Budd-dal Plant os bydd plentyn neu riant yn marw
Printable version
1. Os yw plentyn yn marw
Fel arfer, byddwch yn cael Budd-dal Plant am 8 wythnos ar ôl i’r plentyn farw. Os byddai’r plentyn wedi cael ei ben-blwydd yn ugain cyn diwedd yr 8 wythnos, bydd y Budd-dal Plant yn dod i ben ar y dydd Llun canlynol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych eisoes wedi hawlio
Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn rydych yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer yn marw. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi gynnwys dyddiad y farwolaeth.
Os nad ydych wedi hawlio eto
Os bu farw’r plentyn cyn i chi anfon y ffurflen hawlio, gallwch anfon un o hyd (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig).
Sut i hawlio
-
³Ò·É²Ô±ð·É³¦³óÌýhawliad am Fudd-dal Plant drwy’r post.
-
Dylech gynnwys nodyn â dyddiad marwolaeth y plentyn.
-
Rhowch eich manylion cyswllt a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar y nodyn.
-
Anfonwch rif cofrestru genedigaeth y plentyn (a ddangosir ar dystysgrif geni’r plentyn) neu fabwysiadu’r plentyn gyda’ch ffurflen hawlio (nid oes angen i chi anfon ei dystysgrif marwolaeth).
Os nad oes gennych dystysgrif geni neu fabwysiadu’r plentyn, gallwch archebu un newydd (yn agor tudalen Saesneg) ac anfon rhif cofrestru’r enedigaeth ²Ô±ð³Ü’r dystysgrif mabwysiadu yn ddiweddarach.
Os bu farw eich plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni, bydd y cyfnod o 8 wythnos yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.
Gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant am hyd at 3 mis yn unig. Po hiraf y byddwch yn gadael eich hawliad, po leiaf y byddwch yn ei gael.
Os gwnaethoch optio allan o gael Budd-dal Plant
Mae dal angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl os bydd plentyn sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn marw. Gallwch wneud hyn dros y ffôn neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi gynnwys dyddiad y farwolaeth.
Ni fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant a gewch ar ôl i’r plentyn farw.
2. Os bydd un rhiant yn marw, ²Ô±ð³Ü’r ddau ohonynt
Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Plant os ydych yn dod yn brif ofalwr plentyn neu blant i rywun sydd wedi marw.
Rhoi gwybod am y farwolaeth
Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post cyn gynted â phosibl am y farwolaeth.
Does dim rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych eisoes wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
- dyddiad marwolaeth y rhiant
- lle mae’r plentyn yn byw nawr
- pwy sy’n gofalu am y plentyn
Unwaith y byddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am y farwolaeth, byddant yn gwneud y canlynol:
- canslo unrhyw daliadau Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad
- ysgrifennu at bwy bynnag sy’n gofalu am y plentyn cyn pen 20 diwrnod, i gadarnhau bod hyn wedi’i wneud
Gwneud hawliad
Ni fydd Budd-dal Plant yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i chi. Bydd angen i chi wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Plant os nad chi yw’r person sydd wedi’i enwi fel yr hawliwr ar y ffurflen hawlio wreiddiol.
Unwaith y rhoddir gwybod am y farwolaeth, bydd Budd-dal Plant yn stopio o’r dydd Llun ar ôl y farwolaeth. Dim ond hyd at 3 mis y gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant.
Cyfrifon banc
Gallwch gadarnhau’r cyfrif banc rydych am i’r arian gael ei dalu iddo ar y ffurflen hawlio.
Os mai chi yw’r person sy’n cael Budd-dal Plant ond cafodd yr arian ei dalu i gyfrif yr ymadawedig, dylech ddewis cyfrif gwahanol.
Cymorth ychwanegol
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael naill ai’r Lwfans Gwarcheidwad ²Ô±ð³Ü’r Lwfans Rhiant Gweddw ar ben y Budd-dal Plant.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r tâl treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ar unrhyw Fudd-dal Plant y byddwch yn ei gael.