Os na allwch dalu鈥檆h bil treth mewn pryd

Printable version

1. Trosolwg

Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted 芒 phosibl os ydych:

  • wedi methu dyddiad cau ar gyfer talu bil treth
  • yn gwybod na fyddwch yn gallu talu bil treth mewn pryd

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os na allwch dalu鈥檆h bil treth yn llawn, mae鈥檔 bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn ei dalu fesul rhandaliad. Yr enw ar hyn yw trefniant 鈥楢mser i Dalu鈥�.

Ni fyddwch yn gallu trefnu cynllun talu os nad yw CThEF yn meddwl y byddwch yn cynnal yr holl ad-daliadau. Os na all CThEF gytuno ar gynllun talu gyda chi, bydd gofyn i chi dalu鈥檙 swm sydd arnoch yn llawn.

2. Trefnu cynllun talu

Er mwyn trefnu cynllun talu, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeirnod perthnasol ar gyfer y dreth na allwch ei thalu, megis eich cyfeirnod unigryw y trethdalwr
  • manylion eich cyfrif banc yn y DU - mae鈥檔 rhaid i chi fod wedi鈥檆h awdurdodi i sefydlu Debyd Uniongyrchol
  • manylion unrhyw daliadau blaenorol rydych wedi鈥檜 methu
  • manylion ynghylch eich incwm a鈥檆h gwariant, neu fanylion ynghylch eich incwm a鈥檆h gwariant os mae arnoch dreth y cwmni

Mae鈥檔 bosibl y gallwch drefnu cynllun talu ar-lein, yn dibynnu ar y math o dreth sydd arnoch a faint o dreth sydd arnoch.

Os oes arnoch dreth o Hunanasesiad

Gallwch os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth ddiweddaraf
  • mae arnoch 拢30,000 neu lai
  • rydych o fewn 60 diwrnod i鈥檙 dyddiad cau ar gyfer talu
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF

Os oes arnoch gyfraniadau TWE y Cyflogwr

Gallwch os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi methu鈥檙 dyddiad cau i dalu bil TWE y Cyflogwr
  • mae arnoch 拢100,000 neu lai
  • rydych yn bwriadu talu鈥檆h dyled cyn pen y 12 mis nesaf
  • mae gennych ddyledion sy鈥檔 5 mlynedd oed neu lai
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
  • rydych wedi anfon unrhyw gyflwyniadau TWE y Cyflogwr a datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) sy鈥檔 ddyledus

Os oes arnoch dreth o TAW

Gallwch os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi methu鈥檙 dyddiad cau i dalu bil TAW
  • mae arnoch 拢100,000 neu lai
  • rydych yn bwriadu talu鈥檆h dyled cyn pen y 12 mis nesaf
  • mae gennych ddyled am gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd yn 2023 neu鈥檔 hwyrach
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
  • rydych wedi cyflwyno鈥檆h holl Ffurflenni TAW

Ni allwch drefnu cynllun talu TAW ar-lein os ydych yn defnyddio鈥檙 Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol, neu os ydych yn gwneud taliadau ar gyfrif.

Os na allwch drefnu cynllun talu ar-lein

Bydd angen i chi gysylltu 芒 CThEF.

Bydd CThEF yn gofyn y canlynol i chi:

  • a allwch dalu鈥檔 llawn
  • faint y gallwch ei ad-dalu bob mis
  • a oes unrhyw drethi eraill y mae angen i chi eu talu
  • faint o arian rydych yn ei ennill
  • faint yr ydych yn ei wario fel arfer bob mis
  • pa gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych

Os oes gennych gynilion neu asedion, bydd CThEF yn disgwyl i chi ddefnyddio鈥檙 rhain i ostwng eich dyled cymaint 芒 phosibl.

Os ydych wedi cael cyngor annibynnol ar ddyledion, er enghraifft gan y ganolfan Cyngor ar Bopeth, efallai y bydd gennych 鈥楧datganiad Ariannol Safonol鈥�. Bydd CThEF yn derbyn hyn fel tystiolaeth o鈥檙 hyn rydych yn ei ennill a鈥檌 wario bob mis.

