Apwyntiad i wirio'ch taliad budd-dal

Efallai y cewch alwad ff么n gan swyddog yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wirio bod eich taliad budd-dal yn gywir. Y rheswm yw i gasglu ystadegau cenedlaethol ar y system fudd-daliadau.

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gall swyddog adolygu Mesur Perfformiad eich ffonio os ydych yn hawlio:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Cynhwysol

Bydd eich enw yn cael ei ddewis ar hap i鈥檞 wirio.

Fe gewch lythyr ymlaen llaw yn dweud wrthych ddyddiad ac amser yr alwad ff么n.

Beth i鈥檞 ddisgwyl

Bydd y swyddog yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi i gadarnhau pwy ydych chi.

Byddant efallai hefyd yn gofyn i chi anfon dogfennau am arian, cynilion a rhent, er enghraifft:

  • slipiau cyflog
  • cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa鈥檙 Post
  • llyfr rhent neu gytundeb tenantiaeth
  • budd-daliadau a dyfarniadau credyd treth

Gallwch ddarparu dogfennau gwreiddiol neu gop茂au i gefnogi eich adolygiad. Bydd y swyddog yn dweud wrthych ble i鈥檞 hanfon.

Mae galwadau ff么n fel arfer yn para hyd at awr ond gallant fod yn hirach.

Gallwch aildrefnu鈥檙 alwad ff么n os oes angen.