Cael taliad ymlaen llaw o鈥檆h taliad budd-dal cyntaf
Printable version
1. Trosolwg
Efallai byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw o鈥檆h taliad budd-dal cyntaf os ydych mewn angen ariannol brys.
Fel arfer, byddwch yn ei ad-dalu trwy鈥檆h budd-daliadau. Nid oes rhaid i chi dalu llog.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch wneud cais os ydych wedi gwneud cais yn ddiweddar am:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Lwfans Gofalwr
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
Byddwch yn cael gwybod pryd byddwch yn cael eich talu a faint. Fel arfer byddwch yn cael eich talu ar yr un diwrnod neu鈥檙 diwrnod gwaith nesaf. Bydd yn cael ei dalu i鈥檆h cyfrif banc neu gyfrif swyddfa bost.
2. Sut i wneud cais
Mae canllawiau ar wah芒n os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac mae arnoch angen taliad ymlaen llaw.
Ffoniwch y rhif cywir ar gyfer y budd-dal rydych yn ei hawlio. Rhaid i chi ddweud wrth yr ymgynghorydd am eich amgylchiadau a faint rydych yn meddwl rydych angen ei benthyg.
ESA neu JSA
Rhif Ff么n: 0800 328 1744
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Ff么n Testun: 0800 169 0314
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Lwfans Gofalwr
Rhif Ff么n: 0800 731 0297
Ff么n Testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 731 0297
Dydd Llun, 8.45am i 2pm
Dydd Mawrth i ddydd Gwener, 10am i 2pm
Credyd Pensiwn neu Bensiwn y Wladwriaeth
Rhif Ff么n: 0800 731 0453聽
Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Ff么n Testun: 0800 731 0464
(os na allwch glywed neu siarad dros y ff么n): 18001 yna 0800 731 0469
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau.
Os nad ydych yn gallu defnyddio鈥檙 ff么n
Gallwch ofyn i ddefnyddio鈥檙 ff么n yn eich Canolfan Gwaith leol os na allwch fforddio gwneud galwad ff么n.
Gofynnwch i ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith i鈥檆h asesu a gwneud cais ar eich rhan os nad ydych yn gallu siarad dros y ff么n.
Cael taliad ymlaen llaw arall
Efallai y gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw arall yn syth ar 么l cael un neu gael eich gwrthod. Gallwch ond gwneud hyn os gallwch ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid, sy鈥檔 golygu eich bod angen mwy o arian nag oeddech yn ei feddwl yn flaenorol.
Ei ad-dalu
Bydd yr ymgynghorydd yn dweud wrthych sut i ad-dalu鈥檙 taliad ymlaen llaw. Fel arfer, bydd ychydig yn cael ei gymryd o鈥檆h budd-dal bob wythnos tan iddo gael ei ad-dalu. Nid oes rhaid i chi dalu llog.
Os nad ydych yn fodlon gyda phenderfyniad
Gallwch ofyn am ailystyriaeth o鈥檙 penderfyniad os nad ydych yn fodlon. Dywedwch hyn pan fyddwch yn cael eich hysbysu o鈥檙 penderfyniad.