Os yw鈥檆h cwmni mewn dyled treth

Bydd CThEF yn gofyn i chi gynnig sut y byddwch yn talu鈥檆h bil treth cyn gynted ag y gallwch. Byddant yn gofyn cwestiynau am eich cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn realistig ac yn fforddiadwy.

Mae鈥檔 rhaid i chi ostwng eich dyled cymaint 芒 phosibl cyn trefnu cynllun talu. Gallwch wneud hyn drwy ryddhau asedion fel stoc, cerbydau a chyfranddaliadau.

Efallai y bydd CThEF yn gofyn i gyfarwyddwyr y cwmni wneud y canlynol:

  • rhoi arian personol yn y busnes
  • derbyn benthyciadau
  • ymestyn credyd

3. Faint y byddwch yn ei dalu

Bydd y swm y gofynnir i chi ei dalu bob mis yn seiliedig ar faint o arian sydd gennych dros ben ar 么l i chi dalu unrhyw rent, biliau bwyd neu gyfleustodau a chostau sefydlog sydd gennych, fel tanysgrifiadau.

Fel arfer, bydd gofyn i chi dalu tua hanner yr hyn sydd gennych dros ben bob mis tuag at y dreth sydd arnoch.

Gallwch hefyd gytuno i dalu mwy na hyn os hoffech wneud hynny. Mae talu鈥檆h dyled yn gynt yn golygu y byddwch yn talu llai yn y pen draw oherwydd y byddwch yn talu llai o log.

Os ydych yn cael pensiwn, bydd CThEF yn cyfrif hwnnw fel incwm, ond ni fyddant yn cyfrif y swm yn eich cronfa bensiwn fel cynilion.

Am faint mae鈥檆h cynllun talu yn para

Nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gall cynllun talu bara. Bydd yn dibynnu ar y swm sydd arnoch a faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis.

Dylech gysylltu 芒 CThEF os bydd unrhyw beth yn newid a allai effeithio ar eich cynllun talu. Gallwch ymestyn neu gwtogi鈥檙 cynllun talu.

Os bydd CThEF yn cael gwybod bod eich amgylchiadau wedi newid, efallai y byddant yn cysylltu 芒 chi i drafod newid eich ad-daliadau.

Os byddwch yn methu taliad

Bydd CThEF yn cysylltu 芒 chi i gael gwybod pam. Lle bo鈥檔 bosibl, byddant yn ceisio aildrefnu neu ailnegodi鈥檙 cynllun talu gyda chi.

Os na allwch dalu bil treth arall, cysylltwch 芒 CThEF. Efallai y byddwch yn gallu cynnwys y bil treth newydd yn eich trefniant Amser i Dalu.

4. Os na fyddwch yn cysylltu 芒 CThEF neu os byddwch yn gwrthod talu

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) bob amser yn ceisio cysylltu 芒 chi os byddwch yn methu taliad treth. Gall hyn gynnwys anfon llythyrau a negeseuon testun atoch, ac ymweld 芒 chi gartref neu yn y gwaith.

Os na fyddwch yn cysylltu 芒 CThEF, neu os na allwch gytuno ar gynllun rhandaliadau, efallai y bydd CThEF yn:

Ychwanegir unrhyw gostau, fel costau ocsiwn, at eich dyled fel arfer. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn cymryd y camau hyn ac yn esbonio鈥檆h hawliau, y costau a鈥檙 opsiynau sydd ar gael i chi.

Gweler rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu y gall CThEF eu cymryd i adennill y dreth.

5. Help a chyngor

Os ydych yng Nghymru neu Loegr, gall Helpwr Arian roi rhagor o wybodaeth i chi am .

Os ydych yn yr Alban, gallwch .

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch .

Gwneud cwyn

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EF (CThEF), ond gallwch wneud cwyn os ydych yn anfodlon ar sut y cawsoch eich trin.