Atal cais am brofiant
Gwneud cais i gofnodi cafeat
Gallwch wneud cais am gafeat ar-lein neu drwy鈥檙 post. Mae鈥檔 costio 拢3.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Bydd arnoch angen:
-
enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw, ac unrhyw enwau eraill yr oeddynt yn cael eu hadnabod wrthynt
-
union ddyddiad y farwolaeth fel y mae鈥檔 ymddangos ar y dystysgrif marwolaeth
-
cyfeiriad olaf yr unigolyn sydd wedi marw
-
eich cyfeiriad chi yng Nghymru neu Loegr
-
eich cyfeiriad e-bost (os ydych am wneud cais ar-lein)
Os nad oes gennych y dystysgrif marwolaeth
Gallwch gofnodi cafeat heb y dystysgrif marwolaeth, ond mae鈥檔 rhaid i chi ddiweddaru鈥檙 cafeat gydag union ddyddiad y farwolaeth pan fyddwch yn gwybod beth ydyw. Efallai na fydd y cais am brofiant yn cael ei atal os yw dyddiad y farwolaeth yn anghywir.
Ffioedd
Mae鈥檔 costio 拢3 i gofnodi cafeat.
Os byddwch yn gwneud cais drwy鈥檙 post, mae鈥檔 rhaid i chi dalu鈥檙 ffi drwy anfon siec yn daladwy i 鈥楪wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF鈥� gyda鈥檆h ffurflen.
Help i dalu ffioedd
Efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu鈥檙 ffi cafeat a ffioedd llys eraill os oes gennych incwm isel neu os ydych yn cael budd-daliadau penodol.
Mae dal angen i chi dalu鈥檙 ffi gwneud cais am gafeat os ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein. Fe gewch ad-daliad os bydd eich cais am help i dalu ffioedd yn llwyddiannus.
Gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein
Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud cais am gafeat.
Gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy鈥檙 post
Llenwch ac anfonwch ffurflen EX160 drwy鈥檙 post. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud cais am gafeat.
Bydd angen i chi hefyd bostio neu anfon copi o鈥檙 ffurflen wedi鈥檌 llenwi drwy e-bost i鈥檙 t卯m ffioedd profiant cyn i chi wneud cais am gafeat.
Os ydych eisiau anfon y copi drwy e-bost, rhowch y canlynol yn llinell pwnc y neges:
-
鈥楬奥贵鈥�
-
p鈥檜n a ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein neu drwy鈥檙 post
-
enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw
-
dyddiad marwolaeth
T卯m help i dalu ffioedd profiant
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Os ydych eisiau anfon y copi drwy鈥檙 post, anfonwch ef i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Dylech gynnwys nodyn i ddweud p鈥檜n a ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein neu drwy鈥檙 post.
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Gwneud cais am gafeat ar-lein
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael .
Gwneud cais am brofiant drwy鈥檙 post
Llenwch ffurflen PA8A a鈥檌 hanfon i Wasanaeth Profiant GLlTEF
Adran Brofiant GLlTEF
BLWCH POST 12625
Harlow
CM20 9QE
Os oes arnoch angen cymorth
Gallwch ffonio ein llinell gymorth Profiant i siaradwyr Cymraeg.
Llinell Gymorth Profiant
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau