Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Printable version

1. Trosolwg

Swm o arian ychwanegol yw Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael ar ben eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os ydych:

  • yn ddyn a aned cyn 6 Ebrill 1951
  • yn ddynes a aned cyn 6 Ebrill 1953

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cewch Bensiwn y Wladwriaeth newydd os cawsoch eich geni ar neu ar 么l y dyddiad hwn. Ni fyddwch yn gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, ond efallai y gallech barhau i etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth gan eich partner.

Cewch Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig, os ydych yn gymwys i鈥檞 gael, oni bai eich bod wedi contractio allan ohono.

Telir eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth gyda鈥檆h Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

2. Beth fyddwch yn ei gael

Nid oes unrhyw swm sefydlog ar gyfer Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Bydd faint a gewch yn dibynnu ar:

  • faint o flynyddoedd rydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar gyfer
  • eich enillion
  • p鈥檜n ai ydych wedi contractio allan o鈥檙 cynllun.
  • os ydych wedi talu swm ychwanegol ar gyfer eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (roedd hyn ond yn bosibl rhwng 12 Hydref 2015 a 5 Ebrill 2017)

Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint y gallech ei gael.

Sut y cewch eich talu

Mae鈥檙 Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei dalu gyda鈥檆h Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i mewn i鈥檆h cyfrif banc.

3. Cymhwysedd

Gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016

Ni chewch Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016. Byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth newydd.

Gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a dechrau hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, cewch unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth mae hawl gennych i鈥檞 gael yn awtomatig. Nid oes angen gwneud cais ar wah芒n.

Efallai na fyddwch yn cael unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer cyfnodau pan roeddech wedi eich contractio allan ohono.

Pan fyddwch wedi cyfrannu tuag at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Mae Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei wneud i fyny o 3 cynllun. Efallai eich bod wedi cyfrannau i fwy nag un, yn dibynnu ar:

  • pa mor hir rydych wedi bod yn gweithio
  • os ydych yn dewis i dalu ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
Amser Cynllun Rydych wedi cyfrannu os
2002 i 2016 Ail Bensiwn y Wladwriaeth Roeddech yn gyflogedig neu鈥檔 hawlio budd-daliadau penodol
1978 i 2002 Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) Roeddech yn gyflogedig
12 Hydref 2015 i 5 Ebrill 2017 Talu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth Roeddech wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 ac wedi eithrio i mewn

Ail Bensiwn y Wladwriaeth ers 2002

Gwnaethoch gyfrannu tuag at eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth trwy eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol os oeddech ar unrhyw adeg rhwng 6 Ebrill 2002 a 5 Ebrill 2016:

  • yn gyflogedig ac yn ennill dros y terfyn enillion is 鈥� roedd hyn yn 拢5,824 yn y flwyddyn dreth 2015 i 2016
  • yn gofalu am blant o dan 12 oed ac yn hawlio Budd-dal Plant
  • yn gofalu am berson s芒l neu anabl am fwy na 20 awr yr wythnos ac yn hawlio Credyd Gofalwr
  • yn gweithio fel gofalwr maeth cofrestredig ac yn hawlio Credyd Gofalwr
  • yn cael budd-daliadau penodol eraill oherwydd salwch neu anabledd

4. Contractio allan

Gallech ond contractio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth os oedd eich cyflogwr yn rhedeg cynllun pensiwn contractio-allan. Gwiriwch gyda nhw.

Tra roeddech yn aelod o bensiwn gweithle oedd wedi ei gontractio allan, nid oeddech yn cyfrannu tuag at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Mewn rhai achosion, gallech gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth hyd yn oed os na wnaethoch gyfrannu, er enghraifft, os oedd eich enillion yn isel.

Ni allwch gontractio allan ar 么l 6 Ebrill 2016. Os oeddech wedi eich contractio allan, roedd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi cynyddu i鈥檆h cyfradd safonol ar 么l y dyddiad hwn.

Mae鈥檙 pensiwn ychwanegol a gewch o gynllun pensiwn wedi鈥檌 gontractio-allan fel arfer yr un fath, neu鈥檔 fwy na鈥檙 Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y byddech wedi鈥檌 gael pe na fyddech wedi eich contractio allan.

Edrychwch i weld os oeddech wedi eich contractio allan

Gallwch ddarganfod os oeddech wedi eithrio trwy:

Efallai bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn gallu dod o hyd i fanylion cyswllt eich darparwr pensiwn os ydych wedi colli cysylltiad 芒 hwy.

