Cyfraddau treth cerbyd
Printable version
1. Ceir a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017
Bydd angen ichi dalu treth pan fydd y cerbyd yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf, a bydd hyn yn sicrhau’r cerbyd am 12 mis.
Ar ôl hynny byddwch yn talu treth cerbyd pob 6 neu 12 mis ar gyfradd wahanol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Taliad treth cyntaf pan rydych yn cofrestru’r cerbyd
Byddwch yn talu cyfradd sy’n seiliedig ar allyriadau CO2 y cerbyd pan y caiff ei gofrestru am y tro cyntaf.
Mae hyn yn berthnasol i rai cartrefi modur hefyd.
Mae’n rhaid ichi dalu cyfradd uwch am geir diesel sydd ddim yn bodloni’r safon Allyriadau Gyrru Real 2 (RDE2) ar gyfer allyriadau nitrogen ocsid. Gallwch ofyn i wneuthurwr eich car os yw eich car yn bodloni’r safon RDE2.
Allyriadau CO2 | Ceir diesel (TC49) sy’n bodloni’r safon RDE2, ceir petrol (TC48), ceir tanwydd amgen a di-allyriadau | Pob car diesel arall (TC49) |
---|---|---|
0g/km | £10 | £10 |
1 i 50g/km | £110 | £130 |
51 i 75g/km | £130 | £270 |
76 i 90g/km | £270 | £350 |
91 i 100g/km | £350 | £390 |
101 i 110g/km | £390 | £440 |
111 i 130g/km | £440 | £540 |
131 i 150g/km | £540 | £1,360 |
151 i 170g/km | £1,360 | £2,190 |
171 i 190g/km | £2,190 | £3,300 |
191 i 225g/km | £3,300 | £4,680 |
226 i 255g/km | £4,680 | £5,490 |
Dros 255g/km | £5,490 | £5,490 |
Mae’r taliad hwn yn sicrhau eich cerbyd am 12 mis.
Cyfraddau am yr ail daliad treth ymlaen
Math o danwydd | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
Petrol neu ddiesel, Trydan a Thanwydd amgen | £195 | £195 | £204.75 | £107.25 | £102.38 |
Mae cerbydau tanwydd amgen yn cynnwys cerbydau hybrid, bioethanol a nwy petrolewm hylifedig.
Cerbydau gyda phris catalog o fwy na £40,000
Mae’n rhaid ichi dalu £425 ychwanegol y flwyddyn os oes gennych gar neu gartref modur gyda ‘phris catalog� o fwy na £40,000.
Nid oes rhaid ichi dalu hwn os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych gerbyd di-allyriadau
- cofrestrwyd y cerbyd cyn 1 Ebrill 2025
Y pris catalog yw pris cyhoeddedig y cerbyd cyn iddo gael ei gofrestru am y tro cyntaf. Dyma’r pris cyn gwneud unrhyw ostyngiadau.
Mae dim ond angen ichi dalu’r gyfradd hon am 5 mlynedd (o’r ail dro y trethir y cerbyd).
Gwiriwch y pris catalog gyda’ch deliwr ichi gael gwybod faint o dreth cerbyd y bydd rhaid ichi dalu.
Math o danwydd | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
Petrol neu ddiesel, Trydan a Thanwydd amgen | £620 | £620 | £651 | £341 | £325.50 |
2. Ceir a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 a 31 Mawrth 2017
Mae’r gyfradd o dreth cerbyd yn seiliedig ar y fath o danwydd ac allyriadau CO2.
Dangosir manylion allyriadau CO2 ar dystysgrif gofrestru V5CW y car, neu gallwch .
Car petrol (TC48), car diesel (TC49), ceir tanwydd amgen (59) a di-allyriadau
Band ac allyriad CO2 | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
A: Hyd at 100g/km | £20 | £20 | £21 | Amh. | Amh. |
B: 101 i 110g/km | £20 | £20 | £21 | Amh. | Amh. |
C: 111 i 120g/km | £35 | £35 | £36.75 | Amh. | Amh. |
D: 121 i 130g/km | £165 | £165 | £173.25 | £90.75 | £86.63 |
E: 131 i 140g/km | £195 | £195 | £204.75 | £107.25 | £102.38 |
F: 141 i 150g/km | £215 | £215 | £225.75 | £118.25 | £112.88 |
G: 151 i 165g/km | £265 | £265 | £278.25 | £145.75 | £139.13 |
H: 166 i 175g/km | £315 | £315 | £330.75 | £173.25 | £165.38 |
I: 176 i 185g/km | £345 | £345 | £362.25 | £189.75 | £181.13 |
J: 186 i 200g/km | £395 | £395 | £414.75 | £217.25 | £207.38 |
K*: 201 i 225g/km | £430 | £430 | £451.50 | £236.50 | £225.75 |
L: 226 i 255g/km | £735 | £735 | £771.75 | £404.25 | £385.88 |
M: Dros 255g/km | £760 | £760 | £798 | £418 | £399 |
*Gan gynnwys ceir gyda ffigwr CO2 dros 225g/km ond wedi’u cofrestru cyn 23 Mawrth 2006.
3. Ceir a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd cyn 1 Mawrth 2001
Mae’r gyfradd dreth cerbyd yn seiliedig ar faint yr injan.
