Pryd fyddwch yn dechrau ad-dalu

Byddwch ond yn ad-dalu鈥檆h benthyciad myfyriwr pan fydd eich incwm dros y swm trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Eich incwm yw鈥檙 swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys pethau fel bonysau a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Mae鈥檙 symiau trothwy yn newid ar 6 Ebrill bob blwyddyn.

Y cynharaf y byddwch yn dechrau ad-dalu yw:

  • y mis Ebrill ar 么l i chi adael eich cwrs

  • y mis Ebrill 4 blynedd ar 么l i鈥檙 cwrs ddechrau os ydych yn astudio鈥檔 rhan-amser neu鈥檔 gwneud cwrs Doethurol 脭l-raddedig a bod eich cwrs yn hwy na 4 blynedd

  • Ebrill 2026 os ydych ar Gynllun 5

Daw eich ad-daliadau i ben yn awtomatig os naill ai:

  • byddwch yn rhoi鈥檙 gorau i weithio

  • mae eich incwm yn mynd o dan y trothwy

Byddwch yn gwneud ad-daliad os bydd eich incwm yn mynd dros y trothwy wythnosol neu fisol ar gyfer eich cynllun (er enghraifft, os telir bonws neu oramser i chi). Gallwch ofyn am ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth os oedd eich incwm blynyddol yn llai na鈥檙 trothwy blynyddol ar gyfer eich cynllun.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 1

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros 拢480 yr wythnos, 拢2,082 y mis neu 拢24,990 y flwyddyn.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 2

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros 拢524 yr wythnos, 拢2,274 y mis neu 拢27,295 y flwyddyn.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 4

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros 拢603 yr wythnos, 拢2,616 y mis neu 拢31,395 y flwyddyn.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 5

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros 拢480 yr wythnos, 拢2,083 y mis neu 拢25,000 y flwyddyn.

Os ydych ar gynllun ad-dalu Benthyciad 脭l-raddedig

Os cymeroch Fenthyciad Meistr neu Fenthyciad Doethurol, dim ond pan fydd eich incwm dros 拢403 yr wythnos, 拢1,750 y mis neu 拢21,000 y flwyddyn y byddwch yn ad-dalu.

Ad-daliadau cynnar

Nid oes cosb am dalu rhywfaint neu鈥檙 cyfan o鈥檆h benthyciad yn gynnar.