Gwirio pa rif EORI sydd ei angen arnoch

Mae鈥檙 gwledydd yr ydych yn symud nwyddau iddynt ac oddi wrthynt yn dylanwadu ar y math o rif EORI y bydd ei angen arnoch ac o ble y byddwch yn ei gael. Efallai y bydd angen mwy nag un arnoch.

Os nad oes gennych y rhif EORI cywir, efallai y bydd oedi wrth gyrraedd y tollau a chostau uwch, er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid storio鈥檆h nwyddau nes i chi gael EORI.

Os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr neu oddi yno

Os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr neu oddi yno, mae鈥檔 rhaid i chi gael rhif EORI sy鈥檔 dechrau gyda GB. Os oes rhif EORI gennych eisoes ac nad yw鈥檔 dechrau gyda GB, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais am rif EORI GB.

Os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno

Mae鈥檔 bosibl y bydd angen rhif EORI sy鈥檔 dechrau gydag XI arnoch os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno.

Nid oes angen rhif EORI sy鈥檔 dechrau gydag XI arnoch os oes gennych eisoes rif EORI o wlad yn yr UE.

Os bydd eich busnes yn gwneud datganiadau tollau neu鈥檔 cael penderfyniad tollau yn yr UE

I wneud datganiad neu i gael penderfyniad tollau yn yr UE, bydd angen y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol arnoch:

Bydd angen i chi gysylltu 芒鈥檙 awdurdod tollau mewn gwlad yn yr UE os bydd angen rhif EORI yr UE arnoch.

Os na allwch gael rhif EORI y gellir ei ddefnyddio yn yr UE, bydd angen i chi benodi rhywun i ddelio 芒鈥檙 tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).