Premiymau anabledd

Printable version

1. Trosolwg

Mae premiymau anabledd yn symiau ychwanegol o arian sydd wedi鈥檜 hychwanegu at eich:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Budd-dal Tai

Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei ychwanegu at eich taliadau budd-dal yn awtomatig felly, fel arfer does dim rhaid i chi wneud cais am bremiwm anabledd.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae yna 3 math o bremiwm anabledd ar gyfer oedolion:

  • premiwm anabledd
  • premiwm anabledd uwch
  • premiwm anabledd difrifol

Gallwch gael mwy nag un premiwm ar y tro.

2. Beth fyddwch yn ei gael

Gallwch gael premiwm anabledd ar ei ben ei hun. Efallai y byddwch yn cael premiwm anabledd difrifol neu uwch hefyd os ydych yn gymwys ar eu cyfer.

Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, ni allwch gael y premiwm anabledd, ond efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol a uwch.

Premiwm anabledd

Byddwch yn cael:

  • 拢43.20 yr wythnos ar gyfer person sengl
  • 拢61.65 yr wythnos ar gyfer cwpl

Premiwm anabledd difrifol

Byddwch yn cael:

  • 拢82.90 yr wythnos ar gyfer person sengl
  • 拢165.80 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw鈥檙 ddau ohonoch yn gymwys

Bydd rhai cyplau yn gymwys ar gyfer y cyfradd is o 拢81.50 yr wythnos yn lle.

Premiwm anabledd uwch

Byddwch yn cael:

  • 拢21.20 yr wythnos ar gyfer person sengl
  • 拢30.25 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw o leiaf un ohonoch yn gymwys

Sut cewch eich talu

Mae鈥檙 holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i gyfrif fel eich cyfrif banc.

Mae yna gyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl 16 oed i dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ei gael. Gelwir hyn yn Cap ar fudd-daliadau.

3. Cymhwyster

Gall taliadau premiwm anabledd gael eu hychwanegu i鈥檆h:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Budd-dal Tai

Fel arfer, mae鈥檔 rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer premiwm anabledd i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol neu uwch.

Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, dim ond premiwm uwch neu difrifol y gallwch ei gael.

Defnyddiwch cyfrifiannell budd-daliadau i wirio eich cymhwyster.

Premiwm anabledd

Mae rhaid i chi neu鈥檆h partner fod o dan oedran credyd pensiwn a naill ai wedi cofrestru鈥檔 ddall neu鈥檔 cael:

  • Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Taliad Anabledd Oedolion (ADP)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Credyd Treth Gwaith gydag elfen anabledd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Budd-dal Analluogrwydd

Os nad ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn dal i gael y premiwm os nad ydych wedi gallu gweithio am o leiaf blwyddyn.

Premiwm anabledd difrifol

Rhaid i chi gael y premiwm anabledd neu ESA yn seiliedig ar incwm, ac un o鈥檙 budd-daliadau cymwys canlynol:

  • Elfen bywyd bob dydd PIP
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Elfen gofal DLA ar y gyfradd ganolig neu uwch
  • Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch
  • Lwfans Gweini (neu Lwfans Gweini Cyson a dalwyd gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)

Fel arfer, ni allwch cael unrhyw un sy鈥檔 18 oed neu鈥檔 h欧n yn byw gyda chi, oni bai eu bod mewn un o鈥檙 sefyllfaoedd hyn:

  • maent yn cael budd-dal cymwys
  • maent wedi cofrestru鈥檔 ddall
  • maent yn lletywr neu鈥檔 is-denant (ond nid perthynas agos)
  • maent yn gwneud taliadau ar wah芒n i鈥檙 landlord

Ni allwch gael premiwm anabledd difrifol os yw rhywun yn cael un o鈥檙 canlynol am ofalu amdanoch chi:

  • Lwfans Gofalwr
  • yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol
  • Taliad Cymorth Gofalwr

Os ydych mewn cwpl

Byddwch yn cael swm uwch o bremiwm anabledd difrifol os ydych chi a鈥檆h partner yn gymwys.

Gallwch gael y swm is os:

  • mae rhywun yn cael Lwfans Gofalwr, yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol neu Daliad Cymorth Gofalwr am ofalu am un ohonoch yn unig
  • dim ond un ohonoch sy鈥檔 bodloni鈥檙 meini prawf cymhwyster a鈥檙 llall wedi ei gofrestru鈥檔 ddall

Premiwm anabledd uwch

I gael hwn mae鈥檔 rhaid i chi fod o dan oedran credyd pensiwn.

Rhaid i chi gael y premiwm anabledd neu ESA yn seiliedig ar incwm, ac un o鈥檙 canlynol:

  • Elfen bywyd bob dydd PIP ar y gyfradd uwch (鈥榳edi鈥檌 gynyddu鈥�)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Elfen gofal DLA ar radd uwch
  • Elfen bywyd bob dydd Taliad Anabledd Oedolion (ADP) ar y gyfradd uwch (鈥榳edi鈥檌 gynyddu鈥�)

Byddwch hefyd yn cael hyn os ydych yn y gr诺p cymorth ar gyfer ESA yn seiliedig ar incwm.

4. Sut i wneud cais

Nid oes yn rhaid i chi wneud cais am bremiwm anabledd. Os ydych yn gymwys, caiff ei ychwanegu鈥檔 awtomatig at eich:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Budd-dal Tai

Cysylltwch 芒鈥檆h Canolfan Byd Gwaith lleol os nad yw wedi cael ei dalu.

Os ydych yn anghytuno 芒 phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.