Cyfrifo'r gyfradd dreth newydd

Mae angen ichi gyfrifo a fydd angen ichi dalu mwy o dreth oherwydd y newid.

  1. Darganfod y gyfradd newydd o dreth cerbyd.

  2. Cyfrifo鈥檙 gwahaniaeth rhwng cyfraddau hen a newydd eich treth cerbyd. Er enghraifft, os yw鈥檙 hen gyfradd yn 拢100 a鈥檙 gyfradd newydd yn 拢130, y gwahaniaeth yw 拢30.

  3. Rhannu鈥檙 gwahaniaeth 芒 nifer y misoedd y byddwch yn talu eich treth. Er enghraifft, 拢30 wedi鈥檌 rannu 芒 12 mis yw 拢2.50.

  4. Lluosi hwn 芒 nifer y misoedd sy鈥檔 weddill ar y dreth. Er enghraifft, 拢2.50 wedi鈥檌 luosi 芒 4 mis yw 拢10.

  5. Talu鈥檙 dreth cerbyd ychwanegol. Yn yr enghraifft hon byddai angen ichi dalu 拢10 o dreth ychwanegol.

Os bydd y gyfradd dreth yn cynyddu

Mae鈥檔 rhaid ichi dalu鈥檙 gyfradd uwch o ddiwrnod cyntaf y mis y byddwch yn newid y gyfradd dreth ynddo.

Er enghraifft Os byddwch yn newid y dosbarth treth ar 25 Mawrth, bydd yn rhaid ichi dalu鈥檙 gyfradd uwch o 1 Mawrth.

Os bydd y gyfradd dreth yn gostwng

Rydych yn talu鈥檙 gyfradd ostyngol o ddiwrnod cyntaf y mis nesaf.

Er enghraifft Os byddwch yn newid y dosbarth treth ar 25 Mawrth, byddwch yn talu鈥檙 gyfradd ostyngol o 1 Ebrill.