T芒l Salwch Statudol (SSP)
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys, gallwch gael 拢116.75 o D芒l Salwch Statudol (SSP) yr wythnos am hyd at 28 wythnos.
Cewch SSP wedi鈥檌 dalu i chi ar gyfer yr holl ddiwrnodau yr ydych i ffwrdd o鈥檙 gwaith yn s芒l a byddech wedi鈥檜 gweithio fel arfer, oni bai am y 3 diwrnod cyntaf.
Dim ond os cawsoch SSP yn ystod yr 8 wythnos diwethaf y cewch SSP wedi鈥檌 dalu i chi ar gyfer y 3 diwrnod gwaith cyntaf y byddwch i ffwrdd o鈥檙 gwaith yn s芒l. Mae鈥檔 rhaid i hwn gynnwys cyfnod aros o 3 diwrnod cyn y cafodd SSP ei dalu i chi.
Sut cewch eich talu
Telir SSP gan eich cyflogwr yn yr un ffordd ag y telir eich cyflog arferol, er enghraifft fesul wythnos neu fis.
Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y cewch SSP gan bob cyflogwr.
Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.
Os ydych o鈥檙 farn nad ydych yn cael y swm cywir o SSP, dylech gael gair gyda鈥檆h cyflogwr. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.