Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ff么n
Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw鈥檙 cyfrif |
---|---|---|
08 32 10 | 12001039 | HMRC Cumbernauld |
Cyfeirnod
Bydd angen i chi roi cyfeirnod, sy鈥檔 17 o gymeriadau, fel y cyfeirnod talu. Mae hwn yn dechrau gyda鈥檆h cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy鈥檔 13 o gymeriadau. Yna, ychwanegwch y flwyddyn dreth rydych am dalu ar ei chyfer a鈥檙 digidau 鈥�13鈥� er mwyn gwneud yn si诺r bod eich taliad yn cael ei neilltuo鈥檔 gywir.
Blwyddyn dreth | Ychwanegwch y digidau hyn at eich cyfeirnod |
---|---|
2022 i 2023 | 2313 |
2023 i 2024 | 2413 |
2024 i 2025 | 2513 |
Enghraifft
Eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon yw 123PA00012345.
I wneud taliad ym mis Gorffennaf 2024 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, 2023 i 2024, ychwanegwch y digidau 鈥�2413鈥� at eich cyfeirnod fel bod eich cyfeirnod nawr yn 123PA000123452413.
Mae鈥檆h cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf.
Mae鈥檔 rhaid i chi wneud taliad ar wah芒n ar gyfer taliadau Dosbarth 1A. Ni allwch eu hychwanegu at daliad TWE safonol.
Faint o amser y mae鈥檔 ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ff么n) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu鈥檙 diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, mae taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu鈥檆h banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu鈥檆h banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:
Rhif y cyfrif (IBAN) | Cod Adnabod y Busnes (BIC) | Enw鈥檙 cyfrif |
---|---|---|
GB62BARC20114770297690 | BARCGB22 | HMRC Cumbernauld |
Bydd rhai banciau yn codi t芒l arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP