Sut mae'r rhybuddion argyfwng yn gweithio
Mewn argyfwng, bydd mastiau ffonau symudol yn yr ardal oddi amgylch yn darlledu rhybudd. Bydd pob ff么n symudol neu lechen gydweddol o fewn cyrraedd y mastiau hyn yn cael y rhybudd.
Does dim angen bod eich ff么n symudol na'ch llechen wedi'u cysylltu 芒 data symudol neu wifi i gael rhybuddion.
Mae rhybuddion argyfwng yn rhad ac am ddim. Does dim angen i chi lofnodi ar eu cyfer na lawrlwytho ap.
Rhesymau na chewch chi rybuddion
Ni chewch chi rybuddion os yw eich dyfais:
- wedi鈥檌 diffodd
- wedi鈥檌 chysylltu 芒 rhwydwaith 2G neu 3G
- ar wifi yn unig
- yn anghydnaws
Efallai na chewch chi rybuddion os yw eich dyfais:
- yn y modd awyren
Ffonau symudol a dyfeisiau eraill cydweddol
Gwnewch yn si诺r fod gan eich dyfais yr holl ddiweddariadau meddalwedd diweddaraf.
Mae rhybuddion argyfwng yn gweithio ar y canlynol:
- Ffonau iPhone sy'n rhedeg iOS 14.5 neu systemau diweddarach
- Ffonau a llechi Android sy'n rhedeg Android 11 neu systemau diweddarach
Os oes gennych chi fersiwn Android cynharach, efallai y bydd modd o hyd i chi gael rhybuddion. I wirio, chwiliwch osodiadau'ch dyfais am 鈥榦sodiadau argyfwng鈥�.
Efallai y bydd ffonau eraill nad ydynt yn rhedeg iOS neu Android hefyd yn derbyn rhybuddion.
Os hoffech weld rhybudd eto
I weld rhybudd eto, ewch i rybuddion presennol neu rybuddion y gorffennol.
Gallwch chi hefyd chwilio am rybuddion argyfwng ar eich ff么n symudol neu'ch llechen.
Os cewch chi negeseuon atgoffa am rybudd
Efallai y caiff ffonau symudol a llechi Android fwy nag un neges atgoffa am yr un rhybudd argyfwng. Gallwch ddiffodd y negeseuon rhybudd hyn trwy'r gosodiadau 鈥榬hybuddion argyfwng鈥� ar eich dyfais.
Eich data personol
Does dim angen bod gan y gwasanaethau brys na llywodraeth y DU eich rhif ff么n er mwyn anfon rhybudd atoch chi.