Yswiriant Gwladol wrth gontractio allan

Gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is tra roeddech wedi contractio allan os:

Beth sy鈥檔 digwydd pan fyddwch yn ymddeol

Byddwch yn cael pensiwn gan gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr.

5. Sut i wneud cais

Nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw beth i wneud cais am Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Os ydych yn gymwys am Benswin Ychwanegol y Wladwriaeth, byddwch yn ei gael yn awtomatig pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Ar 么l i chi wneud cais, bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint fyddwch yn ei gael.

6. Etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Os bydd eich priod neu bartner sifil yn marw, efallai byddwch yn gallu etifeddu rhan o鈥檜 Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaeth Pensiwn i wirio beth y gallech wneud cais am a sut i wneud hynny.

Uchafswm Ail Bensiwn y Wladwraieth y gallwch ei etifeddu

Gallwch etifeddu hyd at 50% o Ail Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil.

Uchafswm pensiwn SERPS a thalu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei etifeddu

Mae鈥檙 uchafswm y gallwch ei etifeddu yn dibynnu ar bryd bu farw eich priod neu bartner sifil.

Os gwnaethant farw cyn 6 Hydref 2002, gallwch etifeddu hyd at 100% o鈥檜 pensiwn SERPS.

Os gwnaethant farw ar neu ar 么l 6 Hydref 2002, mae鈥檙 uchafswm pensiwn SERPS ac ychwanegiad Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei etifeddu yn dibynnu ar eu dyddiad geni.

Dyddiad geni dyn Dyddiad geni dynes Mwyafswm % o SERPS a thalu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei etifeddu
5 Hydref 1937 neu cyn 5 Hydref 1942 neu cyn 100%
6 Hydref 1937 i 5 Hydref 1939 6 Hydref 1942 i 5 Hydref 1944 90%
6 Hydref 1939 i 5 Hydref 1941 6 Hydref 1944 i 5 Hydref 1946 80%
6 Hydref 1941 i 5 Hydref 1943 6 Hydref 1946 i 5 Hydref 1948 70%
6 Hydref 1943 i 5 Hydref 1945 6 Hydref 1948 i 5 Gorffennaf 1950 60%
6 Hydref 1945 ac ar 么l 6 Gorffennaf 1950 ac ar 么l 50%

Os bu eich priod neu bartner sifil farw o fewn 90 diwrnod o dalu ar ben eu Pensiwn y Wladwriaeth, dylai鈥檙 taliad fod wedi cael ei ad-dalu i鈥檞 yst芒d (cyfanswm eu heiddo ac arian), llai unrhyw daliadau a gawsant cyn iddynt farw. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn etifeddu y rhan talu ar ben fel rhan o鈥檜 Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Sut y caiff ei dalu

Bydd unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth rydych yn ei etifeddu yn cael ei dalu ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich hunan

Yr uchafswm o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallech gael yw 拢218.39 yr wythnos. Nid yw鈥檙 terfyn yn cynnwys talu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael Lwfans Rhiant Gweddw

Efallai y byddwch yn etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Byddwch yn stopio ei gael os bydd eich Lwfans Rhiant Gweddw yn dod i ben.

Efallai y byddwch yn ei gael eto pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os oeddech dros 45 pan roedd gennych hawl i gael Lwfans Rhiant Gweddw.

Os daeth eich Lwfans Rhiant Gweddw neu Lwfans Profedigaeth i ben cyn i chi fod yn 55, cewch lai o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Pan na allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Ni allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil os ydych yn ail-briodi neu鈥檔 ffurfio partneriaeth sifil arall cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae鈥檙 dyddiad rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth hefyd yn effeithio ar p鈥檜n ai os allech etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Ni allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil os gwnaethant farw cyn iddynt gyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar 么l i chi gyrraedd eich un chi.

Nid yw hyn yn gymwys os ydych yn ddynes oedd yn briod 芒:

  • dyn
  • dynes a newidiodd ei rhyw o ddyn i ddynes yn gyfreithiol yn ystod eich priodas

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016

Ni allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil os naill a鈥檌:

  • bu farw eich priod neu bartner sifil ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016 ac wedi cyrraedd (neu y byddant wedi cyrraedd) oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016
  • gwnaethoch ddechrau eich priodas neu bartneriaeth sifil ar neu ar 么l 6 Ebrill 2016

7. Os ydych yn ysgaru

Os ydych yn ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil yn cael ei diddymu gall y llys benderfynu y dylid rhannu eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth fel rhan o鈥檙 trefniadau ariannol.

Bydd angen llenwi ffurflen BR20W i roi manylion eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.