyd yn dod ohoni.
Os nad yw 鈥榳edi鈥檌 ddifrodi鈥檔 ddifrifol鈥�, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn.
I鈥檞 sgrapio unwaith y bydd yn y DU, rhaid ichi ddefnyddio ATF.
Byddwch yn derbyn 鈥楾ystysgrif Dinistrio鈥� i brofi bod y cerbyd wedi cael ei ddinistrio.
Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth yr awdurdod gyrru yn y wlad lle mae鈥檙 cerbyd wedi鈥檌 gofrestru ei fod wedi cael ei sgrapio.
2. Ble y gallwch chi sgrapio eich cerbyd
Dewch o hyd i gyfleuster trin awdurdodedig (ATF) ble y gellir sgrapio eich cerbyd.
Pan fydd gan yr ATF eich cerbyd, gallant benderfynu:
- i鈥檞 sgrapio鈥檔 llwyr
- i鈥檞 atgyweirio a鈥檌 werthu eu hunain
Mae鈥檔 anghyfreithlon i sgrapio鈥檆h cerbyd yn unrhyw le arall.
Os yw eich cerbyd wedi cael ei sgrapio鈥檔 llwyr
Bydd yr ATF yn rhoi 鈥榯ystysgrif dinistrio鈥� ichi o fewn 7 diwrnod os ydych wedi sgrapio:
- car
- fan ysgafn
- cerbyd modur 3-olwyn (ond nid beic modur tair olwyn)
Ni fyddwch yn derbyn tystysgrif ar gyfer mathau eraill o gerbyd.
Mae鈥檙 dystysgrif yn brawf eich bod wedi trosglwyddo鈥檙 cerbyd i鈥檞 sgrapio. Os nad yw gennych chi, fe allech chi fod yn atebol o hyd am:
- gosbau troseddau traffig
- treth cerbyd
Cael eich talu am eich cerbyd sydd wedi cael ei sgrapio
Bydd yr ATF yn talu gwerth sgrap eich cerbyd ichi.
Mae鈥檔 anghyfreithlon i gael eich talu mewn arian parod os yw鈥檆h cerbyd yn cael ei sgrapio yng Nghymru neu Loegr. Mae鈥檔 rhaid ichi gael eich talu trwy drosglwyddiad banc neu siec.
Os yw鈥檙 ATF yn atgyweirio ac yn gwerthu鈥檆h cerbyd
Ni chewch dystysgrif dinistrio os bydd yr ATF yn penderfynu atgyweirio a gwerthu eich cerbyd.
Gallwch gael eich talu am eich cerbyd trwy unrhyw ddull, gan gynnwys arian parod.
3. Cerbydau sydd wedi鈥檜 datgan fel anadferadwy gan gwmni yswiriant
Pan fyddwch yn gwneud hawliad yswiriant oherwydd bod eich cerbyd wedi鈥檌 ddifrodi, bydd eich cwmni yswiriant yn dweud wrthych:
- a yw eich cerbyd yn cael ei 鈥榙diddymu鈥� (hynny yw, yn anadferadwy)
- faint y byddant yn ei dalu ichi
Pan fydd eich cerbyd yn cael ei ddiddymu, bydd eich cwmni yswiriant yn talu gwerth cyfredol y cerbyd ichi, yn hytrach na chost i鈥檞 atgyweirio.
Bydd eich cwmni yswiriant yn penderfynu a ddylai鈥檙 cerbyd gael ei ddiddymu neu beidio.
Categor茂au diddymu
Mae鈥檙 hyn a wnewch nesaf yn dibynnu ar ba gategori y mae eich cerbyd ynddo.
Categori | Atgyweirio鈥檙 cerbyd | Defnyddio鈥檙 cerbyd |
---|---|---|
A | Ni ellir ei atgyweirio | Rhaid malu鈥檙 cerbyd cyfan |
B | Ni ellir ei atgyweirio | Rhaid malu鈥檙 corff, ond gallwch chi achub rhannau eraill ohono |
C | Gellir ei atgyweirio, ond byddai鈥檔 costio mwy na gwerth y cerbyd | Gallwch ddefnyddio鈥檙 cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i鈥檙 ffordd fawr |
D | Gellir ei atgyweirio a byddai鈥檔 costio llai na gwerth y cerbyd, ond mae costau eraill (fel cludo鈥檆h cerbyd) yn mynd ag ef dros werth y cerbyd | Gallwch ddefnyddio鈥檙 cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i鈥檙 ffordd fawr |
N | Gellir ei atgyweirio yn dilyn difrod anstrwythurol | Gallwch ddefnyddio鈥檙 cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i鈥檙 ffordd fawr |
S | Gellir ei atgyweirio yn dilyn difrod strwythurol | Gallwch ddefnyddio鈥檙 cerbyd eto os caiff ei atgyweirio i gyflwr addas i鈥檙 ffordd fawr |
Beth sydd angen ichi ei wneud
Bydd eich cwmni yswiriant fel arfer yn delio 芒 chael gwared ar y cerbyd ar eich rhan. Mae angen ichi ddilyn y camau hyn.
-
Gwneud cais i dynnu鈥檙 rhif cofrestru oddi ar y cerbyd os ydych am ei gadw.
-
Anfon y llyfr log cerbyd (V5CW) i鈥檆h cwmni yswiriant, ond cadw鈥檙 adran felen 鈥榞werthu, trosglwyddo neu gyfnewid eich cerbyd i鈥檙 fasnach foduro鈥� ohono.
Gallwch gael dirwy o 拢1,000 os na fyddwch yn dweud wrth DVLA.
Cadw鈥檙 cerbyd
Os ydych am gadw cerbyd yng nghategori C, D, N neu S, bydd y cwmni yswiriant yn rhoi taliad yswiriant ichi ac yn gwerthu鈥檙 cerbyd yn 么l ichi.
I gadw cerbyd categori C neu S, mae angen ichi hefyd:
- anfon y llyfr log cyflawn at eich cwmni yswiriant
- gwneud cais am lyfr log dyblyg am ddim gan ddefnyddio ffurflen V62W
Bydd DVLA yn cofnodi categori鈥檙 cerbyd yn y llyfr log.
Gallwch gadw鈥檙 llyfr log os ydych am gadw cerbyd categori D neu N.