Os ydych yn symud nwyddau i Ogledd Iwerddon neu oddi yno

Fel arfer, bydd arnoch angen rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (rhif EORI) sy鈥檔 dechrau gydag XI i wneud unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban)

  • symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad arall nad yw鈥檔 rhan o鈥檙 UE

  • gwneud datganiad yng Ngogledd Iwerddon

  • gwneud cais am benderfyniad tollau yng Ngogledd Iwerddon

Dim ond rhai nwyddau a symudwch o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr y mae angen i chi eu datgan. Gwiriwch a oes angen i chi wneud datganiad allforio ac a fydd arnoch angen rhif EORI sy鈥檔 dechrau gydag XI.

Dim ond pobl neu sefydliadau sydd wedi鈥檜 lleoli yng Ngogledd Iwerddon neu鈥檙 UE sy鈥檔 gallu cael eu henwi fel y 鈥榙atganydd鈥� ar ddatganiadau mewnforio ac allforio a wneir yng Ngogledd Iwerddon.

Pan nad oes arnoch angen rhif EORI sy鈥檔 dechrau gydag XI

Nid oes arnoch angen rhif EORI sy鈥檔 dechrau gydag XI os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych rif EORI UE eisoes

  • rydych yn symud nwyddau ar ynys Iwerddon neu rhwng Gogledd Iwerddon a gwlad yn yr UE yn unig

  • 尘补别鈥檆丑 busnes wedi鈥檌 鈥榮efydlu鈥� (芒 safle) mewn gwlad yn yr UE ond nid yng Ngogledd Iwerddon 鈥� yn yr achos hwn, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais yn y wlad honno yn yr UE

Os nad yw鈥檆h busnes wedi鈥檌 sefydlu (heb safle) yng Ngogledd Iwerddon na鈥檙 UE

Mae angen i chi gofrestru gyda鈥檙 awdurdodau tollau yn y man lle rydych yn gwneud datganiad am y tro cyntaf neu鈥檔 gwneud cais am benderfyniad.

Sut i wneud cais

Ewch ati i gael gwybod sut i wneud cais am rif EORI XI.

Help a chyngor os ydych yn symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor ar rifau EORI ac ar symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Ewch ati i gael rhagor o arweiniad ar symud nwyddau i Ogledd Iwerddon ac oddi yno (yn agor tudalen Saesneg).