Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Cymhwysedd
Damweiniau
Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os:
- cawsoch eich cyflogi pan ddigwyddodd y ddamwain neu鈥檙 digwyddiad
- yr oeddech ar gynllun neu gwrs hyfforddiant cyflogaeth cymeradwy pan ddigwyddodd y ddamwain neu鈥檙 digwyddiad
- digwyddodd y ddamwain waith neu鈥檙 digwyddiad a achosodd eich salwch neu anabledd yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban
Mae rhai eithriadau y gallwch ofyn i鈥檆h Canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol rhanbarthol amdanynt.
Clefydau
Gallwch hawlio IIDB os oeddech yn gyflogedig mewn swydd neu os oeddech ar gynllun neu gwrs hyfforddi cyflogaeth cymeradwy a achosodd eich clefyd. Mae鈥檙 cynllun yn cwmpasu , gan gynnwys:
- asma
- broncitis cronig neu emffysema - a elwir hefyd yn glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)
- byddardod
- niwmoconiosis (gan gynnwys silicosis ac asbestosis)
- osteoarthritis o鈥檙 pen-glin mewn glowyr
- clefyd rhagnodedig A11 (a elwid gynt yn fys gwyn dirgryniad)
- Crebachdod Dupuytren
Mae鈥檙 cynllun hefyd yn ymdrin 芒 chlefydau sy鈥檔 ymwneud ag asbestos gan gynnwys:
- niwmoconiosis (asbestosis)
- mesothelioma ymledol
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint gydag asbestosis
- carsinoma sylfaenol yr ysgyfaint heb asbestosis ond lle bu amlygiad galwedigaethol helaeth i asbestos mewn galwedigaethau penodedig
- tewhau plewrol gwasgaredig unochrog neu ddwyochrog
Gallwch gael rhestr lawn o afiechydon o鈥檆h canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol rhanbarthol.
Ni allwch wneud cais Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig.