Atal cais am brofiant
Ymateb i her yn erbyn eich cais am brofiant
Gall rywun herio eich cais am brofiant (鈥榗ofnodi cafeat鈥�) os oes anghydfod, er enghraifft ynghylch ewyllys neu pwy all wneud cais am brofiant.
Mae鈥檔 rhaid iddynt gofnodi鈥檙 cafeat cyn i brofiant gael ei gymeradwyo.
Mae鈥檙 cafeat yn para am 6 mis i ddechrau, ac yna gellir ei ymestyn am 6 mis arall. Mae鈥檙 cafeat yn atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.
Beth i鈥檞 wneud os bydd rhywun yn cofnodi cafeat
Ceisiwch ddod i gytundeb gyda鈥檙 unigolyn a wnaeth gofnodi鈥檙 cafeat. Os na allwch ddod i gytundeb, yna gallwch roi 鈥榬hybudd鈥� ffurfiol i鈥檙 unigolyn.
Gall rhoi rhybudd arwain at gafeat parhaol sy鈥檔 golygu y bydd angen cymryd camau cyfreithiol pellach i ddatrys y mater. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol. Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr neu cysylltwch 芒 .
Rhoi rhybudd
I roi rhybudd, mae angen i chi:
-
Ofyn am ffurflen gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds.
-
Llenwi鈥檙 ffurflen a dweud pam bod gennych hawl i wneud cais am brofiant. Mae hyn yn golygu eich bod yn mynegi 鈥榙iddordeb鈥� yn yr ystad.
-
Anfon y ffurflen yn 么l i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Bydd y ffurflen rybuddio wedi鈥檌 llenwi yn cael ei chofnodi, ei dyddio a鈥檌 stampio 芒 stamp y llys, ac yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.
-
Gwneud copi o鈥檙 rhybudd i鈥檞 gadw ar gyfer eich cofnodion.
-
Anfon neu roi鈥檙 rhybudd i鈥檙 unigolyn a wnaeth gofnodi鈥檙 cafeat. Cadwch gofnod o sut a phryd rhoddwyd y rhybudd, er enghraifft, drwy law neu drwy鈥檙 post. Ni allwch roi rhybudd drwy e-bost.
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Ar 么l i chi roi rhybudd
Bydd gan yr unigolyn sydd wedi atal y grant profiant 14 diwrnod i ymateb (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Gallant naill ai:
-
gofnodi 鈥榶mddangosiad鈥� os oes ganddynt 鈥榝udd croes鈥�, er enghraifft, maent yn credu bod yr ewyllys yn annilys a bod ganddynt hawl i gofnodi ymddangosiad o dan ewyllys gynharach neu ddiweddarach, neu, os nad oes ewyllys, nad oes gennych chi hawl i wneud cais am brofiant
-
codi 鈥榞w欧s鈥� os nad oes ganddynt fudd croes ond, er enghraifft, maent yn credu bod ganddynt gymaint o hawl i wneud cais am brofiant neu maent yn credu nad ydych chi鈥檔 ysgutor addas
Os byddant yn cofnodi ymddangosiad a bod y Cofrestrydd yn cytuno 芒鈥檜 rhesymau, yna bydd yn gwneud y cafeat yn un parhaol. Yna, gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.
Os byddant yn codi gw欧s, bydd y Cofrestrydd yn penderfynu pwy sydd 芒鈥檙 hawl i wneud cais am brofiant. Efallai y bydd yn awgrymu y byddai鈥檔 well i weinyddwr annibynnol ddelio 芒鈥檙 ystad.
Os na fyddant yn ymateb
Os na fyddant yn ymateb ymhen 14 diwrnod, llenwch y ffurflen datganiad cyflwyno.
Yn y ffurflen, nodwch pryd a sut y gwnaethoch anfon y rhybudd at yr unigolyn a wnaeth gofnodi鈥檙 cafeat.
Dychwelwch y ffurflen datganiad cyflwyno i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Os na chafwyd ymateb i鈥檙 rhybudd, bydd y cafeat yn cael ei ddileu a gallwch barhau 芒鈥檆h cais am brofiant.
Os nad oes gennych ffurflen datganiad cyflwyno, gofynnwch am un gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Gan amlaf, byddant wedi anfon y ffurflen hon atoch pan fu ichi ofyn am gael rhoi rhybudd.