Am Rybuddion Argyfwng
Does dim rhybuddion argyfwng ar hyn o bryd
Un o wasanaethau llywodraeth y DU yw Rybuddion Argyfwng a fydd yn eich rhybuddio pan fydd perygl i fywyd gerllaw.
Mewn argyfwng, caiff eich ff么n symudol neu'ch llechen rybudd 芒 chyngor am sut i gadw'n ddiogel.
Rhesymau pam y gallech gael rhybudd
Gallech gael rhybuddion am y canlynol:
- llifogydd difrifol
- tanau
- tywydd eithafol
Anfonir rhybuddion argyfwng yn unig trwy:
- y gwasanaethau brys
- adrannau'r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus sy'n ymdrin ag argyfyngau
Beth sy'n digwydd pan gewch chi rybudd argyfwng
Gallai eich ff么n symudol neu eich llechen:
- wneud s诺n uchel tebyg i seiren, hyd yn oed os yw ar osodiad tawel
- dirgrynu
- darllen y rhybudd yn uchel
Bydd y s诺n a'r dirgryniad yn parhau am ryw 10 eiliad.
Bydd rhybudd yn cynnwys rhif ff么n neu ddolen at wefan 188体育 am ragor o wybodaeth.
Cewch chi ragor o rybuddion ar sail eich lleoliad presennol 鈥� nid ble rydych chi'n byw neu'n gweithio. Does dim angen i chi droi gwasanaethau lleoliad ymlaen i gael rhybuddion.
Beth mae angen i chi ei wneud
Pan gewch chi rybudd, stopiwch beth rydych chi'n ei wneud a dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd.
Os ydych chi'n gyrru neu'n reidio pan gewch chi rybudd
Peidiwch 芒 darllen nac ymateb i rybudd argyfwng wrth yrru neu reidio.
Dewch o hyd i rywle diogel a chyfreithiol i stopio cyn darllen y neges. Os nad oes unrhyw le diogel a chyfreithlon i stopio, a neb arall yn y cerbyd i ddarllen y rhybudd, gallwch wrando ar newyddion ar radio byw i gael gwybod am yr argyfwng.
Os na allwch chi dderbyn rhybuddion argyfwng
Os nad oes gennych chi ddyfais gydweddol, rhoddir gwybod o hyd i chi am argyfwng. Mae gan y gwasanaethau brys ffyrdd eraill o'ch rhybuddio pan fydd bygythiad i fywyd.
Os ydych chi'n fyddar, yn drwm eich clyw, yn ddall neu'n rhannol ddall
Os oes gennych nam ar eich golwg neu'ch clyw, bydd signalau sylw sain a dirgrynu yn rhoi gwybod i chi fod gennych chi rybudd argyfwng.
Ieithoedd y rhybuddion
Anfonir rhybuddion argyfwng yn y Saesneg. Yng Nghymru, gellir hefyd eu hanfon yn y Gymraeg.