Cael help gyda chostau angladd (Taliad Costau Angladd)
Cymhwyster
I gael Taliad Costau Angladd mae鈥檔 rhaid i chi:
- cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth
- cwrdd 芒鈥檙 rheolau ar eich perthynas 芒鈥檙 ymadawedig
- bod yn trefnu angladd yn y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu鈥檙 Swistir
Efallai y byddwch yn gallu cael os nad ydych yn gymwys ar gyfer Taliad Costau Angladd.
Budd-daliadau sy鈥檔 rhaid i chi eu cael
Rhaid i chi (neu鈥檆h partner) gael un neu fwy o鈥檙 canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credyd Pensiwn
- Budd-dal Tai
- elfen anabledd neu anabledd difrifol Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais.
Gallwch barhau i hawlio Taliad Costau Angladd os ydych wedi gwneud cais am y budd-daliadau hyn ac rydych yn aros i glywed am eich cais.
Rheolau ar eich perthynas 芒鈥檙 ymadawedig
Efallai y gallwch gael Taliad Costau Angladd os ydych:
- yn bartner yr ymadawedig
- yn rhiant babi sydd yn marw-anedig ar 么l 24 wythnos o feichiogrwydd
- yn rhiant neu鈥檙 person sy鈥檔 gyfrifol am blentyn ymadawedig o dan 16 oed (neu o dan 20 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy)
Os yw perthynas agos i鈥檙 ymadawedig (fel brawd neu chwaer neu riant) mewn gwaith neu os nad yw鈥檔 cael budd-dal cymwys, efallai na fyddwch yn cael Taliad Costau Angladd.
Os rydych chi鈥檔 berthynas agos neu鈥檔 ffrind
Efallai y gallwch gael Taliad Costau Angladd os:
- nad oedd gan yr ymadawedig bartner pan fu farw
- ni all partner yr ymadawedig neu riant plentyn ymadawedig hawlio (er enghraifft, os yw鈥檔 byw dramor neu yn y carchar)