Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Faint fyddwch yn ei gael
Mae faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
yr wythnos yw鈥檙 Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn ddyn a anwyd ar neu ar 么l 6 Ebrill 1951 neu鈥檔 fenyw a anwyd ar neu ar 么l 6 Ebrill 1953, byddwch yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny.
Cymwys ar gyfer y swm llawn
I gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn mae angen nifer penodol o flynyddoedd cymhwyso o Yswiriant Gwladol arnoch.
Os ydych yn ddyn mae angen y canlynol arnoch fel arfer:
- 30 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1945 a 1951
- 44 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1945
Os ydych yn fenyw mae angen y canlynol arnoch chi fel arfer:
- 30 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1950 a 1953 -
- 39 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1950
Os oes gennych lai na鈥檙 nifer llawn o flynyddoedd cymhwyso, bydd eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na
yr wythnos.Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i ddarganfod faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych.
Beth sy鈥檔 cyfrif fel blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol
Mae blwyddyn gymhwyso yn cyfrif os, yn y flwyddyn honno, mae un neu fwy o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- roeddech yn gweithio ac yn talu Yswiriant Gwladol
- cawsoch Gredydau Yswiriant Gwladol, er enghraifft, roeddech yn ddi-waith, yn s芒l, neu鈥檔 rhiant neu鈥檔 ofalwr
- gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
Pryd y gallwch gael mwy na Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn
Efallai y cewch fwy os:
- ydych yn gymwys i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
- ydych wedi oedi (gohirio) rhag cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch ohirio hyd yn oed os ydych wedi dechrau cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu 1% am bob 5 wythnos y byddwch yn gohirio.
Cynnydd blynyddol
Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn gan b鈥檜n bynnag yw鈥檙 uchaf o鈥檙 canlynol:
- enillion - y twf canrannol cyfartalog mewn cyflogau (ym Mhrydain Fawr)
- prisiau - y twf canrannol mewn prisiau yn y DU fel y鈥檌 mesurwyd gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
- 2.5%
Budd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys i鈥檞 cael
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Gredyd Pensiwn, hyd yn oed os ydych wedi cynilo arian ar gyfer ymddeoliad.
Os oes gennych anabledd a bod rhywun yn helpu i ofalu amdanoch, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gweini. Efallai eich bod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill a chymorth ariannol.
Mae taliadau Cynnydd Oedolion Dibynnol wedi dod i ben.