Talu Cytundeb Setliad TWE
Debyd Uniongyrchol
Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy eich busnes i wneud taliad unigol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi sefydlu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Defnyddiwch eich cyfeirnod
Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae鈥檔 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag 鈥榅鈥�. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os nad yw鈥檆h cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Peidiwch 芒 defnyddio鈥檆h cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio鈥檙 cyfeirnod anghywir.
Faint o amser y mae鈥檔 ei gymryd
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio鈥檙 un manylion banc.
Os ydych yn talu TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy Ddebyd Uniongyrchol, gwnewch daliad Debyd Uniongyrchol ar wah芒n ar gyfer eich PSA.
Os nad ydych wedi defnyddio鈥檆h Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch 芒鈥檆h banc ei fod wedi鈥檌 drefnu o hyd.