Os bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu
Efallai y bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu i sicrhau eich bod yn cael y taliad a鈥檙 gefnogaeth gywir. Gallai hyn ddigwydd ar unrhyw adeg tra rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol.
Efallai eich bod yn cael y swm anghywir o Gredyd Cynhwysol os nad yw eich manylion yn gyfredol. Gwnewch yn si诺r eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau pan maent yn digwydd.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael聽yn Saesneg (English)
Beth sy鈥檔 digwydd mewn adolygiad
Os bydd eich cais yn cael ei adolygu, bydd asiant adolygu ceisiadau鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu 芒 chi yn eich dyddlyfr ar-lein. Byddant yn gofyn i chi wneud y canlynol:
- anfon rhai dogfennau
- cael cyfweliad ff么n
Yn ystod yr adolygiad, dim ond os bydd un o鈥檙 canlynol yn berthnasol y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei stopio:
- nid ydych yn darparu鈥檙 dogfennau
- nid ydych yn mynychu eich apwyntiad ff么n
- nid ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol
Efallai y bydd yr adolygiad yn darganfod:
- eich bod yn cael gormod o Gredyd Cynhwysol
- bod gennych hawl i fwy o Gredyd Cynhwysol
Cysylltwch 芒鈥檙 asiant adolygu ceisiadau os oes angen cymorth arnoch gyda:
- eich adolygiad cais Credyd Cynhwysol
- darparu unrhyw dystiolaeth y gofynnwyd amdani
- diweddaru eich manylion
Pa ddogfennau y bydd angen i chi eu hanfon
Byddwch yn cael neges yn eich dyddlyfr ar-lein yn gofyn i weld eich ID a鈥檆h cyfriflenni banc.
Bydd edrych ar eich taliadau a thrafodion yn helpu eich asiant adolygu ceisiadau i ddeall a yw eich manylion yn gyfredol.
Efallai y bydd angen i chi hefyd rannu dogfennau am eich amgylchiadau a faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau am eich:
- costau tai
- enillion neu incwm arall
- hunangyflogaeth
- arbedion
- costau gofal plant
- plant
- cyllid Myfyrwyr
- cyfrifoldebau gofalu
Bydd angen i鈥檙 asiant adolygu ceisiadau weld eich cyfriflenni a鈥檆h dogfennau heb unrhyw newidiadau na golygiadau.
Os oes gennych gwestiynau am sut i ddarparu鈥檙 dogfennau cywir yn y fformat cywir, gofynnwch i鈥檙 asiant adolygu ceisiadau am help yn eich dyddlyfr ar-lein.
Eich apwyntiad ff么n
Cewch eich gwahodd i apwyntiad dros y ff么n i drafod eich cais.
Cysylltwch 芒鈥檙 asiant adolygu ceisiadau yn eich dyddlyfr os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr apwyntiad ff么n.
Os nad ydych yn cael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol
Efallai y bydd yr adolygiad yn darganfod eich bod yn cael gormod neu ddim digon yn eich taliad Credyd Cynhwysol.
Os oes angen i鈥檆h Credyd Cynhwysol newid, byddwch yn cael neges yn eich dyddlyfr ar-lein. Bydd eich taliadau yn y dyfodol yn cael eu newid ac efallai y byddwch yn cael:
- taliad ychwanegol i wneud yn iawn am yr hyn rydych heb ei gael
- tynnu arian oddi ar eich taliadau
Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad a wnaed yn ystod eich adolygiad, gallwch herio鈥檙 penderfyniad.