Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor

Efallai bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU tra鈥檆h bod yn gweithio dramor. Mae鈥檔 dibynnu ar ble a pha mor hir yr ydych yn gweithio.

Os nad oes gan y wlad rydych chi鈥檔 gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol 芒鈥檙 DU, efallai y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yno.

Os oes gan y wlad rydych chi鈥檔 gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol 芒鈥檙 DU, byddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU. Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif yn dangos eich bod wedi鈥檆h eithrio rhag talu nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych ynddi.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwneud cais am dystysgrif

Gwiriwch a oes angen tystysgrif arnoch a sut i wneud cais.

Rhesymau eraill y gallai fod angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU

Mae angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU am y 52 wythnos gyntaf o weithio dramor os ydych yn bodloni pob un o鈥檙 amodau canlynol:

  • rydych yn gweithio dramor dros dro
  • mae gan eich cyflogwr leoliad busnes yn y DU
  • rydych yn breswylydd yn y DU gan amlaf
  • roeddech yn byw yn y DU yn union cyn dechrau gweithio dramor

Bydd eich cyflogwr yn tynnu eich Yswiriant Gwladol o鈥檆h enillion.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU tra鈥檆h bod yn gweithio dramor.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tra ydych dramor.

Bydd eich taliadau鈥檔 diogelu:

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn cynnwys eich yswiriant iechyd yn y wlad lle rydych yn byw.