Prynu rhif cofrestru personol

Gallwch brynu rhif cofrestru personol ar gyfer eich platiau rhif gan DVLA ar-lein neu mewn ocsiwn. Chwilio ar-lein i weld pa rifau sydd ar gael a鈥檜 cost.

Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cynnwys

Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn.

Gallwch dim ond defnyddio rhifau cofrestru personol ar gerbyd sydd wedi鈥檌 gofrestru (neu ar fin gael ei gofrestru), wedi鈥檌 drethu ac yn cael ei ddefnyddio yn y DU.

Ni allwch wneud i鈥檙 cerbyd edrych yn fwy newydd nag ydyw mewn gwirionedd. Er enghraifft, ni allwch roi rhif cofrestru 鈥�07鈥� ar gerbyd a gofrestrwyd yn 2003.

Pan rydych yn prynu rhif cofrestru personol, rydych yn prynu鈥檙 hawl i aseinio鈥檙 rhif hwn i gerbyd a gofrestrwyd yn eich enw chi neu enw rhywun arall (yr enwebai).

Ocsiynau rhifau cofrestru

Mae hefyd yn arwerthu rhai rhifau cofrestru unigryw. Cynhelir yr ocsiynau hyn tua 6 waith y flwyddyn ac mae prisiau wrth gefn yn dechrau o 拢130. Gallwch gynnig ar-lein, yn bersonol, dros y ff么n neu鈥檔 ysgrifenedig.

Gwerthiannau preifat

Gallwch brynu rhif cofrestru personol gan ddeliwr neu鈥檔 breifat. Os ydych yn gwneud hyn, sicrhewch eich bod yn derbyn y dystysgrif hawl V750W neu鈥檙 dystysgrif gadw rhifau V778W.