Os na allwch dalu鈥檆h bil treth mewn pryd
Os na fyddwch yn cysylltu 芒 CThEF neu os byddwch yn gwrthod talu
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) bob amser yn ceisio cysylltu 芒 chi os byddwch yn methu taliad treth. Gall hyn gynnwys anfon llythyrau a negeseuon testun atoch, ac ymweld 芒 chi gartref neu yn y gwaith.
Os na fyddwch yn cysylltu 芒 CThEF, neu os na allwch gytuno ar gynllun rhandaliadau, efallai y bydd CThEF yn:
- gofyn i asiantaeth casglu dyledion gasglu鈥檙 arian
- casglu鈥檙 hyn sydd arnoch yn uniongyrchol o鈥檆h cyflog (yn agor tudalen Saesneg) neu o unrhyw daliadau pensiwn misol a gewch
- cymryd eich eiddo a鈥檜 gwerthu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
- mynd ag arian yn uniongyrchol o鈥檆h cyfrif banc neu鈥檆h cynilion cymdeithas adeiladu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
- mynd 芒 chi i鈥檙 llys
- eich gwneud yn fethdalwr (yn agor tudalen Saesneg)
- cau eich cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os mai treth busnes yw鈥檙 dreth
Ychwanegir unrhyw gostau, fel costau ocsiwn, at eich dyled fel arfer. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn cymryd y camau hyn ac yn esbonio鈥檆h hawliau, y costau a鈥檙 opsiynau sydd ar gael i chi.
Gweler rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu y gall CThEF eu cymryd i adennill y dreth.