Newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Printable version

1. Gwneud cais ar-lein

Newid y cyfeiriad ar naill ai:

  • eich trwydded yrru lawn
  • eich trwydded yrru dros dro

Ni chodir tâl i newid eich cyfeiriad gyda DVLA.

Gallwch barhau i yrru tra’ch bod yn aros am eich trwydded newydd.

Os ydych yn dymuno newid eich enw ar yr un pryd, bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Mae’n rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy i fyny at £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi ddechrau

Mae arnoch angen:

  • eich trwydded yrru
  • bod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr â€� mae
  • rhoi’r cyfeiriadau lle rydych wedi byw yn y 3 mlynedd diwethaf
  • peidio â bod wedi eich gwahardd rhag gyrru

Rhowch eich rhif trwydded yrru, rhif Yswiriant Gwladol a rhif pasbort os ydych yn eu gwybod.

Os ydych am newid eich ffotograff ar yr un pryd

Os yw eich trwydded yn ddilys am o leiaf 2 flynedd arall neu bydd rhaid ichi ei adnewyddu i newid eich ffotograff.

Os yw’n ddilys am lai na 2 flynedd, gallwch newid eich ffotograff pan fyddwch yn .

Gallwch naill ai:

  • ddewis defnyddio’r un ffotograff â’ch pasbort
  • anfon ffotograff math pasbort diweddar - byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych sut i’w hanfon ar ôl ichi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Y gost yw £14. Gallwch dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta. Nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded cyfnod byr meddygol.

Os ydych yn symud dramor

Ni allwch gofrestru eich cyfeiriad newydd ar eich trwydded yrru Brydeinig. Cysylltwch â’r awdurdod trwyddedau gyrru yn eich gwlad breswyl newydd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael e-bost o DVLA yn cadarnhau ar ôl ichi wneud cais. Mae’n bosib y byddwch yn cael eich gofyn i gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

2. Gwneud cais drwy’r post

Gallwch hefyd newid eich cyfeiriad ar eich trwydded drwy’r post. Mae’r broses yn wahanol yn ddibynnol os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun neu bapur.

Bydd eich trwydded yrru fel arfer yn cyrraedd o fewn 3 wythnos. Gallai gymryd yn hirach os bydd angen i DVLA wirio eich hunaniaeth neu’ch manylion meddygol. Cysylltwch â DVLA os nad yw wedi cyrraedd o fewn 3 wythnos.

Mae’n rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy i fyny at £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Trwydded yrru cerdyn-llun

Cwblhewch yr adran ‘newidiadau� ar y llythyr D741W a ddaeth gyda’ch trwydded.

Wedyn anfonwch y drwydded yrru cerdyn-llun ynghyd â’r llythyr i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Os nad oes gennych eich D741W, defnyddiwch ffurflen gais trwydded yrru D1W ar gyfer ceir a beiciau modur neu D2W ar gyfer lorïau a bysiau - gallwch gael y rhain yn y mwyafrif o .

Os ydych chi am newid eich ffotograff ar yr un pryd, cwblhewch D1W ‘cais am drwydded yrru�, sydd ar gael yn y mwyafrif o . Bydd hefyd angen ichi anfon:

  • ffotograff math pasbort diweddar wedi’i argraffu yn ddiweddar
  • siec neu archeb bost am £17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 neu fod gennych drwydded cyfnod byr meddygol)

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.

Os ydych chi am newid eich enw ar yr un pryd, cwblhewch D1W ‘cais am drwydded yrru�, sydd ar gael yn y mwyafrif o .

Bydd hefyd angen ichi anfon dogfennau gwreiddiol yn eich enw newydd.

Trwydded yrru bapur

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrruâ€� wedi ei chwblhau am drwyddedau car a beic modur, neu ffurflen D2W ‘Cais am drwydded yrru lori/bwsâ€� wedi’i chwblhau am drwyddedau lori a bws, sydd ar gael yn y mwyafrif o
  • eich trwydded yrru
  • dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau eich hunaniaeth
  • ffotograff pasbort