Rheoli balans eich benthyciad myfyrwyr
Mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif ad-daliadau benthyciad myfyriwr:
- i wirio eich balans
- i weld faint ydych chi wedi ei ad-dalu tuag at eich benthyciad
- i weld faint o log sydd wedi ei godi ar eich benthyciad hyd yma
- i wneud ad-daliad untro
- gofynnwch am ad-daliad os oedd eich incwm blynyddol yn is na鈥檙 trothwy ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol
- i sefydlu a gwneud newidiadau i Ddebydau Uniongyrchol
- i wirio pa gynllun ad-dalu ydych chi arno
- i wirio a diweddaru eich manylion banc
- i argraffu prawf o鈥檆h cynllun ad-dalu os oes angen i chi ei ddangos i鈥檆h cyflogwr
- i roi gwybod i鈥檆h Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) os ydych chi wedi newid eich manylion cyswllt
- i weld llythyrau a negeseuon e-bost mae SLC wedi eu hanfon atoch
- i ad-dalu yn eich arian lleol os ydych chi鈥檔 byw dramor 鈥� mae hyn yn cynnwys taliadau cerdyn cylchol
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).
At hynny, gallwch wneud ad-daliadau a wneir unwaith yn unig tuag at eich benthyciad myfyrwyr chi, neu fenthyciad rhywun arall, heb fewngofnodi.
Bydd angen defnyddio gwasanaeth arall i ddiweddaru manylion eich cyflogaeth, er enghraifft os byddwch yn gadael y DU am fwy na 3 mis.
Cyn i chi ddechrau
I fewngofnodi, bydd arnoch angen:
- eich cyfeirnod cwsmer neu鈥檆h cyfeiriad ebost
- eich cyfrinair
- eich ateb cyfrinachol, er enghraifft enw eich mam cyn priodi
Os nad ydych yn gwybod y manylion hyn, gallwch eu hailosod drwy ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad ebost a oedd gennych pan wnaethoch gais am eich benthyciad. Cysylltwch 芒鈥檙 Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr os ydych wedi newid eich cyfeiriad ebost.