Nwyddau ysgafn neu breifat (TC11)
Maint yr injan (cc) | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
Dim dros 1549 | £220 | £220 | £231 | £121 | £115.50 |
Dros 1549 | £360 | £360 | £378 | £198 | £189 |
4. Cartrefi modur
Mae’r gyfradd dreth cerbyd yn seiliedig ar bwysau refeniw’r cerbyd (a elwir hefyd yn uchafswm pwysau cerbyd neu bwysau gros cerbyd).
Nwyddau ysgafn neu breifat (TC11)
Mae gan gerbydau nwyddau ysgafn neu breifat bwysau refeniw o 3,500kg neu lai.
Maint yr injan (cc) | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
Dim dros 1549 | £220 | £220 | £231 | £121 | £115.50 |
Dros 1549 | £360 | £360 | £378 | £198 | £189 |
Nwyddau trwm preifat (TC10)
Mae gan gerbydau nwyddau trwm preifat bwysau refeniw dros 3,500kg.
Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | Un taliad am 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|
£171 | £171 | £179.55 | £94.05 | £89.78 |
Os cafodd eich cartref modur ei gofrestru rhwng 1 Ebrill 2017 a 11 Mawrth 2020
Byddwch yn talu cyfradd wahanol o dreth os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol i’ch cartref modur:
- mae yn y categori M1SP - gwiriwch gyda’ch deliwr os nad ydych yn siŵr
- mae ei allyriadau CO2 wedi’u cynnwys ar y ‘dystysgrif cymeradwyaeth math� (gellir galw hon yn ‘dystysgrif cydymffurfiad� neu ‘gymeradwyaeth cerbyd unigol�)
5. Cyfraddau treth cerbyd eraill
Cerbydau nwyddau ysgafn (TC39)
Cerbydau a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Mawrth 2001 a dim dros 3,500kg pwysau refeniw (a elwir hefyd yn uchafswm pwysau cerbyd neu bwysau gros cerbyd).
Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|
£345 | £345 | £362.25 | £189.75 | £181.13 |
Euro 4 cerbydau nwyddau ysgafn (TC36)
Cerbydau a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2003 a 31 Rhagfyr 2006, sy’n cydymffurfio ag Euro 4 ac sydd ddim dros 3,500kg pwysau refeniw. Mae hyn hefyd yn cynnwys cerbydau di-allyriadau.
Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|
£140 | £140 | £147 | £77 | £73.50 |
Euro 5 cerbydau nwyddau ysgafn (TC36)
Cerbydau a gofrestrwyd rhwng 1 Ionawr 2009 a 31 Rhagfyr 2010, sy’n cydymffurfio ag Euro 5 ac sydd ddim dros 3,500kg pwysau refeniw. Mae hyn hefyd yn cynnwys cerbydau di-allyriadau.
Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|
£140 | £140 | £147 | £77 | £73.50 |
Beic modur (gyda neu heb gerbyd ochr) (TC17)
Maint yr injan | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
Beic Modur Di-allyriadau | £26 | £26 | £27.30 | Amh. | Amh. |
Dim dros 150 | £26 | £26 | £27.30 | Amh. | Amh. |
151-400 | £57 | £57 | £59.85 | £31.35 | £29.93 |
401-600 | £87 | £87 | £91.35 | £47.85 | £45.68 |
Dros 600 | £121 | £121 | £127.05 | £66.55 | £63.53 |
Beiciau tair olwyn (dim dros 450kg heb lwyth) (TC50)
Maint yr injan (cc) | Un taliad am 12 mis | Un taliad am 12 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol | Cyfanswm o 12 taliad drwy Ddebyd Uniongyrchol | Un taliad am 6 mis | 6 mis drwy Ddebyd Uniongyrchol |
---|---|---|---|---|---|
Beic tair olwyn di-allyriadau | £26 | £26 | 27.30 | Amh. | Amh. |
Beic tair olwyn dim dros 150 | £26 | £26 | £27.30 | Amh. | Amh. |
Pob beic tair olwyn arall | £121 | £121 | £127.05 | £66.55 | £63.53 |
Trwyddedau masnach
Gallwch gael trwyddedau masnach am rhwng 6 a 12 mis, gan ddibynnu ar ba mis rydych yn gwneud cais ynddo.
Y mis rydych yn gwneud cais | Pan fydd y drwydded yn dod i ben | Am faint o amser y mae’n ddilys | Cyfradd dreth am bob cerbyd | Cyfradd dreth am feiciau modur a beiciau tair olwyn |
---|---|---|---|---|
Ionawr (trwydded 6 mis) | Mehefin | 6 mis | £94.05 | £65.55 |
Ionawr (trwydded 12 mis) | Rhagfyr | 12 mis | £171.00 | £121.00 |
Chwefror | Rhagfyr | 11 mis | £171.00 | £121.00 |
Mawrth | Rhagfyr | 10 mis | £156.75 | £110.90 |
Ebrill | Rhagfyr | 9 mis | £141.05 | £99.80 |
Mai | Rhagfyr | 8 mis | £125.40 | £88.75 |
Mehefin | Rhagfyr | 7 mis | £109.70 | £77.65 |
Gorffennaf | Rhagfyr | 6 mis | £94.05 | £66.55 |
Awst | Mehefin | 11 mis | £171.00 | £121.00 |
Medi | Mehefin | 10 mis | £156.75 | £110.90 |
Hydref | Mehefin | 9 mis | £141.05 | £99.80 |
Tachwedd | Mehefin | 8 mis | £125.40 | £88.75 |
Rhagfyr | Mehefin | 7 mis | £109.70 | £77.65 |